Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliad 10

ATODLEN 1 SWYDDOGAETHAU NAD YDYNT I FOD YN GYFRIFOLDEB I FWRDD AWDURDOD

(1) (2)
Y Swyddogaeth Y ddarpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol

A.  Swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio gwlad a thref a rheoli datblygu

1.  Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio.

Adrannau 70(1)(a) a (b) a 72 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8).

2.  Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd o'r blaen.

Adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

3.  Y pŵer i roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sydd eisoes wedi'i gyflawni.

Adran 73A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(16).

4.  Y pŵer i wrthod dyfarnu ar gais am ganiatâd cynllunio.

Adran 70A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(17).

5.  Dyletswyddau sy'n ymwneud â gwneud dyfarniadau ar geisiadau cynllunio.

Adrannau 69, 76 a 92 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac Erthyglau 8, 10 i 13, 15 i 22 a 25 a 26 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (O.S. 1995/419) a chyfarwyddiadau a wneir odanynt.

6.  Y pŵer i ddyfarnu ar gais am ganiatâd cynllunio a wneir gan awdurdod lleol, ar ei ben ei hun neu ar y cyd â pherson arall.

Adran 316 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992 (O.S. 1992/1492)(18).

7.  Y pŵer i wneud dyfarniadau, i roi cymeradwyaethau ac i gytuno ar faterion penodol eraill sy'n ymwneud ag arfer hawliau datblygu a ganiateir.

Rhannau 6, 7, 11, 17, 19, 20, 21 i 24, 30 a 31 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418).

8.  Y pŵer i gytuno ar rwymedigaeth gynllunio sy'n rheoleiddio datblygu tir neu ddefnyddio tir.

Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(19).

9.  Y pŵer i ddyroddi tystysgrif o ddefnydd neu ddatblygiad cyfreithlon presennol neu arfaethedig.

Adrannau 191(4) a 192(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(20).

10.  Y pŵer i gyflwyno hysbysiad cwblhau.

Adran 94(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

11.  Y pŵer i roi cydsyniad i arddangos hysbysebion.

Adran 220 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992(21).

12.  Y pŵer i awdurdodi mynd ar dir.

Adran 196A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(22).

13.  Y pŵer i'w gwneud yn ofynnol rhoi'r gorau i ddefnyddio tir.

Adran 102 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

14.  Y pŵer i gyflwyno hysbysiad torri rheolau cynllunio, hysbysiad torri amod neu hysbysiad stop.

Adrannau 171C, 187A a 183(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(23).

15.  Y pŵer i ddyroddi hysbysiad gorfodi.

Adran 172 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(24).

16.  Y pŵer i wneud cais am waharddeb i atal torri rheol gynllunio.

Adran 187B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(25).

17.  Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus, a phwerau cysylltiedig.

Adrannau 9(1) a 10 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (p. 10).

18.  Y ddyletswydd i ddyfarnu ar amodau y mae hen ganiatadau mwyngloddio, caniatadau cynllunio perthnasol sy'n ymwneud â safleoedd cwsg neu safleoedd Rhan I neu Ran II gweithredol, neu ganiatadau mwynol sy'n ymwneud â safleoedd mwyngloddio, yn ôl y digwydd, i fod yn ddarostyngedig iddynt.

Paragraff 2(6)(a) o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, paragraff 9(6) o Atodlen 13 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) a pharagraff 6(5) o Atodlen 14 i'r Ddeddf honno.

19.  Y pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod tir yn cael ei gynnal yn iawn.

Adran 215(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

20.  Y pŵer i ddyfarnu ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig, a phwerau cysylltiedig.

Adrannau 16(1) a (2), 17 a 33(1) o Ddeddf Cynllunio Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9).

21.  Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am gydsyniad ardal gadwraeth.

Adran 16(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, fel y'i cymhwysir gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno(26).

22.  Dyletswyddau sy'n ymwneud â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a chydsyniad ardal gadwraeth.

Adran 13(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a rheoliadau 3 i 13 o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a pharagraff 127 o gylchlythyr y Swyddfa Gymreig 61/96: Cynllunio a'r Amgylchedd Hanesyddol: Adeiladau Hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth.

23.  Y pŵer i gyflwyno hysbysiad cadw adeilad, a phwerau cysylltiedig.

Adrannau 3(1) a 4(1) Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

24.  Y pŵer i ddyroddi hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig.

Adran 38 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

25.  Pwerau i gaffael adeilad rhestredig y mae angen ei drwsio a chyflwyno hysbysiad trwsio.

Adrannau 47 a 48 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

26.  Y pŵer i wneud cais am waharddeb mewn perthynas ag adeilad rhestredig.

Adran 44A o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(27).

27.  Y pŵer i wneud gwaith brys.

Adran 54 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

28.  Pŵer yn gysylltiedig â gweithio mwynau.

Atodlen 9 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

29.  Pŵer yn gysylltiedig â llwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Adran 257 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

30.  Pŵer ynghylch tystysgrifo datblygiadau amgen priodol.

Adran 17 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 (p.33).

31.  Dyletswyddau mewn perthynas â gorchmynion prynu.

Adrannau 137-144 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

32.  Pwerau sy'n ymwneud â hysbysiadau malltod.

Adrannau 149-171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

B.  Swyddogaethau trwyddedu a chofrestru (i'r graddau nad oes unrhyw baragraff arall yn yr Atodlen hon yn ymdrin â hwy)

1.  Y pŵer i ddyroddi trwyddedau sy'n awdurdodi defnyddio tir fel safle carafannau (“trwyddedau safle”).

Adran 3(3) o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (p.62).

2.  Y pŵer i drwyddedu defnyddio anheddau symudadwy a safleoedd gwersylla.

Adran 269(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (p.49)

3.  Y pŵer i drwyddedu cerbydau hacnai a cherbydau hurio preifat.

(a) o ran cerbydau hacnai, Deddf Cymalau Heddluoedd Tref 1847 (10 a 11 Vict. p. 89), fel y'i hestynnwyd gan adran 171 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1875 (38 a 39 Vict. p. 55), ac adran 15 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (p. 67); ac adrannau 47, 57, 58, 60 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p. 57);

(b) o ran cerbydau hurio preifat, adrannau 48, 57, 58, 60 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

4.  Y pŵer i drwyddedu gyrrwyr cerbydau hacnai a cherbydau hurio preifat.

Adrannau 51, 53, 54, 59, 61 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

5.  Y pŵer i drwyddedu gweithredwyr cerbydau hacnai a cherbydau hurio preifat.

Adrannau 55 i 58, 62 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

6.  Y pŵer i gofrestru hyrwyddwyr pyllau.

Atodlen 2 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 (p. 2)(28).

7.  Y pŵer i roi trwyddedau betio ar gyfer traciau.

Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963(29).

8.  Y pŵer i drwyddedu cynlluniau betio ar gyfer traciau ar y cyd â'i.

Atodlenni 5ZA i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963(30).

9.  Y pŵer i roi trwyddedau mewn perthynas â mangreoedd sydd â pheiriannau chwarae.

Atodlen 9 i Ddeddf Hapchwarae 1968 (p. 65) (31).

10.  Y pŵer i gofrestru cymdeithasau sy'n dymuno hyrwyddo loterïau.

Atodlen 1 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 (p. 32)(32).

11.  Y pŵer i roi trwyddedau mewn perthynas â mangreoedd lle darperir difyrion â gwobrau.

Atodlen 3 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 (33).

12.  Y pŵer i ddyroddi trwyddedau adloniant.

Adran 12 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p. 12).

13.  Y pŵer i drwyddedu siopau rhyw a sinemâu rhyw.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, adran 2 ac Atodlen 3.

14.  Y pŵer i drwyddedu perfformiadau hypnotiaeth.

Deddf Hypnotiaeth 1952 (p.46).

15.  Y pŵer i drwyddedu mangreoedd ar gyfer aciwbigiadau, tatws, tyllu clustiau ac electrolysis.

Adrannau 13 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982.

16.  Y pŵer i drwyddedu cychod pleser a llongau pleser.

Adran 94 o Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907 (p. 53)(34).

17.  Y pŵer i drwyddedu masnachu mewn marchnadoedd ac ar y stryd.

Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ac Atodlen 4 iddi.

18.  Y ddyletswydd i gadw rhestr o bersonau sydd â'r hawl i werthu gwenwynau nad ydynt yn feddyginiaeth.

Adrannau 3(1)(b)(ii), 5, 6 ac 11 o Ddeddf Gwenwynau 1972(p. 66) (35).

19.  Y pŵer i drwyddedu delwyr helgig a lladd a gwerthu helgig.

Adrannau 5, 6, 17, 18 a 21 i 23 o Ddeddf Anifeiliaid Hela 1831 (p. 32); adrannau 2 i 16 o Ddeddf Trwyddedau Helwriaeth 1860 (p. 90), adran 4 o Ddeddf Tollau Cartref a Chyllid y Wlad 1883 (p. 10), adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Lleol 1894 (p. 73), ac adran 213 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70).

20.  Y pŵer i gofrestru a thrwyddedu mangreoedd ar gyfer paratoi bwyd.

Adran 19 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p. 16).

21.  Y pŵer i drwyddedu iardiau sgrap.

Adran 1 o Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 1964 (p. 69).

22.  Y pŵer i ddyroddi, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch (cyffredinol neu arbennig) ar gyfer meysydd chwaraeon.

Deddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975 (p. 52)(36).

23.  Y pŵer i ddyroddi, dileu, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch ar gyfer standiau rheoledig mewn meysydd chwaraeon.

Rhan III o Ddeddf Diogelwch Rhag Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27).

24.  Dyletswydd i hyrwyddo diogelwch rhag tân.

Adran 6 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).

25.  Y pŵer i drwyddedu mangreoedd ar gyfer bridio cwn.

Adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60) ac adran 1 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999 (p. 11).

26.  Y pŵer i drwyddedu siopau anifeiliaid anwes a sefydliadau eraill lle caiff anifeiliaid eu bridio neu eu cadw er mwyn cynnal busnes.

Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 (p. 35)(37); adran 1 o Ddeddf Sefydliadau Byrddio Anifeiliaid 1963(p. 43)(38); Deddfau Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970 (1964 p. 70 a 1970 p. 70)(39); adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60)(40), ac adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999.

27.  Y pŵer i gofrestru hyfforddwyr ac arddangoswyr anifeiliaid.

Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddio) 1925 (p. 38)(41).

28.  Y pŵer i drwyddedu swau.

Adran 1 o Ddeddf Trwyddedu Swau 1981 (p. 37).

29.  Y pŵer i drwyddedu anifeiliaid gwyllt peryglus.

Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 (p. 38).

30.  Y pŵer i orfodi rheoliadau mewn perthynas â sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Rheoliad 49 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1292 (Cy.127)).

31.  Y pŵer i drwyddedu cyflogi plant.

Rhan II o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p. 12), is-ddeddfau a wneir o dan y Rhan honno, a Rhan II o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963 (p. 37).

32.  Y pŵer i gymeradwyo mangreoedd ar gyfer gweinyddu priodasau a chofrestru partneriaethau sifil.

Adran 46A o Ddeddf Priodasau 1949 (p. 76), adran 6A o Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004 (p.33) a Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 2005 (O. S. 2005/3168 (42).

33.  Y pŵer i gofrestru tir comin neu feysydd gleision trefi neu bentrefi, ac eithrio os yw'r pwer yn arferadwy ar gyfer rhoi effaith i'r canlynol yn unig—

(a) cyfnewid tiroedd y mae gorchymyn o dan adran 19(3) o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p.67) neu baragraff 6(4) o Atodlen 3 iddi yn rhoi effaith iddo (p. 67); neu

(b) gorchymyn o dan adran 147 o Ddeddf Amgáu Tiroedd 1845 (p. 8 a 9 Vict. p. 118).

Rheoliad 6 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Tir Newydd) 1969 (O.S. 1969/1843).

34.  Y pŵer i gofrestru amrywiadau ar hawliau comin.

Rheoliad 29 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471)(43).

35.  Y pŵer i ddyroddi trwydded i gasglu ar gyfer achosion elusennol.

Adran 68 o Ddeddf Elusennau 1992.

36.  Y pŵer i roi cydsyniad ar gyfer gweithredu uchelseinydd.

Atodlen 2 i Ddeddf Swn a Niwsans Statudol 1993 (p. 40).

37.  Y pŵer i roi trwydded ar gyfer gweithfeydd stryd.

Adran 50 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22).

38.  Dyletswydd i gofrestru symudiadau moch.

Rheoliadau 21(3) and (4) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/996 (Cy.104)).

39.  Y pŵer i orfodi rheoliadau mewn perthynas â symud moch.

Rheoliad 27(1) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2004 (O.S. 2004 /996 (Cy.104)).

40.  Y pŵer i ddyroddi trwydded i symud gwartheg o farchnad.

Erthygl 5(2) o Reoliadau Adnabod Gwartheg 1998 (O.S. 1998/871).

41.  Y pŵer i roi hawl i rannau o adeiladau gael eu defnyddio i storio seliwloid.

Adran 1 o Ddeddf Ffilmiau Seliwloid a Sinematograff 1922 (p. 35).

42.  Y ddyletswydd i orfodi a gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 852/2004 a 853/2004 mewn perthynas â gweithredwyr busnesau bwyd fel y'u pennir ymhellach yn rheoliad 5 o Reoliadau Bwyd (Hylendid) (Cymru) 2006.

Rheoliad 5 o Reoliadau Bwyd (Hylendid) (Cymru) 2006(44).

43.  Swyddogaethau mewn perthynas â sefydlu Pwyllgor Trwyddedu.

Adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17).

C.  Swyddogaethau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith

Swyddogaethau o dan “darpariaethau statudol perthnasol” o fewn ystyr Rhan I (iechyd, diogelwch a lles mewn cysylltiad â gwaith, a rheoli sylweddau peryglus) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974, i'r graddau y mae'r swyddogaethau hynny'n cael eu cyflawni mewn fordd wahanol i'w cyflawni yn rhinwedd swyddogaeth yr awdurdod fel cyflogwr. Rhan I o Ddeddf Iechyd a unrhyw un o'r etc. 1974 (p. 37). Diogelwch yn y Gwaith

Ch.  Swyddogaethau sy'n ymwneud ag etholiadau

1.  Y ddyletswydd i benodi swyddog cofrestru etholiadol.

Adran 8(2A) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2)(45).

2.  Y pŵer i ddyrannu swyddogion mewn perthynas ag angenrheidiau'r swyddog cofrestru.

Adran 52(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(46).

3.  Y pŵer i ddileu cynghorau cymuned.

Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

4.  Y pŵer i wneud gorchmynion ar gyfer grwpio cymunedau.

Adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

5.  Y pŵer i wneud gorchmynion i ddileu grwpiau a gwahanu cynghorau cymuned oddi wrth grwpiau.

Adran 29A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

6.  Y ddyletswydd i benodi swyddog canlyniadau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.

Adran 35 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

7.  Y ddyletswydd i roi cymorth yn etholiadau'r Senedd Ewropeaidd.

Adran 6(7) ac (8) o Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 2002.

8.  Y ddyletswydd i rannu'r etholaeth yn rhanbarthau pleidleisio.

Adran 18 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

9.  Y pŵer i rannu adrannau etholiadol yn rhanbarthau pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol.

Adran 31 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

10.  Pwerau mewn perthynas â chynnal etholiadau.

Adran 39(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

11.  Y pŵer i dalu treuliau a dynnir yn briodol gan swyddogion cofrestru etholiadol.

Adran 54 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

12.  Y pŵer i lenwi lleoedd gwag os na cheir digon o enwebiadau.

Adran 21 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985.

13.  Y ddyletswydd i ddatgan bod lle gwag mewn swydd mewn achosion penodol.

Adran 86 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 .

14.  Y ddyletswydd i roi hysbysiad cyhoeddus o le gwag achlysurol.

Adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

15.  Y pŵer i wneud penodiadau dros dro i gynghorau cymuned.

Adran 91 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

16.  Y pŵer i ddyfarnu ar ffioedd ac amodau ar gyfer rhoi copïau o ddogfennau etholiadol neu ddarnau allan ohonynt.

Rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986 (O.S. 1986/2214) a rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 1986 (O.S. 1986/2215).

17.  Y pŵer i gyflwyno cynigion i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gorchymyn o dan adran 10 (cynlluniau peilot ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000.

Adran 10 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2).

18.  Swyddogaethau etholiadol amrywiol o dan Ran II, O.S. 2003/284.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003, OS 2003/284(47).

D.  Swyddogaethau sy'n ymwneud ag enw a statws ardaloedd ac unigolion

1.  Y pŵer i newid enw sir, neu enw bwrdeistref sirol.

Adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

2.  Y pŵer i newid enw cymuned.

Adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

3.  Y pŵer i roi teitl henadur mygedol neu i dderbyn rhywun yn rhyddfreiniwr mygedol.

Adran 249 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

4.  Y pŵer i ddeisebu o blaid siarter i roi statws bwrdeistref sirol.

Adran 245A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Dd.  Y pŵer i wneud, diwygio, dirymu neu ailddeddfu is-ddeddfau

Unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys Deddf leol), pryd bynnag y cafodd ei phasio, ac adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 300)(48).

E.  Y pŵer i hyrwyddo neu i wrthwynebu Mesurau lleol neu bersonol.

Adran 239 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

F.  Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau etc.

1.  Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau llywodraeth leol, etc.

Rheoliadau o dan adran 7, 12 neu 24 o Ddeddf Blwydd-dal 1972 (p.11)(49).

2.  Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau, lwfansau ac arian rhodd.

Rheoliadau o dan adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).

3.  Swyddogaethau o dan gynlluniau pensiwn sy'n bodoli eisoes o ran personau sy'n cael eu cyflogi gan awdurdodau tân ac achub yn unol ag adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Adrannau 34 a 36 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Ff.  Swyddogaethau amrywiol

1.  Y ddyletswydd i gymeradwyo datganiad awdurdod o'i gyfrifon, ei incwm, a'i wariant a'i fantolen neu ei gofnod o dderbyniadau a thaliadau (yn ôl y digwydd).

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 (50).

2.  Swyddogaethau sy'n ymwneud â physgodfeydd môr.

Adrannau 1, 2, 10 a 19 o Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966(p. 38).

3.  Pwerau sy'n ymwneud â chadw coed.

Adrannau 197 i 214D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (O.S. 1999/1892).

4.  Pwerau sy'n ymwneud â diogelu gwrychoedd (perthi) pwysig.

Rheoliadau Gwrychoedd (Perthi) 1997 (O.S. 1997/1160).

5.  Y pŵer i wneud rheolau sefydlog.

Adran 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a pharagraff 42 o Atodlen 12 iddi.

6.  Penodi a diswyddo staff.

Adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac adrannau 7 ac 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

7.  Y pŵer i wneud rheolau sefydlog ynghylch contractau.

Adran 135 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

8.  Y pŵer i ystyried adroddiadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Adran 19 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10).

9.  Y pŵer i wneud gorchymyn yn nodi lle fel lle cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau heddlu mewn perthynas ag yfed alcohol.

Adran 13(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p.16).

10.  Y pwerau mewn perthynas â chofrestru gweithredwyr achub cerbydau modur.

Rhan 1 o Ddeddf Cerbydau (Troseddau) 2001 (p.3).

11.  Y pŵer i benodi swyddogion at ddibenion penodol (penodi “priod swyddogion”).

Adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

12.  Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ac i ddarparu staff, etc.

Adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).

13.  Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn swyddog monitro, ac i ddarparu staff, etc.

Adran 5(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

14.  Y ddyletswydd i ddyfarnu ar derfyn benthyca fforddiadwy.

Adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.22).

15.  Cymeradwyo strategaeth fuddsoddi flynyddol yn unol â chanllawiau.

Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.

16.  Y ddyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer gweinyddu materion ariannol yn briodol.

Adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.11).
(16)

Mewnosodwyd adran 73A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), Atodlen 7, paragraff 8. Back [16]

(17)

Mewnosodwyd adran 70A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, adran 17. Back [17]

(18)

Amnewidiwyd adran 316 gan adran 20 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/1982 a 1998/2800. Back [18]

(19)

Amnewidiwyd adran 106 gan adran 12(1) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Back [19]

(20)

Amnewidiwyd adrannau 191 a 192 gan adran 10 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Back [20]

(21)

O.S. 1992/666, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [21]

(22)

Mewnosodwyd adran 196A gan adran 11 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. I gael gwybod o dan ba amgylchiadau y caniateir i'r hawl gael ei harfer, gweler adrannau 196A i 196C o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Back [22]

(23)

Mewnosodwyd adrannau 171C a 187A gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Amnewidiwyd is-adrannau (1) i (5A) o adran 183 gan adran 9 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Back [23]

(24)

Amnewidiwyd adran 172 gan adran 5 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Back [24]

(25)

Mewnosodwyd adran 187B gan adran 3 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 Back [25]

(26)

Gweler hefyd Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (O.S. 1990/1519), y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [26]

(27)

Mewnosodwyd adran 44A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), adran 25, Atodlen 3, paragraff 7. Back [27]

(28)

Diddymwyd Atodlen 2 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 gan adran 356(3)(f) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. Mae adran 358(1) o Ddeddf 2005 yn darparu bod y diddymiad hwnnw i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym. Back [28]

(29)

Diddymwyd Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 gan adran 356(3)(f) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. I gael darpariaethau trosiannol ynglŷn â thrwydded betio ar gyfer trac sydd i fod i ddod i ben yn y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2006 ac sy'n diweddu ar 30 Awst 2007, gweler O.S. 2006/1758, erthygl 2. Mae adran 358(1) o Ddeddf 2005 yn darparu bod y diddymiad hwnnw i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym. Back [29]

(30)

Mewnosodwyd Atodlen 5ZA gan O.S. 1995/3231, erthygl 5(6). Diddymwyd Atodlen 5ZA i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 gan adran 356(3)(f) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. Mae'r diddymiad i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi o dan adran 358(1) o Ddeddf 2005. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym. Back [30]

(31)

Diddymwyd Atodlen 9 i Ddeddf Hapchwarae 1968 gan adran 356(g) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. I gael darpariaethau trosiannol ynglŷn ag adnewyddu neu roi trwyddedau, gweler O.S. 2006/1758, erthyglau 5 a 6. Mae adran 358(1) o Ddeddf 2005 yn darparu bod y diddymiad hwnnw i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym. Back [31]

(32)

Diddymwyd Atodlen 1 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 gan adran 356(3)(i) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. Mae diddymu Atodlen 1 i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi o dan adran 358(1) o Ddeddf 2005. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym. Back [32]

(33)

Wedi'i diddymu gan Ddeddf Gamblo 2005, adran 356(3)(i),(4), Atodlen 17. I gael gweld y darpariaethau trosiannol mewn perthynas ag unrhyw drwydded o dan adran 16 sydd i fod i ddod i ben yn y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2006 ac sy'n diweddu ar 30 Awst 2007. Gweler O.S. 2006/1758, erthygl 7. Mae diddymiad Atodlen 3 i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w bennu o dan adran 358(1) o Ddeddf 2005. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym. Back [33]

(34)

Wedi'i diwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 (p.7), Atodlen 6, paragraff 1, adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p.57) ac adran 186 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p.65). Amnewidiwyd adran 94(8) gan Orchymyn Dadreoleiddio (Deddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd) 1997 (O.S. 1997/1187). Back [34]

(35)

Diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, Atodlen 6, paragraff 13(1). Gweler O.S. 1973/1851 ac O.S. 1977/2128. Back [35]

(36)

Wedi'i diwygio gan Ddeddf Diogelwch Rhag Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27). Gweler, yn benodol, Ran II o'r Ddeddf honno, ac Atodlen 2 iddi. Back [36]

(37)

Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, Atodlen 6, paragraff 17 a chan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988 (p.29), adran 3(2) a (3) a'r Atodlen. Back [37]

(38)

Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adran 35(1) a (2) ac Atodlen 6, paragraff 18 a chan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988, adran 3(2) a (3) o'r Atodlen. Back [38]

(39)

Diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, adran 1(6), Atodlen 6, Atodlen 34, paragraff 15 a chan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988, adran 3(2) a (3) a'r Atodlen. Back [39]

(40)

Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adrannau 35(1) a (2) a 42, Atodlen 6, paragraff 2(1) ac Atodlen 8. Back [40]

(41)

Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, Atodlen 6, paragraff 6, a chan adran 3 o Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988. Back [41]

(42)

Mewnosodwyd adran 46A gan adran 1 o Ddeddf Priodasau 1994 (p.34). Back [42]

(43)

Diwygiwyd gan adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30). Back [43]

(44)

O.S. 2006/31 (Cy.5) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Bwyd (Hylendid) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006 / 1534 (Cy.151)). Back [44]

(45)

Wedi'i deddfu'n wreiddiol fel Deddf Etholiadau Cynulliad Ewrop 1978 a'i hailenwi yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd (Diwygio) 1986 (p.58). Amnewidiwyd Atodlen 1 gan Ddeddf Etholiadau Seneddol Ewrop 1999 (p.1), Atodlen 2. Back [45]

(46)

Amnewidiwyd is-adran (4) o adran 52 gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50). Back [46]

(47)

Dirymodd O.S. 2003/284 Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999 (O.S. 1999/450) a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2002 (O.S. 2002/834). Mae O.S. 2003/284 yn atgynhyrchu O.S. 1999/450 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/834 gan wneud darpariaethau ychwanegol. Back [47]

(48)

Cymhwysir adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 i is-ddeddfau sy'n cael eu gwneud o dan adran 235 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 gan adran 22(1) o Ddeddf Dehongli 1978 a pharagraff 3 o Ran I o Atodlen 2 iddi. Back [48]

(49)

O ran adran 7 gweler hefyd adran 99 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22). Diwygiwyd adran 12 o Ddeddf Blwydd-dal 1972 gan adran 10 o Ddeddf Pensiynau (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (p.7). Back [49]

(50)

O.S. 2005/368 (Cy.34). Back [50]