Offerynnau Statudol
COMISIYNYDD POBL HYN CYMRU, CYMRU
Wedi'u gwneud
14 Chwefror 2007
Yn dod i rym
16 Chwefror 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adrannau 5(4)(b) a 6(5), 8(1), (3) a (5), 10(1), (4), (5) a (9), 14(1), 15(1) a (3) o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a pharagraffau 8 a 22 o Atodlen 1 iddi.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2007 a deuant i rym ar 16 Chwefror 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “y Comisiynydd” (“the Commissioner”) yw Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;
ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006(1);
ystyr “y Prif Weinidog” (“the First Minister”) yw'r person a benodir o dro i dro yn Brif Weinidog Cymru o dan adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
ystyr “trefniadau mewn perthynas ag eiriolaeth, cwynion neu chwythu'r chwiban” (“arrangements in relation to advocacy, complaints or whistle-blowing”) yw trefniadau sy'n dod o fewn is-adrannau (4), (5) a (6) o adran 5 o'r Ddeddf yn ôl y digwydd;
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad —
(a) at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y Rhif hwnnw;
(b) mewn rheoliad at baragraff â Rhif , yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y Rhif hwnnw;
(c) mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif, yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r Rhif hwnnw.
3. Dyma'r math o gyngor a chymorth a ragnodir at ddibenion adran 5(4)(b) o'r Ddeddf —
(a) rhoi cyngor a chymorth i bobl hŷn berthnasol yng Nghymru, er mwyn eu galluogi a'u cynorthwyo i fynegi eu barn a'u dymuniadau ar lafar neu drwy ddefnyddio unrhyw ddull arall o gyfathrebu, a
(b) rhoi cyngor (gan gynnwys gwybodaeth) i bobl hŷn berthnasol ynghylch eu hawliau a'u lles.
4.—(1) Caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo roi gwybodaeth i'r Comisiynydd, wedi'i chofnodi ar unrhyw ffurf, y mae'r Comisiynydd o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus ei chael at ddibenion —
(a) adolygu trefniadau mewn perthynas ag eiriolaeth, cwynion neu chwythu'r chwiban,
(b) asesu effaith methiant unrhyw berson i wneud trefniadau o'r fath yn unol ag adran 5(3) o'r Ddeddf, ac
(c) penderfynu a gydymffurfiwyd ag argymhelliad a wnaed mewn adroddiad yn dilyn adolygiad o'r cyfryw drefniadau.
(2) Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —
(a) o ran darparu gwasanaethau rheoledig yng Nghymru, darparwyr neu gyn-ddarparwyr gwasanaethau o'r fath, cyflogeion neu gyn-gyflogeion darparwyr neu gyn-ddarparwyr o'r fath, personau sy'n gweithio neu a fu'n gweithio i ddarparwyr neu gyn-ddarparwyr o'r fath yn wirfoddol, ac aelodau a chyflogeion a chyn-aelodau a chyn-gyflogeion y Cynulliad;
(b) aelodau (gan gynnwys aelodau etholedig), cyfarwyddwyr, gweithredwyr, swyddogion a chyflogeion person perthnasol, cyn-aelodau, cyn-gyfarwyddwyr, cyn-weithredwyr, cyn-swyddogion a chyn-gyflogeion person perthnasol a phersonau sy'n gweithio neu sydd wedi gweithio i berson perthnasol yn wirfoddol;
(c) derbynnydd neu reolwr eiddo person sydd neu sydd wedi bod yn berson perthnasol neu berson sy'n darparu neu sydd wedi darparu'r gwasanaethau a ddisgrifir yn is-baragraff (a), ei ddatodwr neu ei ddatodwr dros dro neu ei ymddiriedolwr mewn methdaliad, yn ôl y digwydd.
(3) At ddibenion is-baragraffau (2)(b) ac (c) ystyr “person perthnasol” yw'r Cynulliad, unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 3 i'r Ddeddf sy'n darparu gwasanaethau i berson hŷn yng Nghymru neu ar ei gyfer neu berson sy'n darparu'r cyfryw wasanaethau ar ran y person hwnnw neu o dan drefniant â'r person hwnnw.