Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliad 11

ATODLEN 2 SWYDDOGAETHAU Y CANIATEIR IDDYNT FOD (OND NAD OES ANGEN IDDYNT FOD) YN GYFRIFOLDEB I WEITHREDIAETH AWDURDOD

1.  Unrhyw swyddogaeth a dan Ddeddf leol ac eithrio swyddogaeth a bennwyd neu y cyfeiriwyd ati yn Atodlen 1.

2.  Dyfarnu ar apêl yn erbyn unrhyw benderfyniad a wnaed gan yr awdurdod neu ar ei ran.

3.  Swyddogaethau mewn perthynas ag adolygu penderfyniadau a wnaed mewn cysylltiad â hawliadau budd-dal tai neu fudd-dal treth gyngor ac am apelau yn erbyn penderfyniadau o'r fath o dan adran 68 o Ddeddf Cymorth Plant, Pensiynau a Nawdd Cymdeithasol ac Atodlen 7 iddi.(51).

4.  Gwneud trefniadau ynglŷn ag apelau yn erbyn gwahardd disgyblion mewn ysgolion a gynhelir o dan adran 52 o Ddeddf Addysg 2002.

5.  Gwneud trefniadau yn unol ag adran 94(1), (1A) a (4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (apelau derbyn) ac Atodlen 24 iddi.

6.  Gwneud trefniadau yn unol ag adran 95(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (plant y mae adran 87 yn gymwys iddynt: apelau gan gyrff llywodraethu).

7.  Gwneud trefniadau o dan adran 20 (cwestiynau ynghylch materion yr heddlu mewn cyfarfodydd cyngor) o Ddeddf yr Heddlu 1996 i ganiatáu i gwestiynau gael eu gofyn ynghylch cyflawni swyddogaethau awdurdod heddlu.

8.  Gwneud penodiadau o dan baragraffau 2 i 4 (penodi aelodau gan gynghorau perthnasol) o Atodlen 2 (awdurdodau heddlu a sefydlir o dan adran 3) i Ddeddf yr Heddlu 1996.

9.  Cynnal adolygiadau'r gwerth gorau yn unol â darpariaethau unrhyw orchymyn sy'n effeithiol am y tro o dan adran 5 (adolygiadau gwerth gorau) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(52).

10.  Unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â thir halogedig(53).

11.  Cyflawni unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â rheoli llygredd neu reoli ansawdd aer(54).

12.  Cyflwyno hysbysiad atal mewn perthynas â niwsans statudol(55).

13.  Pasio cynnig y dylai Atodlen 2 i Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 fod yn gymwys yn ardal yr awdurdod(56).

14.  Arolygu ardal yr awdurdod i ddod o hyd i unrhyw niwsans statudol(57).

15.  Ymchwilio i unrhyw gŵyn ynghylch bodolaeth niwsans statudol.

16.  Sicrhau gwybodaeth o dan adran 330 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ynghylch buddiannau mewn tir(58).

17.  Sicrhau manylion personau sydd â buddiant mewn tir o dan adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976(59).

18.  Gwneud cytundebau ar gyfer gwneud gwaith priffyrdd(60).

19.  Penodi unrhyw unigolyn —

(a) i unrhyw swydd heblaw swydd y mae'n cael ei gyflogi ynddi gan yr awdurdod;

(b) i unrhyw gorff ac eithrio —

(i) yr awdurdod;

(ii) cyd-bwyllgor o ddau neu fwy o awdurdodau; neu

(c) i unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i gorff o'r fath,

a dirymu unrhyw benodiad o'r fath.

20.  Y pŵer i wneud taliadau neu i ddarparu budd-daliadau eraill mewn achosion camweinyddu etc.(61).

21.  Cyflawni unrhyw swyddogaeth gan awdurdod sy'n gweithredu fel awdurdod harbwr.

22.  Swyddogaethau ynglŷn â chyfrifo sylfaen treth gyngor yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —

(a) dyfarnu ar swm ar gyfer eitem T yn adran 33(1) a 44(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

(b) dyfarnu ar swm ar gyfer eitem TP yn adrannau 34(3), 45(3), 48(3) a 48(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

(c) dyfarnu ar swm y mae ei angen i ddyfarnu ar swm ar gyfer yr eitem a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b) uchod.

23.  Swyddogaethau trwyddedu yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac eithrio adran 6.

24.  Swyddogaethau ynglŷn â gamblo yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —

(a) rhagnodi ffioedd yn unol ag adran 212 o Ddeddf Gamblo 2005;

(b) gwneud gorchymyn yn datgymhwyso adran 279 neu adran 282 (1) o Ddeddf Gamblo 2005 yn unol ag adran 284 o Ddeddf Gamblo 2005;

(c) personau awdurdodedig yn unol ag adran 304 o Ddeddf Gamblo 2005;

(ch) erlyniadau gan awdurdod trwyddedu yn unol ag adran 346 o Ddeddf Gamblo 2005.

Rheoliad 12(1)

ATODLEN 3 SWYDDOGAETHAU NAD YDYNT I FOD YN GYFRIFOLDEB I FWRDD AWDURDOD YN UNIG

(1) (2)
Cynlluniau a strategaethau Y Cyfeiriad
Y Cynllun Addysg Sengl Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006 O.S. 2006/877 (Cy.82)).
Cynllun Perfformiad Gwerth Gorau Adran 6(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27).
Strategaeth Gymunedol Adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).
Strategaeth i Ostwng Troseddau ac Anhrefn Adrannau 5 a 6 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37).
Y Strategaeth Iechyd a Lles Adran 24 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynolion Gofal Iechyd 2002 (p.17).
Y Cynllun Trafnidiaeth Lleol Adran 108 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p.38).
Cynlluniau ac addasiadau sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r Cynllun Datblygu Adran 10A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8).
Y Cynllun Iaith Gymraeg Adran 5 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p.38).
Y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Adran 40 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37).
Pwerau i gymeradwyo Cynllun Strategol Partneriaeth Pobl Ifanc a Phartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc Adrannau 123,124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21).
Y Strategaeth Tai Adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26).
(53)

Rhan IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ac is-ddeddfwriaeth o dan y rhan honno. Back [53]

(54)

Gweler Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24), Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), Rhan I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) a Deddf Aer Glân 1993 (p.11). Back [54]

(55)

Adran 8 o Ddeddf Swn a Niwsans Statudol 1993 (p.40). Back [55]

(56)

Adran 80(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Back [56]

(57)

Adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Back [57]

(59)

1976 p.57. Back [59]

(60)

Adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66), a amnewidiwyd gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), adran 23. Back [60]

(61)

Adran 92 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Back [61]