Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN III Rhoi cymorth

Rhoi cymorth mewn achosion

5.—(1) Caiff y Comisiynydd, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), roi cymorth i berson hŷn yng Nghymru —

(a) wrth wneud cwyn neu sylwadau i neu mewn perthynas ag unrhyw berson y cyfeirir ato yn adrannau 8(1)(a) i (d) o'r Ddeddf, a

(b) mewn perthynas ag achosion a ragnodir ym mharagraff (2) pan fydd yr achosion, ym marn resymol y Comisiynydd, yn ymwneud â materion sy'n gymwys neu'n berthnasol yn fwy cyffredinol i fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru nag yn yr achos penodol o dan sylw.

(2) Mae'r achosion a ragnodir at ddibenion adran 8(1)(e) o'r Ddeddf yn achosion sy'n ymwneud â'r canlynol —

(a) darparu gwasanaethau rheoledig i berson hŷn yng Nghymru neu mewn perthynas ag ef;

(b) darparu gwasanaethau i berson hŷn yng Nghymru neu mewn perthynas ag ef gan unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 3 i'r Ddeddf neu unrhyw berson sy'n darparu gwasanaethau ar ran y person hwnnw neu o dan drefniant ag ef; neu

(c) yr effaith a geir ar berson hŷn yng Nghymru wrth arfer neu arfer arfaethedig unrhyw swyddogaeth gan y Cynulliad neu berson a grybwyllir yn Atodlen 2 i'r Ddeddf.

(3) Wrth benderfynu a ddylid rhoi cymorth, caiff y Comisiynydd gymryd i ystyriaeth y cymorth ariannol a'r cymorth arall sydd ar gael i'r person hŷn yng Nghymru mewn perthynas â'r achosion, y gŵyn neu'r sylwadau o dan sylw, gan gynnwys cymorth o dan Ddeddf Mynediad at Gyfiawnder 1999.

(4) Nid yw'r rheoliad hwn yn effeithio ar y gyfraith a'r arferion ynghylch pwy gaiff gynrychioli person mewn perthynas ag unrhyw achos.

Amodau

6.—(1) Os bydd y Comisiynydd yn penderfynu darparu cymorth ariannol i berson hŷn yng Nghymru yn unol â rheoliad 5 gellir darparu'r cymorth yn ddarostyngedig i'r naill neu'r llall o'r amodau a bennir ym mharagraff (2) neu'n ddarostyngedig i'r ddau.

(2) Dyma'r amodau —

(a) y caiff y Comisiynydd adennill cost resymol rhoi'r cymorth o unrhyw symiau o delir gan bartïon eraill at y diben hwnnw yn yr achos o dan sylw;

(b) nad yw'r cymorth a roddir yn dyblygu cymorth sydd wedi'i roi neu a all gael ei roi o dan unrhyw ddeddfiad.

(3) At ddibenion paragraff (2)(a) nid yw'n berthnasol a yw'r symiau a delir gan bartïon eraill yn daladwy yn rhinwedd penderfyniad gan lys neu dribiwnlys, cytundeb a wnaed er mwyn osgoi achos neu er mwyn dod ag achos i ben, neu fel arall.

RHAN IV Archwilio achosion

Archwiliadau

7.  Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol yn y Rhan hon caiff y Comisiynydd archwilio achosion personau penodol sydd neu sydd wedi bod yn bobl hŷn yng Nghymru.

Achosion sy'n destun archwilio

8.  Yn ddarostyngedig i reoliad 9, caiff y Comisiynydd archwilio achosion personau penodol sydd neu sydd wedi bod yn bobl hŷn yng Nghymru —

(a) y mae gwasanaethau rheoledig yn cael neu wedi cael eu darparu iddynt neu mewn perthynas â hwy;

(b) y mae gwasanaethau yn cael neu wedi cael eu darparu iddynt neu mewn perthynas â hwy gan unrhyw un o'r personau a grybwyllir yn Atodlen 3 i'r Ddeddf neu bersonau sy'n darparu gwasanaethau o'r fath ar ran unrhyw un o'r personau hynny neu o dan drefniant â hwy; neu

(c) sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ac y mae arfer, neu'r bwriad i arfer, unrhyw swyddogaeth sydd gan y Cynulliad neu sydd gan unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 2 i'r Ddeddf yn effeithio arnynt neu wedi effeithio arnynt,

os yw'r achosion yn ymwneud â materion ynglŷn â darparu gwasanaethau o'r fath neu ag effaith arfer y swyddogaethau hynny ar y person a enwyd.

Yr amgylchiadau lle gellir gwneud archwiliad

9.  Dim ond achos person penodol sydd neu sydd wedi bod yn berson hŷn yng Nghymru y caiff y Comisiynydd archwilio —

(a) os bydd sylwadau wedi'u gwneud i'r Comisiynydd gan y person o dan sylw, neu os nad yw'r person o dan sylw am unrhyw reswm yn gallu gwneud sylwadau o'r fath, os gwneir y sylwadau i'r Comisiynydd ar ran y person dan sylw gan berson sy'n ymddangos i'r Comisiynydd ei fod yn berson priodol i weithredu ar ran y person o dan sylw;

(b) os yw'r Comisiynydd o'r farn bod y sylwadau'n codi cwestiwn o egwyddor sy'n gymwys neu'n berthnasol yn fwy cyffredinol i fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru nag yn yr achos penodol o dan sylw; ac

(c) os yw'r Comisiynydd wedi cymryd i ystyriaeth a yw'r materion sydd o dan sylw yn yr achos wedi cael neu yn cael eu hystyried yn ffurfiol mewn unrhyw fodd gan bersonau eraill ac os nad ydynt, a ydynt, ym marn y Comisiynydd, yn fwy addas i gael eu hystyried gan bersonau eraill.

Y weithdrefn ar gyfer cynnal archwiliad

10.—(1) Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu cynnal archwiliad rhaid iddo —

(a) llunio cylch gwaith yr archwiliad;

(b) anfon y cylch gwaith at y person a gyflwynodd sylwadau mewn perthynas â'r achos yn unol â pharagraff (a) o reoliad 9;

(c) anfon hysbysiad ysgrifenedig o'r archwiliad arfaethedig a chopïau o'r cylch gwaith at y person (“y person sy'n cael ei archwilio”) y mae ei waith wrth ddarparu gwasanaethau neu wrth arfer swyddogaethau i gael ei archwilio;

(ch) rhoi cyfle i'r person sy'n cael ei archwilio, ac os yw ef yn dymuno hynny, i'w gynrychiolydd, gyflwyno sylwadau mewn ysgrifen neu yn bersonol mewn perthynas â'r materion sy'n cael eu harchwilio.

(2) Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu peidio â chynnal archwiliad rhaid iddo baratoi datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad hwnnw ac anfon copïau ohono —

(a) at y person a gyflwynodd sylwadau mewn perthynas â'r achos yn unol â pharagraff (a) o reoliad 9, a

(b) at unrhyw bersonau eraill y mae'r Comisiynydd o'r farn ei bod yn briodol eu hanfon atynt.

Rhoi gwybodaeth mewn cysylltiad ag archwiliad

11.—(1) Wrth gynnal archwiliad caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol bod person y mae paragraff (3) yn gymwys iddo yn rhoi unrhyw wybodaeth sy'n ymddangos i'r Comisiynydd ei bod yn angenrheidiol at ddibenion —

(a) yr archwiliad, a

(b) penderfynu a gydymffurfiwyd ag argymhelliad a wnaed mewn adroddiad yn dilyn archwiliad o achos.

(2) Wrth gynnal archwiliad caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson y mae angen iddo roi gwybodaeth o dan baragraff (1) neu berson arall a gall fod yn atebol am y cyfryw wybodaeth, yn rhoi esboniad, neu gymorth i'r Comisiynydd o ran, —

(a) unrhyw faterion sy'n destun yr archwiliad, neu

(b) unrhyw wybodaeth a ddarperir o dan baragraff (1).

(3) Dyma'r personau y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt —

(a) mewn perthynas â darparu gwasanaethau rheoledig yng Nghymru, darparwyr neu gyn-ddarparwyr gwasanaethau o'r fath, cyflogeion neu gyn-gyflogeion darparwyr neu gyn-ddarparwyr o'r fath, personau sy'n gweithio neu sydd wedi gweithio i ddarparwyr neu gyn-ddarparwyr o'r fath yn wirfoddol, ac aelodau a chyflogeion a chyn-aelodau a chyn-gyflogeion y Cynulliad;

(b) aelodau (gan gynnwys aelodau etholedig), cyfarwyddwyr, gweithredwyr, swyddogion a chyflogeion person perthnasol, cyn-aelodau, cyn-gyfarwyddwyr, cyn-weithredwyr, cyn-swyddogion a chyn-gyflogeion person perthnasol a phersonau sy'n gweithio neu sydd wedi gweithio i berson perthnasol yn wirfoddol;

(c) derbynnydd neu reolwr eiddo person sydd neu sydd wedi bod yn berson perthnasol neu berson sy'n darparu neu sydd wedi darparu'r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraff (a), ei ddatodwr neu ei ddatodwr dros dro neu ei ymddiriedolwr mewn methdaliad, yn ôl y digwydd.

(4) At ddibenion is-baragraffau 3(b) a (c) ystyr “person perthnasol” yw'r Cynulliad, unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 2 i'r Ddeddf, unrhyw berson arall sy'n arfer swyddogaeth gan y Cynulliad neu unrhyw berson a grybwyllir yn y cyfryw Atodlen 2, neu unrhyw berson sy'n darparu gwasanaethau i bobl hŷn neu ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru ar ran unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 3 i'r Ddeddf neu o dan drefniant ag ef.

Presenoldeb tystion

12.—(1) Caiff y Comisiynydd, os bernir ei bod yn angenrheidiol at ddibenion archwiliad, ei gwneud yn ofynnol i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo fod yn bresennol yn bersonol gerbron y Comisiynydd i roi gwybodaeth, esboniad neu gymorth.

(2) Y personau y mae'r paragraff hwn yn berthnasol iddynt yw personau y mae'n ofynnol iddynt —

(a) rhoi gwybodaeth o dan baragraff (1) o reoliad 11, neu

(b) rhoi esboniad neu gymorth o dan baragraff (2) o reoliad 11.

(3) Dim ond os rhoddwyd i berson hysbysiad ysgrifenedig rhesymol o ddyddiad arfaethedig ei bresenoldeb a'r wybodaeth, yr esboniad neu'r cymorth y mae ar y Comisiynydd eu hangen y caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw fod yn bresennol yn bersonol mewn unrhyw le yn unol â pharagraff (1).

(4) Mewn cysylltiad â phresenoldeb personol o'r fath, caiff y Comisiynydd, yn ddarostyngedig i adran 10(7) ac (8) o'r Ddeddf, ddyroddi gwysion tystio a gweinyddu llwon neu gadarnhadau a chaiff ganiatáu i berson gael ei gynrychioli gerbron y Comisiynydd.