18.—(1) At ddibenion paragraff 22 o Atodlen 1 i'r Ddeddf pennir y cyfnodau canlynol —
(d) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol gyntaf, y cyfnod o 1 Ebrill 2007 tan 31 Mawrth 2008;
(e) mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol ddilynol, y cyfnod o 1 Ebrill tan 31 Mawrth.
19. Os yw gwybodaeth y mae'n ofynnol iddi gael ei rhoi o dan baragraff (1) o reoliad 4, paragraff (1) o reoliad 11 neu baragraff (1) o reoliad 15 yn wybodaeth sy'n cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur neu ar unrhyw ffurf arall, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal y cyfrifiadur neu'r ddyfais arall sy'n cadw'r wybodaeth honno, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, drefnu bod yr wybodaeth ar gael, neu gyflwyno'r wybodaeth, ar ffurf weladwy a darllenadwy.
20. Os yw person yn rhoi gwybodaeth i'r Comisiynydd yn unol â pharagraff (1) o reoliad 11 neu'n bresennol gerbron y Comisiynydd yn unol â rheoliad 12, caiff y Comisiynydd dalu i'r person hwnnw, os yw'n credu bod hynny'n briodol —
(a) symiau mewn perthynas â threuliau a dynnwyd yn briodol gan y person, a
(b) lwfansau yn iawndal am iddo golli ei amser,
yn unol ag unrhyw raddfeydd ac o dan unrhyw amodau y caiff y Comisiynydd eu pennu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Chwefror 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (“y Comisiynydd”) a sefydlwyd o dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2006 (“y Ddeddf”).
Mae Rhan I o'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaethau dehongli.
Mae Rhan II yn ymwneud â rôl y Comisiynydd yn adolygu trefniadau eiriolaeth, cwynion a chwythu'r chwiban. Mae'n rhagnodi'r math o gyngor a threfniadau cymorth y caiff y Comisiynydd eu hadolygu fel rhan o'i bŵer i adolygu trefniadau eiriolaeth (rheoliad 3). Mae hefyd yn rhoi pŵer i'r Comisiynydd i'w gwneud yn ofynnol i gael gwybodaeth oddi wrth bersonau rhagnodedig at ddibenion penodol (rheoliad 4).
Mae Rhan III yn rhoi pŵer i'r Comisiynydd ddarparu cymorth ariannol a chymorth arall i bobl hŷn yng Nghymru, yn rhagnodi'r achosion a'r gweithdrefnau pan ganiateir rhoi cymorth o'r fath mewn cysylltiad â hwy (rheoliad 5) ac yn darparu amodau y caniateir eu gosod mewn cysylltiad â rhoi cymorth (rheoliad 6).
Mae Rhan IV yn rhoi swyddogaethau i'r Comisiynydd ynghylch archwilio achosion personau penodol sydd neu sydd wedi bod yn bobl hŷn yng Nghymru (rheoliad 7). Mae'n pennu'r mathau o achos a all gael eu harchwilio (rheoliad 8) ac o dan ba amgylchiadau y gall archwiliad gael ei wneud (rheoliad 9). Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal archwiliad (rheoliad 10), rhoi gwybodaeth i'r Comisiynydd mewn cysylltiad ag archwiliad (rheoliad 11), a phresenoldeb tystion gerbron y Comisiynydd (rheoliad 12).
Mae Rhan V yn gwneud darpariaeth bellach ar gyfer y trefniadau ynghylch perthynas y Comisiynydd â phobl hŷn yng Nghymru (rheoliad 13).
Mae Rhan VI yn gwneud darpariaeth ar gyfer adroddiadau penodol a chamau i'w cymryd i'w rhoi ar waith (rheoliadau 14 a 15), ynghylch adroddiadau i'r Cynulliad (rheoliad 16) ac ynghylch cyhoeddi adroddiadau (rheoliad 17).
Mae Rhan VII yn cynnwys darpariaethau amrywiol ynghylch cyfnod y flwyddyn ariannol gychwynnol a'r blynyddoedd ariannol canlynol (rheoliad 18); ynghylch y modd y rhoddir gwybodaeth (rheoliad 19); ynghylch talu treuliau a lwfansau mewn perthynas â rhoi gwybodaeth (rheoliad 20).