Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 397 (Cy.43)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

14 Chwefror 2007

Yn dod i rym

16 Chwefror 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 31(1) a 32(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 16 Chwefror 2007.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) (ac eithrio pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy'n gweithredu trefniadau amgen;

ystyr “Bwrdd” (“Board”) yw pwyllgor awdurdod lleol a sefydlir o dan reoliad 4;

ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) at ddibenion rheoliad 16 yw awdurdod lleol neu Fwrdd;

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(2);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys deddfiad sydd wedi'i gynnwys mewn Deddf leol neu ddeddfiad y mae is-ddeddfwriaeth wedi'i ffurfio ohono;

ystyr “grŵp gwleidyddol” (“political group”) yw grwp gwleidyddol yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990(3);

mae “gweithrediaeth” i'w ddehongli yn unol ag ystyr “executive” yn adran 11 o Ddeddf 2000;

ystyr “prif bwyllgor craffu” (“principal scrutiny committee”) yw pwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod a sefydlir o dan reoliad 5(1)(a);

ystyr “pwyllgor archwilio” (“audit committee”) yw pwyllgor i awdurdod lleol a sefydlir o dan reoliad 5(2)(c);

ystyr “pwyllgor ardal” (“area committee”) yw pwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod lleol a sefydlir o dan reoliad 5(2)(b);

ystyr “pwyllgor craffu” (“scrutiny committee”) yw pwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod a sefydlir o dan reoliad 5(1)(b);

ystyr “pwyllgor cynllunio” (“planning committee”) yw pwyllgor i'r awdurdod â chanddo bwer dirprwyedig i arfer rhai neu'r cyfan o'r swyddogaethau hynny yn Atodlen 1, a hwnnw'n bwyllgor a adnabyddir fel y Pwyllgor Cynllunio neu unrhyw deitl arall a ddarperir yn rheolau sefydlog yr awdurdod lleol;

ystyr “pwyllgor trwyddedu” (“licensing committee”) yw'r pwyllgor a sefydlir o dan adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003;

ystyr “trefniadau amgen” (“alternative arrangements”) yw trefniadau gan awdurdod lleol ynglyn â chyflawni eu swyddogaethau sy'n drefniadau yn unol â rheoliad 3.

Yr awdurdodau lleol a gaiff weithredu trefniadau amgen

3.—(1) Caiff pob awdurdod lleol weithredu trefniadau amgen.

(2) Mae trefniadau amgen yn drefniadau a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn a Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001(4).

(3) Pennir bod trefniadau sy'n unol â pharagraff (2) yn drefniadau amgen at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000.

(4) I'r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn anghyson ag unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysi (Cymru) 2001, y ddarpariaeth yn y Rheoliadau olaf hynny fydd yn drech.

Sefydlu Bwrdd

4.—(1) Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen sefydlu Bwrdd.

(2) Rhaid i'r Bwrdd beidio â chynnwys cadeirydd neu ddirprwy gadeirydd yr awdurdod lleol na chadeirydd unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor arall i'r awdurdod.

(3) Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen ddirprwyo ei swyddogaethau i Fwrdd, yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau yn rheoliadau 10 i 13.

(4) Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn atal awdurdod lleol rhag arfer y swyddogaethau hynny sydd wedi'u dirprwyo i Fwrdd yn unol â pharagraff (3).

(5) Yn ddarostyngedig i unrhyw drefniadau a wneir o dan reoliad 16, caiff y Bwrdd drefnu bod unrhyw un o'i swyddogaethau yn cael eu cyflawni —

(i) gan aelod o'r Bwrdd;

(ii) gan is-bwyllgor i'r Bwrdd;

(iii) gan swyddog i'r awdurdod.

Sefydlu pwyllgorau eraill

5.—(1) Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen sefydlu'n unol â rheoliad 6 —

(a) prif bwyllgor craffu; a

(b) unrhyw bwyllgorau craffu ychwanegol (heb fod yn llai na thri nac yn fwy nag wyth o ran nifer) y bydd rheolau sefydlog yr awdurdod lleol yn darparu ar eu cyfer.

(2) Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen sefydlu —

(a) pwyllgor cynllunio;

(b) unrhyw bwyllgorau ardal y bydd rheolau sefydlog yr awdurdod lleol yn darparu ar eu cyfer;

(c) pwyllgor archwilio;

(ch) pwyllgor apelau cyflogi;

(d) uchafswm o bedwar pwyllgor arall, y caiff rheolau sefydlog yr awdurdod lleol ddarparu ar eu cyfer, a'r rheini'n bwyllgorau y mae'r unig swyddogaethau y maent yn eu harfer yn rhai nad ydynt, yn unol â'r Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall, yn gyfrifoldeb Bwrdd awdurdod lleol ar yr amod bod unrhyw benderfyniad i sefydlu pwyllgor o'r fath yn cael ei hysbysu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn saith niwrnod i'r penderfyniad.

(3) Mae'r pwyllgorau a grybwyllir ym mharagraffau (1) a (2) yn ychwanegol at unrhyw bwyllgorau y mae'n ofynnol o dan unrhyw ddeddfiad i'r awdurdod eu sefydlu.

Prif Bwyllgorau Craffu a Phwyllgorau Craffu

6.—(1) O ran prif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu, neu unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath:

(a) rhaid iddo beidio â chynnwys unrhyw aelodau o'r Bwrdd; a

(b) rhaid iddo gael cadeirydd sy'n aelod o'r awdurdod; ac

(2) Rhaid i brif bwyllgor craffu beidio â chael cadeirydd sy'n aelod o'r un grŵp gwleidyddol â chadeirydd y Bwrdd (ac eithrio pan nad oes ond un grwp gwleidyddol).

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod gan ei brif bwyllgor craffu a'i bwyllgorau craffu bwer rhyngddynt i wneud y canlynol —

(a) adolygu penderfyniadau a wnaed, neu gamau eraill a gymerwyd, neu graffu ar y penderfyniadau hynny neu'r camau eraill hynny, mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod;

(b) cyflwyno adroddiadau neu argymhellion i'r awdurdod mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod;

(c) cyflwyno adroddiadau neu argymhellion i'r awdurdod (neu unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod lleol neu unrhyw gyd-bwyllgor y mae gan yr awdurdod lleol gynrychiolydd arno) ar faterion sy'n effeithio ar ardal yr awdurdod neu drigolion yr ardal honno;

(ch) yn achos penderfyniad sydd wedi'i wneud ond sydd heb ei weithredu, argymell y dylai'r penderfyniad gael ei ailystyried gan y pwyllgor, yr is-bwyllgor neu'r person a wnaeth y penderfyniad hwnnw neu drefnu bod ei swyddogaeth o dan is-baragraff (a) yn cael ei harfer gan yr awdurdod.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ni chaiff prif bwyllgor craffu na phwyllgor craffu gyflawni unrhyw swyddogaeth onid yw'n unol â'r Rheoliadau hyn.

(5) Os nad yw, neu i'r graddau nad yw, swyddogaeth awdurdod lleol, o ran cynnal adolygiadau gwerth gorau o dan adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(5) yn gyfrifoldeb Bwrdd yr awdurdod, caiff yr awdurdod drefnu bod y prif bwyllgor craffu neu unrhyw bwyllgor craffu yn cynnal adolygiad o'r fath.

(6) Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu —

(a) benodi un neu fwy o is-bwyllgorau; a

(b) trefnu i unrhyw is-bwyllgor o'r fath gyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau.

(7) Ni chaiff is-bwyllgor i brif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu gyflawni unrhyw swyddogaethau ac eithrio'r rhai a roddir iddo o dan baragraff (6).

(8) Rhaid i drefniadau amgen gan awdurdod lleol gynnwys darpariaeth sy'n galluogi —

(a) unrhyw aelod o brif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu i sicrhau bod unrhyw fater sy'n berthnasol i swyddogaethau'r pwyllgor yn cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor ac yn cael ei drafod yno;

(b) unrhyw aelod o is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath i sicrhau bod unrhyw fater sy'n berthnasol i swyddogaethau'r is-bwyllgor yn cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod o'r is-bwyllgor ac yn cael ei drafod yno; ac

(c) prif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu i gyfeirio unrhyw fater mewn cysylltiad â phenderfyniad neu benderfyniad arfaethedig y Bwrdd i'r awdurdod lleol ar yr amod bod y penderfyniad neu'r penderfyniad arfaethedig yn ymwneud â swyddogaethau'r pwyllgor hwnnw.

(9) Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu, neu unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r awdurdod, ond ni fydd gan unrhyw bersonau o'r fath hawl i bleidleisio yn unrhyw un o gyfarfodydd pwyllgor o'r fath nac unrhyw is-bwyllgor o'r fath ar unrhyw gwestiwn sydd i gael ei benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.

(10) Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath —

(a) ei gwneud yn ofynnol i aelodau o'r Bwrdd ac i swyddogion o'r awdurdod fod yn bresennol ger ei fron i ateb cwestiynau, a

(b) gwahodd personau eraill i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor.

(11) Bydd unrhyw aelod o'r Bwrdd neu unrhyw un o swyddogion yr awdurdod sydd wedi'i awdurdodi i fod yn bresennol i ateb cwestiynau yn unol â pharagraff (10) o dan ddyletswydd i wneud hynny ond ni fydd ar unrhyw aelod neu swyddog o'r fath rwymedigaeth i ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person hwnnw hawl i wrthod ei ateb mewn achos, neu at ddibenion achos, mewn llys yng Nghymru neu Loegr.

Pwyllgor Archwilio

7.—(1) I'r graddau y caniateir i bwerau awdurdod lleol ynghylch ei swyddogaethau archwilio o dan unrhyw ddeddfiad gael eu dirprwyo i bwyllgor neu is-bwyllgor, caiff awdurdod lleol ddirprwyo i bwyllgor archwilio.

(2) O ran pwyllgor archwilio a sefydlir o dan reoliad 5(2)(c):

(a) rhaid iddo beidio â chynnwys unrhyw un o aelodau'r Bwrdd; a

(b) rhaid iddo beidio â chael cadeirydd sy'n aelod o'r un grŵp gwleidyddol â Chadeirydd y Bwrdd (ac eithrio pan fo un grŵp gwleidyddol yn unig);

(c) caiff benodi un neu fwy o is-bwyllgorau; ac

(ch) caiff drefnu i unrhyw is-bwyllgor o'r fath gyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau.

(3) Ni chaiff is-bwyllgor i bwyllgor archwilio gyflawni unrhyw swyddogaethau ac eithrio'r rhai a roddir iddo o dan baragraff (2).

(4) Caiff pwyllgor archwilio neu unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r awdurdod, ond ni fydd gan unrhyw bersonau o'r fath hawl i bleidleisio mewn unrhyw un o gyfarfodydd pwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath ar unrhyw gwestiwn sydd i gael ei benderfynu yn y cyfarfod hwnnw ac ni fydd ganddynt hawl i fod yn gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath.

Pwyllgorau Ardal

8.—(1) Mae pwyllgor ardal neu is-bwyllgor yn bwyllgor neu is-bwyllgor sy'n bodloni'r amodau canlynol:

(a) bod y pwyllgor neu'r is-bwyllgor wedi'i sefydlu i gyflawni ar gyfer rhan o ardal yr awdurdod unrhyw swyddogaethau (ac eithrio swyddogaethau a ddisgrifir yn rheoliad 6(3)) y bydd yr awdurdod lleol yn eu dyfarnu;

(b) bod aelodau'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor sy'n aelodau o'r awdurdod wedi'u hethol dros adrannau neu wardiau etholiadol sy'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn y rhan honno; ac

(c) yn achos pwyllgor yn unig, nad yw poblogaeth y rhan honno, yn ôl amcangyfrif yr awdurdod, yn llai na phymtheg y cant o gyfanswm poblogaeth ardal yr awdurdod fel y mae wedi'i amcangyfrif felly.

(2) Pan fo awdurdod lleol yn sefydlu pwyllgorau ardal—

(a) rhaid cael o leiaf dri phwyllgor o'r fath a rhaid iddynt ymdrin â'r cyfan o ardal yr awdurdod lleol; a

(b) bydd gan bob aelod o'r awdurdod lleol hawl i fod yn aelod o un pwyllgor ardal.

(3) Caiff corff perthnasol drefnu i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod lleol gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal i'r awdurdod hwnnw.

(4) Os caniateir i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal yn rhinwedd y rheoliad hwn, yna, oni fydd y corff perthnasol yn cyfarwyddo fel arall, caiff y pwyllgor ardal drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan is-bwyllgor i'r pwyllgor hwnnw neu gan un o swyddogion yr awdurdod.

(5) Os caniateir i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan is-bwyllgor i bwyllgor ardal yn rhinwedd paragraff (4), yna, oni fydd y pwyllgor ardal neu'r corff perthnasol yn cyfarwyddo fel arall, caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan un o swyddogion yr awdurdod.

(6) Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn gan gorff perthnasol i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal i atal y corff perthnasol rhag arfer y swyddogaethau hynny.

(7) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddo wneud trefniadau o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r Bwrdd sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i gael eu harolygu gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol.

(8) Wrth baratoi'r ddogfen y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (7) uchod, rhaid i'r Bwrdd roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38 o Ddeddf 2000.

Gofynion ar gyfer pwyllgorau ac is-bwyllgorau

9.—(1) Mae pob pwyllgor i awdurdod lleol a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn a phob is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath i gael ei drin fel pwyllgor neu is-bwyllgor i brif gyngor at ddibenion Rhan VA o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cyfle i fynd i gyfarfodydd ac i weld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol).

(2) Mae pob pwyllgor awdurdod lleol a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn (ac eithrio pwyllgor ardal) a phob is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath i'w drin fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(6) (dyletswydd i ddyrannu seddi i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.

(3) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddeddfiad, rhaid i bob pwyllgor awdurdod lleol (ac eithrio'r Bwrdd) a phob is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath (ac eithrio is-bwyllgor i'r Bwrdd) —

(a) cynnwys ymhlith ei aelodau fwyafrif o aelodau'r awdurdod nad ydynt yn aelodau o'r Bwrdd; a

(b) cael cadeirydd sy'n aelod o'r awdurdod ond nad yw'n aelod o'r Bwrdd.

(4) Rhaid i bwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod lleol a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn, ac eithrio pwyllgor ardal, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, fod wedi'i ffurfio o uchafswm o ddeg aelod neu ugain y cant o aelodau'r awdurdod, (wedi'i gyfrifo drwy dalgrynnu nifer yr aelodau i fyny i'r Rhif cyfan agosaf pan nad yw nifer yr aelodau yn Rhif cyfan wrth gyfrifo'r ganran) p'un bynnag yw'r mwyaf.

(5) Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen ddyrannu cadeiryddiaethau pwyllgorau a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn er mwyn sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, fod cydbwysedd y grwpiau gwleidyddol yn yr awdurdod lleol yn cael ei adlewyrchu gan y cadeiryddiaethau hynny.

(6) Rhaid i bwyllgor cynllunio, pwyllgor trwyddedu neu bwyllgor ardal neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath sy'n gyfrifol am unrhyw un o'r swyddogaethau a restrir yn Rhan A o Atodlen 1 (swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio gwlad a thref a rheoli datblygu) gael wyth aelod o leiaf.

(7) Mae is-adrannau (2) a (5) o adran 102 o Ddeddf 1972 i fod yn gymwys i bwyllgor a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn, neu i is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, fel y maent yn gymwys i bwyllgor a benodir o dan yr adran honno.

Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod

10.—(1) Nid yw'r swyddogaethau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn drwy gyfeirio at y deddfiadau a bennir mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod.

(2) Nid yw swyddogaethau —

(a) gosod unrhyw amod, terfyn neu gyfyngiad arall ar gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir —

(i) wrth arfer swyddogaeth a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1; neu

(ii) ac eithrio gan Fwrdd yr awdurdod, wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan Ddeddf leol; neu

(b) dyfarnu ar unrhyw delerau eraill y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath yn ddarostyngedig iddynt,

i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(3) Nid yw swyddogaeth dyfarnu a ddylid cymryd camau gorfodi, ac ym mha fodd y dylid eu gorfodi —

(a) yn erbyn unrhyw fethiant i gydymffurfio â chymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a roddwyd wrth arfer swyddogaeth a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1,

(b) yn erbyn unrhyw fethiant i gydymffurfio ag amod, cyfyngiad neu deler y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath yn ddarostyngedig iddynt, neu

(c) yn erbyn unrhyw doriad arall o ran mater na fyddai'r swyddogaeth ynglŷn ag ef o ddyfarnu ar gais am gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod,

i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(4) Nid yw swyddogaeth —

(a) diwygio, addasu neu amrywio unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir, nac unrhyw amod, terfyn, cyfyngiad neu deler o'r math a grybwyllwyd ym mharagraff (2) ac y mae'n ddarostyngedig iddynt; neu

(b) dirymu unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath,

i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(5) Nid yw swyddogaeth gwneud unrhyw gynllun sydd wedi'i awdurdodi neu sy'n ofynnol gan reoliadau o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynlluniau ar gyfer lwfansau sylfaenol, lwfansau presenoldeb a lwfansau cyfrifoldeb arbennig i aelodau awdurdodau lleol), neu swyddogaeth diwygio, dirymu neu ddisodli unrhyw gynllun o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(6) Nid yw swyddogaethau dyfarnu ar y canlynol, sef —

(a) swm unrhyw lwfans sy'n daladwy —

(i) o dan is-adran (5) o adran 22 o Ddeddf 1972 (treuliau cadeirydd);

(ii) o dan is-adran (4) o adran 24 o'r Ddeddf honno (treuliau is-gadeirydd);

(iii) o dan is-adran (4) o adran 173 (lwfans colled ariannol) o'r Ddeddf honno(7);

(iv) o dan adran 175 o'r Ddeddf honno (lwfansau ar gyfer mynychu cynadleddau a chyfarfodydd);

(b) yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau i gael eu gwneud o dan adran 174 o'r Ddeddf honno (lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth);

(c) swm unrhyw lwfans sy'n daladwy yn unol â chynllun o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, neu reoliadau a wnaed o dan adran 100 o Ddeddf 2000, neu yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau ar gyfer unrhyw lwfans o'r fath i gael eu gwneud;

(ch) a ddylid codi tâl am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad nad yw eu dyroddi yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod; a

(d) pan fo tâl yn cael ei godi am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad o'r fath, swm y tâl;

i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(7) Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (5) neu (6)(a) i (c).

(8) Yn ddarostyngedig i reoliad 16, nid yw swyddogaeth gwneud trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan bwyllgor neu swyddog o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(9) Nid yw swyddogaeth gwneud penodiadau o dan adran 102 (penodi pwyllgorau) o Ddeddf 1972 i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(10) Oni ddarperir fel arall gan y Rheoliadau hyn, nid yw swyddogaeth awdurdod lleol y caniateir iddi gael ei chyflawni, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad (a basiwyd neu a wnaed cyn i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud) gan awdurdod yn unig, i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

Swyddogaethau y caniateir iddynt fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod

11.  Caniateir i'r swyddogaethau a bennir yn Atodlen 2 fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod, ond nid oes angen iddynt fod felly.

Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod yn unig

12.—(1) Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth —

(a) llunio neu baratoi cynllun neu strategaeth o ddisgrifiad a bennir yn ngholofn (1) o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn;

(b) llunio cynllun neu strategaeth ar gyfer rheoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod; neu

(c) llunio neu baratoi unrhyw gynllun neu strategaeth arall y mae eu mabwysiadu neu eu cymeradwyo, yn rhinwedd rheoliad 13(1), yn fater i'r awdurdod ddyfarnu arno;

nid yw'r camau a ddynodir gan baragraff (3) (“y camau dynodedig”) i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(2) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (1), cyfrifoldeb y Bwrdd yw'r swyddogaethau a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw.

(3) Y camau dynodedig yw —

(a) rhoi cyfarwyddiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Bwrdd ailystyried unrhyw gynllun drafft neu strategaeth ddrafft a gyflwynir gan y Bwrdd i'r awdurdod ei ystyried neu ei hystyried;

(b) diwygio unrhyw gynllun drafft neu strategaeth ddrafft a gyflwynir gan y Bwrdd i'r awdurdod ei ystyried neu ei hystyried;

(c) cymeradwyo, er mwyn ei gyflwyno neu ei chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu i unrhyw un o Weinidogion y Goron, unrhyw gynllun neu strategaeth (p'un a yw ar ffurf ddrafft ai peidio) y mae'n ofynnol cyflwyno unrhyw ran ohono neu ohoni felly;

(ch) mabwysiadu'r cynllun neu'r strategaeth (gydag addasiadau neu hebddynt).

(4) O ran swyddogaeth diwygio, addasu, amrywio neu ddiddymu unrhyw gynllun neu strategaeth o ddisgrifiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), (p'un a yw'n gynllun neu strategaeth a gymeradwywyd neu'n un a fabwysiadwyd, cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym) —

(a) mae'n gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod i'r graddau y mae gwneud y diwygio, yr addasu, yr amrywio neu'r dirymu —

(i) yn ofynnol er mwyn rhoi eu heffaith i ofynion Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu un o Weinidogion y Goron mewn perthynas â chynllun neu strategaeth a gyflwynir i gael ei gymeradwyo neu ei chymeradwyo, neu ag unrhyw ran a gyflwynir felly; neu

(ii) wedi'i awdurdodi drwy ddyfarniad a wnaed gan yr awdurdod wrth wneud y trefniadau neu gymeradwyo neu fabwysiadu'r cynllun neu'r strategaeth, yn ôl y digwydd; ond

(b) nid yw'n gyfrifoldeb i'r Bwrdd i unrhyw raddau eraill.

(5) Ac eithrio i'r graddau a grybwyllir ym mharagraff (6), mae swyddogaeth gwneud cais —

(a) o dan is-adran (5) o adran 135 o Ddeddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (rhaglenni ar gyfer gwaredu) (8); neu

(b) o dan adran 32 (pŵer i waredu tir a ddelir at ddibenion Rhan II neu adran 43 (cydsyniad sy'n angenrheidiol ar gyfer gwarediadau penodol nad ydynt yn dod o dan adran 32) o Ddeddf Tai 1985(9),

yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(6) Awdurdodi gwneud y cais yw'r graddau a grybwyllir yn y paragraff hwn.

(7) Nid yw swyddogaeth gwneud cais o'r math y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (5), i'r graddau a grybwyllwyd ym mharagraff (6), yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(8) Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys ynglŷn â chyflawni —

(a) swyddogaeth a bennir ym mharagraff (1) i'r graddau nad yw'n gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod yn rhinwedd y paragraff hwnnw;

(b) y swyddogaethau a bennir ym mharagraffau (4) a (5) i'r graddau nad ydynt yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(9) Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth—

(a) yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ynglŷn â chyfrifo sylfaen treth gyngor ym mharagraff 22 o Atodlen 2, cyfrifo yn unol ag unrhyw un o adrannau 32 i 37, 43 i 51, 52I, 52J, 52T a 52U o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(10), p'un ai drwy'r adran wreiddiol neu drwy gyfrwng adran amnewid; neu

(b) dyroddi praesept o dan Bennod IV o Ran 1 o'r Ddeddf honno,

mae'r camau a ddynodir gan baragraff (11) (“y camau dynodedig”) yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(10) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (9), nid cyfrifoldeb y Bwrdd yw'r swyddogaeth a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw.

(11) Y camau dynodedig yw —

(a) paratoi'r canlynol, er mwyn eu cyflwyno i'r awdurdod eu hystyried—

(i) amcangyfrifon o'r symiau sydd i'w hagregu wrth gyfrifo neu amcangyfrifon o symiau eraill sydd i'w defnyddio at ddibenion y cyfrifo;

(ii) y symiau y mae'n ofynnol eu datgan yn y praesept;

(b) ailystyried yr amcangyfrifon a'r symiau hynny yn unol â gofynion yr awdurdod;

(c) cyflwyno amcangyfrifon a symiau diwygiedig i'r awdurdod eu hystyried.

Cyflawni swyddogaethau penodedig gan awdurdodau

13.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i swyddogaeth o unrhyw un o'r disgrifiadau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 (a allai, oni bai am y paragraff hwn, fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod) beidio â bod yn gyfrifoldeb i'r Bwrdd o dan yr amgylchiadau a bennir yng ngholofn (2) mewn perthynas â'r swyddogaeth honno.

(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth o'r disgrifiad a bennir ym mharagraff 3 o golofn (1) o Atodlen 4 —

(a) pan fo'n rhesymol barnu bod yr amgylchiadau, sy'n peri iddi fod yn angenrheidiol gwneud y dyfarniad, yn amgylchiadau brys; a

(b) pan fo'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i'w wneud ganddo wedi cael oddi wrth gadeirydd pwyllgor craffu perthnasol neu, os nad oes person o'r fath neu os yw cadeirydd pob pwyllgor craffu perthnasol yn methu gweithredu neu'n anfodlon gweithredu, oddi wrth gadeirydd yr awdurdod neu, yn absenoldeb y person hwnnw, oddi wrth yr is-gadeirydd, ddatganiad mewn ysgrifen fod angen i'r dyfarniad gael ei wneud ar frys.

(3) Ym mharagraff (2) ystyr “pwyllgor craffu perthnasol” yw pwyllgor craffu i'r awdurdod y mae ei gylch gwaith yn cynnwys y pŵer i adolygu neu i graffu ar benderfyniadau neu gamau eraill a gymerwyd wrth gyflawni'r swyddogaeth y mae'r dyfarniad yn ymwneud â hi.

(4) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r dyfarniad gael ei wneud, rhaid i'r unigolyn neu'r corff y gwneir y dyfarniad ganddo yn unol â pharagraff (2), gyflwyno i'r awdurdod adroddiad y mae'n rhaid iddo gynnwys manylion —

(a) y dyfarniad;

(b) yr argyfwng neu'r amgylchiadau eraill y cafodd ei wneud odano neu odanynt; ac

(c) y rhesymau dros y dyfarniad.

(5) Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) nad yw, yn rhinwedd y paragraff hwnnw, yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

Cyfarwyddiadau gan y Bwrdd i bwyllgorau cynllunio a phwyllgorau trwyddedu

14.  Caiff y Bwrdd gyfarwyddo mai'r awdurdod lleol sydd i ddyfarnu ar unrhyw benderfyniad sydd i'w wneud gan bwyllgor cynllunio, pwyllgor trwyddedu neu bwyllgor ardal mewn perthynas â swyddogaeth unrhyw un o'r disgrifiadau a bennir yng ngholofn (1) o ran A o Atodlen 1 (swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio gwlad a thref a rheoli datblygu).

Cyflawni swyddogaethau gan awdurdod lleol arall

15.—(1) Caiff Bwrdd wneud trefniadau i swyddogaeth y mae'n gyfrifol amdani gael ei chyflawni naill ai gan awdurdod lleol arall neu gan Fwrdd neu ŵeithrediaeth yr awdurdod arall hwnnw.

(2) Caiff awdurdod lleol drefnu i swyddogaeth, nad yw'r Bwrdd yn gyfrifol amdani, gael ei chyflawni gan awdurdod lleol arall neu gan Fwrdd neu ŵeithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw.

(3) Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn i atal y corff a wnaeth y trefniadau rhag arfer y swyddogaethau y maent yn ymwneud â hwy.

(4) Pan fo trefniadau wedi'u gwneud o dan baragraff (1) neu (2) uchod, yna, yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau, caiff yr awdurdod arall hwnnw drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog iddynt.

(5) Os caniateir i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan bwyllgor awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff (4) uchod, yna, oni fydd yr awdurdod hwnnw yn cyfarwyddo fel arall, caiff y pwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan un o is-bwyllgorau neu un o swyddogion yr awdurdod.

(6) Os caniateir i unrhyw swyddogaethau, yn rhinwedd paragraff (4) neu (5) uchod, gael eu cyflawni gan is-bwyllgor i awdurdod lleol, yna, oni bai bod yr awdurdod hwnnw neu, yn ôl y digwydd, y pwyllgor hwnnw, yn cyfarwyddo fel arall, caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan swyddog i'r awdurdod.

Arfer swyddogaethau ar y cyd

16.—(1) Caiff corff perthnasol wneud trefniadau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 yn unol â'r rheoliad hwn.

(2) Rhaid i'r trefniadau gael eu gwneud —

(a) pan fo'r swyddogaethau y mae'r trefniadau yn ymwneud â hwy yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod lleol arall o dan sylw neu i ŵeithrediaeth yr awdurdod arall hwnnw, gyda'r corff perthnasol sydd â'r pwer i wneud y trefniadau hynny ar ran yr awdurdod hwnnw;

(b) mewn unrhyw achos arall, gyda'r awdurdod lleol arall.

(3) Os yw'r trefniadau yn darparu i swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor, rhaid i benodiadau personau sydd i gynrychioli pob awdurdod lleol ar y pwyllgor hwnnw gael eu gwneud, a rhaid i'r corff perthnasol, y mae'r trefniadau yn cael eu gwneud ganddo ar ran yr awdurdod hwnnw, ddyfarnu ar nifer y personau hynny sydd i'w penodi.

(4) Yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau, ac oni bai bod y corff perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod lleol y mae ei swyddogaethau yn destun y trefniadau yn cyfarwyddo fel arall, caiff cyd-bwyllgor a benodir yn unol â'r rheoliad hwn drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni gan is-bwyllgor neu gan swyddog i un o'r awdurdodau o dan sylw, ac yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau, ac oni bai bod y cyd-bwyllgor neu'r corff perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod lleol y mae ei swyddogaethau'n destun y trefniadau yn cyfarwyddo fel arall, caiff unrhyw is-bwyllgor o'r fath drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni gan swyddog o'r fath.

(5) Nid yw unrhyw drefniadau a wneir yn unol â'r rheoliad hwn gan gorff perthnasol i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor i atal y corff hwnnw rhag arfer y swyddogaethau hynny.

(6) Pan fo trefniadau a wneir ar ran awdurdod lleol yn unol â'r rheoliad hwn gan gorff perthnasol yn darparu ar gyfer penodi i gyd-bwyllgor bersonau nad ydynt yn aelodau o Fwrdd yr awdurdod hwnnw, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y trefniadau, rhaid i'r corff perthnasol sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i gael eu harolygu gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol.

(7) Rhaid i gorff perthnasol sy'n paratoi'r ddogfen y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (6) uchod roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38 o Ddeddf 2000.

(8) Bydd rhan VA o Ddeddf 1972 (cyfle i fynd i gyfarfodydd ac i weld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol) yn gymwys i is-bwyllgor a sefydlir yn unol â'r rheoliad hwn.

Aelodau cyd-bwyllgorau

17.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, rhaid i bob person a benodir i gyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 16 uchod gan gorff perthnasol fod yn aelod o'r awdurdod lleol, ac ni fydd y gofynion ynghylch cydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi aelodau o'r fath.

(2) Pan fo'r canlynol yn wir, sef —

(a) bod gan y cyd-bwyllgor swyddogaethau mewn perthynas â rhan yn unig o ardal un o'r awdurdodau lleol o dan sylw;

(b) bod y swyddogaethau hynny yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod hwnnw; ac

(c) nad yw poblogaeth y rhan honno, yn ôl amcangyfrif yr awdurdod, yn fwy na phymtheg y cant o gyfanswm poblogaeth ardal yr awdurdod fel y mae wedi'i amcangyfrif felly,

caiff cynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw ar y cyd-bwyllgor gynnwys unrhyw aelodau o'r awdurdod hwnnw sydd wedi'u hethol dros adrannau neu wardiau etholiadol sy'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y rhan honno o ardal yr awdurdod, ac ni fydd y gofynion ynghylch cydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi'r aelodau hynny.

Dirymu

18.  Mae'r canlynol wedi'u dirymu—

(a) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001(11);

(b) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2002(12);

(c) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2003(13); ac

(ch) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2004(14).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(15).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Chwefror 2007

(2)

1972 p.70. Back [2]

(4)

O.S. 2001/3711 (Cy.307) a ddiwygir yn rheoliad 2 gan Reoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001 (O.S. 2001 / 2913 (Cy. 210)), rheoliad 10. Back [4]

(6)

1989 p.42. Mae adran 18 wedi'i diwygio gan adran 99(3) i (9) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Back [6]

(7)

Diwygiwyd adran 173(4) gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42), Atodlen 11, paragraff 26. Gwnaed arbediad perthnasol gan erthygl 3(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cychwyn Rhif 11 ac Arbedion) 1991 (O.S. 1991/344). Back [7]

(8)

1993 p.28, sef Deddf y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [8]

(9)

1985 p.68. Yr oedd diwygiadau perthnasol yn is-adran (3) o adran 32 ac is-adran (1)(a) o adran 43 wedi'u gwneud gan baragraff 3(a), (d) ac (e) o'r Atodlen i O.S. 1997/74. Back [9]

(10)

1992 p.14; mewnosodwyd adrannau 52I, 52J, 52T a 52U gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27), Atodlen 1, paragraff 1. Back [10]

(11)

O.S. 2001 / 2284 (Cy.173). Back [11]

(12)

O.S. 2002 / 810 (Cy.90). Back [12]

(13)

O.S. 2003 / 155 (Cy.25). Back [13]

(14)

O.S. 2004 / 3092 (Cy.266). Back [14]