Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN V Swyddogaethau pellach

Y berthynas â phobl hŷn yng Nghymru

13.—(1) Rhaid i'r Comisiynydd gymryd camau rhesymol i sicrhau —

(a) bod pobl hŷn yng Nghymru yn cael gwybod am fodolaeth ac am swyddogaethau swyddfa'r Comisiynydd;

(b) bod pobl hŷn yng Nghymru yn cael gwybod am leoliad swyddfa neu swyddfeydd y Comisiynydd ac ym mha ffyrdd y gallant gyfathrebu â'r Comisiynydd a'i staff;

(c) bod pobl hŷn o'r fath yn cael eu hannog i gyfathrebu â'r Comisiynydd a'i staff;

(ch) bod barn pobl hŷn o'r fath ynghylch sut y dylai'r Comisiynydd arfer ei swyddogaethau ac ynghylch cynnwys rhaglen waith flynyddol y Comisiynydd yn cael ei cheisio; a

(d) bod y Comisiynydd a'i staff yn trefnu eu bod ar gael i bobl hŷn o'r fath yn ardal y bobl hŷn.

(2) Wrth arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraff (1) rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r hyn yw anghenion ac amgylchiadau bobl hŷn o'r fath yn ei farn resymol ef.

RHAN VI Adroddiadau

Adroddiadau

14.—(1) Pan ddaw archwiliad a gynhelir yn unol â Rhan IV o'r Rheoliadau hyn i ben, rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad ar ei ganfyddiadau.

(2) Pan ddaw adolygiad ar gyflawni swyddogaethau yn unol ag adran 3 o'r Ddeddf neu adolygiad ar drefniadau yn unol ag adran 5 o'r Ddeddf i ben, caiff y Comisiynydd lunio adroddiad ar ei ganfyddiadau.

(3) Os bydd y Comisiynydd a Chomisiynydd Plant Cymru yn cyflawni eu priod swyddogaethau o dan y Ddeddf a Deddf Safonau Gofal 2000 ynghylch yr un mater caiff y Comisiynydd lunio adroddiad ar y cyd â Chomisiynydd Plant Cymru.

(4) Rhaid i adroddiad a lunnir o dan baragraff (1), (2) neu (3) nodi —

(a) canfyddiadau a chasgliadau'r Comisiynydd; a

(b) unrhyw argymhellion a wneir gan y Comisiynydd.

(5) Rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'i adroddiad—

(a) at y Prif Weinidog;

(b) i lyfrgelloedd y Cynulliad a dau Dŷ'r Senedd;

(c) yn achos adroddiad a lunnir o dan baragraff (1), at y person a gyflwynodd sylwadau i'r Comisiynydd yn unol â rheoliad 9; a

(ch) yn achos adroddiad a lunnir o dan baragraff (1), (2) neu (3), at y person neu'r personau —

(i) y mae ei waith wrth ddarparu gwasanaethau neu ei waith wrth arfer swyddogaethau wedi'i archwilio;

(ii) y mae ei drefniadau mewn perthynas ag eiriolaeth, cwynion neu chwythu'r chwiban wedi'u hadolygu;

(iii) a grybwyllir yn yr adroddiad.

Camau pellach yn sgil adroddiad

15.—(1) Os yw'r Comisiynydd wedi llunio adroddiad ar ôl iddo archwilio achos yn unol ag adran 10 o'r Ddeddf neu adolygiad o'r trefniadau yn unol ag adran 5 o'r Ddeddf sy'n cynnwys argymhelliad mewn perthynas â darparydd gwasanaethau rheoledig yng Nghymru, y Cynulliad neu berson a grybwyllir yn Atodlen 2 i'r Ddeddf, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol mewn ysgrifen i'r person y gwneir yr argymhelliad mewn perthynas ag ef roi'r wybodaeth berthnasol i'r Comisiynydd o fewn y fath gyfnod rhesymol ag y caiff y Comisiynydd ei bennu ond sut bynnag dim hwyrach na 3 mis ar ôl y dyddiad yr anfonir copi o'r adroddiad at y person hwnnw.

(2) Os yw'r Comisiynydd wedi llunio adroddiad ar ôl adolygu cyflawni swyddogaethau yn unol ag adran 3 o'r Ddeddf sy'n cynnwys argymhelliad mewn perthynas â pherson a grybwyllir ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn, caiff y Comisiynydd ofyn mewn ysgrifen i'r person y gwneir yr argymhelliad mewn perthynas ag ef roi'r wybodaeth berthnasol i'r Comisiynydd o fewn y fath gyfnod rhesymol ag y caiff y Comisiynydd ei bennu ond sut bynnag dim hwyrach na 3 mis ar ôl y dyddiad yr anfonir copi o'r adroddiad at y person hwnnw.

(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2) ystyr “yr wybodaeth berthnasol” yw y fath wybodaeth, esboniad neu gymorth i alluogi'r Comisiynydd i benderfynu a yw'r person o dan sylw wedi cydymffurfio â'r argymhelliad neu a fydd yn cydymffurfio ag ef, neu esboniad ar y rheswm dros beidio â chymryd camau o'r fath neu dros beidio â bwriadu eu cymryd.

(4) Pan wneir gofyniad o dan baragraff (1) neu gais o dan baragraff (2) rhaid iddo gynnwys datganiad y gall methiant i ymateb o fewn yr amser a bennir o dan y paragraff perthnasol gael ei gyhoeddi mewn unrhyw fodd y mae'r Comisiynydd yn credu ei fod yn briodol.

(5) Os yw'r Comisiynydd yn credu'n rhesymol, pan gaiff yr wybodaeth berthnasol, nad yw'r camau a gymerwyd neu y bwriedir eu cymryd er mwyn cydymffurfio â'r argymhelliad neu nad yw'r rheswm am beidio â chymryd camau o'r fath neu am beidio â bwriadu eu cymryd, yn ddigonol, caiff y Comisiynydd anfon hysbysiad ysgrifenedig at y person o dan sylw yn nodi'r diffygion, sef hysbysiad y mae angen ymateb iddo o fewn un mis o ddyddiad ei anfon.

(6) Os na chaiff y Comisiynydd ymateb o fewn 1 mis i ddyddiad anfon yr hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (5) neu os yw'n anfodlon ar yr ymateb, caiff y Comisiynydd anfon hysbysiad atodol sy'n mynnu ymateb atodol o fewn 1 mis o ddyddiad ei anfon.

(7) Rhaid i'r hysbysiad atodol gynnwys datganiad y gall methiant i roi'r hyn sy'n ymateb atodol boddhaol ym marn y Comisiynydd, neu fethiant i ymateb o gwbl, gael ei gyhoeddi mewn unrhyw fodd y mae'r Comisiynydd yn credu ei fod yn briodol.

(8) Rhaid i'r Comisiynydd gadw cofrestr yn cynnwys manylion —

(a) argymhellion a geir mewn adroddiadau a lunnir o dan reoliad 14, a

(b) canlyniadau camau pellach a gymerir yn unol â pharagraffau (1), (2), (5) a (6) o'r rheoliad hwn.

(9) Rhaid i unrhyw gofrestr a gedwir o dan baragraff (8) fod yn agored i'w harchwilio gan unrhyw berson ar bob adeg resymol yn swyddfeydd y Comisiynydd a chaiff y Comisiynydd wneud trefniadau i gopïau o'r gofrestr fod ar gael i'w harchwilio mewn unrhyw fan arall neu fannau eraill neu drwy unrhyw fodd arall y mae'n credu eu bod yn briodol.

(10) Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi'r trefniadau archwilio a enwyd mewn ffordd a fydd yn dod â hwy i sylw personau y mae'n debyg, ym marn resymol y Comisiynydd, y bydd ganddynt ddiddordeb.

Adroddiadau i'r Cynulliad

16.—(1) Caiff y Comisiynydd wneud adroddiad i'r Cynulliad mewn cysylltiad ag arfer unrhyw un o'i swyddogaethau cyffredinol yn unol ag adran 2 o'r Ddeddf.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad blynyddol i'r Cynulliad, y mae'n rhaid iddo gynnwys —

(a) crynodeb o'r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau'r Comisiynydd o dan y Ddeddf yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, gan gynnwys crynodeb o'r adroddiadau a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod hwnnw ac o unrhyw sylwadau y gall y Comisiynydd fod wedi'u gwneud yn ystod y cyfnod hwnnw yn unol ag adran 2(3) o'r Ddeddf, gan gynnwys unrhyw sylwadau a wnaed ynghylch ystod neu effeithiolrwydd pwerau'r Comisiynydd;

(b) crynodeb o'r cwynion a wnaed yn unol â gweithdrefn gwyno'r Comisiynydd a sefydlwyd yn unol ag adran 20 o'r Ddeddf a'r camau a gymrwyd gan y Comisiynydd wrth ymateb i'r cwynion hŷn;

(c) adolygiad o faterion sy'n berthnasol i fuddiannau pobl hyn yng Nghymru; a

(ch) crynodeb o raglen waith y Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y llunnir yr adroddiad ar ei chyfer ac o gynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dilyn.

(3) Rhaid i'r adroddiad cyntaf y cyfeirir ato ym mharagraff (2) gael ei lunio yn 2008.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r Comisiynydd, erbyn 1 Hydref bob blwyddyn fan bellaf, anfon copi o'r adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), (2) a (3) —

(a) at y Prif Weinidog; a

(b) i lyfrgelloedd y Cynulliad a dau Dŷ'r Senedd.

Cyhoeddi adroddiadau

17.—(1) Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, bod yr adroddiadau a lunnir o dan reoliadau 14 ac 16 ar gael mewn fformatau sydd yn hygyrch i bobl hŷn.

(2) Rhaid i'r Comisiynydd drefnu bod copïau o adroddiadau a lunnir o dan reoliadau 14 ac 16 ar gael i'w harchwilio yn swyddfa'r Comisiynydd ar bob adeg resymol ac mewn unrhyw fannau eraill neu drwy unrhyw gyfrwng arall, gan gynnwys drwy gyfrwng electronig, y mae'r Comisiynydd yn credu eu bod yn briodol.

(3) Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi'r trefniadau archwilio a enwyd mewn ffordd a fydd yn dod â hwy i sylw personau y mae'n debyg, ym marn resymol y Comisiynydd, y bydd ganddynt ddiddordeb ynddynt.