Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliadau 2 a 9(2)

ATODLEN 1 DARPARIAETHAU CYMUNEDOL PENODEDIG

1. Y Ddarpariaeth yn Rheoliad 37/2005 2. Y pwnc
Erthygl 2.1 Gofyniad bod rhaid gosod offerynnau cofnodi addas yn y cyfrwng ar gyfer cludo, cadw mewn warws a storio deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym er mwyn i'r offerynnau hynny fonitro yn aml ac yn rheolaidd dymheredd yr aer y mae'r deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym yn agored iddo.
Erthygl 2.2 — brawddeg gyntaf y paragraff cyntaf Gofyniad bod rhaid i bob offeryn mesur a ddisgrifir yn Erthygl 2.1 o Reoliad 37/2005 gydymffurfio â safonau EN 12830, EN 13485 ac EN 13486.
Erthygl 2.2 — ail frawddeg y paragraff cyntaf Gofyniad bod gweithredwyr bwyd yn cadw pob dogfen berthnasol sy'n cadarnhau bod yr offerynnau mesur yn cydymffurfio â'r safon EN berthnasol.
Erthygl 2.3 Gofyniad bod rhaid i gofnodion tymheredd gael eu dyddio a'u storio gan y gweithredydd bwyd am gyfnod o flwyddyn o leiaf, neu am gyfnod hwy gan ystyried natur ac oes silff y deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym.
Erthygl 3.1 — paragraff cyntaf Gofyniad mai dim ond ag un thermomedr y mae mod ei weld yn hawdd y mae'n rhaid mesur tymheredd yr aer tra bo deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym yn cael eu storio mewn cabinetau arddangos manwerthol, neu'n cael eu dosbarthu'n lleol.
Erthygl 3.1 — ail baragraff (a) a (b) Gofyniad bod rhaid i linell uchafswm llwyth y cabinet fod wedi'i marcio'n glir a bod rhaid i'r thermomedr ddangos y tymheredd ar yr ochr lle mae'r aer yn dychwelyd ar lefel y marc hwnnw.

Rheoliad 3

ATODLEN 2 Yr amodau y mae'n rhaid eu bodloni ynglŷn â deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym os bwriedir ei roi ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl

1.  Yr amodau yw—

(a) bod y deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym wedi'i weithgynhyrchu o ddeunyddiau crai sydd mewn cyflwr da, sy'n ddilys ac sydd o ansawdd werthadwy ac nid o unrhyw ddeunyddiau eraill;

(b) nad oes unrhyw ddeunydd crai wedi'i ddefnyddio i weithgynhyrchu'r deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym oni bai, ar yr adeg y cafodd ei ddefnyddio, y buasai wedi bod yn gyfreithlon i'r deunydd crai gael ei roi ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl;

(c) bod y broses o baratoi a rhewi'n gyflym y deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym wedi'i chyflawni'n ddigon prydlon, a chan ddefnyddio cyfarpar technegol priodol, er mwyn lleiafu unrhyw newidiadau cemegol, biocemegol a microbiolegol i'r bwyd sydd wedi'i gynnwys ynddo;

(ch) nad oes unrhyw gyfrwng cryogenig ac eithrio cyfrwng cryogenig awdurdodedig wedi'i ddefnyddio mewn cysylltiad uniongyrchol ag unrhyw fwyd sydd wedi'i gynnwys yn y deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym;

(d) bod rhewi'n gyflym bob bwyd sydd wedi'i gynnwys yn y deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym wedi golygu bod tymheredd y bwyd hwnnw ar ôl sefydlogi ei wres yn −18°C neu'n oerach na hynny; ac

(dd) ar ôl rhewi'n gyflym bob bwyd sydd wedi'i gynnwys yn y deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym a sefydlogi gwres y bwyd hwnnw i gydymffurfio ag is-baragraff (d), fod tymheredd y bwyd hwnnw wedi'i gynnal ar lefel nad yw'n gynhesach na −18°C ac eithrio pan fo eithriad a ganiateir, ac sy'n ymwneud â thymheredd y bwyd hwnnw, yn gymwys.

2.  At ddibenion paragraff 1—

(a) mae'r canlynol yn gyfryngau cryogenig awdurdodedig—

(i) aer,

(ii) nitrogen, neu

(iii) carbon diocsid;

a

(b) mae eithriad a ganiateir sy'n ymwneud â thymheredd bwyd yn gymwys—

(i) pan fo'r bwyd hwnnw'n cael ei gadw am gyfnodau byr tra bo'n cael ei gludo (gan gynnwys cael ei ddosbarthu'n lleol) ar dymheredd sy'n gynhesach na −18°C ond nid yn gynhesach na −15°C, neu

(ii) pan fo'r bwyd hwnnw'n cael ei gadw mewn cabinet arddangos manwerthol ar dymheredd sy'n gynhesach na −18°C i raddau sy'n gyson ag arferion storio da ond nid yn gynhesach na −12°C.

Rheoliad 9(3)

ATODLEN 3 GOFYNION TROSIANNOL AR GYFER OFFERYNNAU MESUR A OSODWYD CYN 1 IONAWR 2006

Cymhwyso

1.  Dim ond ar gyfer offerynnau mesur a ddefnyddir at ddibenion monitro'r tymheredd fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2.1 o Reoliad 37/2005 ac a osodwyd cyn 1 Ionawr 2006 y mae'r Atodlen hon yn gymwys.

2.  Bydd yr Atodlen hon yn peidio â bod yn effeithiol ar 1 Ionawr 2010.

Y gofynion

3.  Mae'r gofynion fel a ganlyn—

(a) o ran unrhyw gyfrwng storio neu gludo ac eithrio'r rhai a grybwyllir yn is-baragraffau canlynol y paragraff hwn, rhaid i'r offeryn fod yn system sy'n addas ar gyfer monitro, yn aml ac yn rheolaidd, dymereddau aer yn y cyfrwng hwnnw;

(b) o ran storio mewn siambr oer y mae ei chynhwysedd yn llai na 10m3x2 a hynny ar fangre a ddefnyddir ar gyfer rhoi'r deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ar y farchnad at ddibenion manwerthu, rhaid i'r offeryn fod yn thermomedr a osodir fel bod modd ei weld yn hawdd;

(c) o ran storio mewn cabinet arddangos manwerthol ac eithrio cabinet arddangos manwerthol agored) rhaid i'r offeryn fod yn un neu fwy o thermomedrau a osodir fel bod modd ei weld neu eu gweld yn hawdd;

(ch) o ran storio mewn cabinet arddangos manwerthol agored, rhaid i'r offeryn fod yn un neu fwy o thermomedrau a osodir fel bod modd ei weld neu eu gweld yn hawdd a rhaid iddo neu rhaid iddynt ddangos y tymheredd ar yr ochr lle mae'r aer yn dychwelyd ar lefel llinell uchafswm llwyth y cabinet hwnnw a honno'n llinell sydd wedi'i marcio'n glir;

(d) o ran cyfrwng cludo ac eithrio—

(i) cerbyd a gofrestrwyd y tu allan i'r Deyrnas Unedig, neu

(ii) cyfrwng cludo pan fo'n cael ei ddefnyddio yn ystod dosbarthiad lleol,

rhaid i'r offeryn fod yn system ar gyfer monitro tymereddau aer—

(a2) y mae ei chywirdeb yn blws neu finws 1°C pan fo'i synhwyrydd yn mesur tymheredd o fewn yr ystod −25°C i +30°C,

(b2) nad yw ei chywirdeb mesur yn newid â mwy na phlws neu finws 0.5°C pan fo'n gweithredu ar dymereddau o fewn yr ystod −20°C i +30°C,

(c2) nad yw ei heglurder arddangos yn fwy nag 1°C, ac

(ch2) sy'n wydn ac sy'n gallu gwrthsefyll sioc;

(dd) o ran cerbyd sydd wedi'i gofrestru y tu allan i'r Deyrnas Unedig, rhaid i'r offeryn fod yn offeryn sydd wedi'i gymeradwyo gan yr awdurdod cymwys yn y wlad y mae'r cerbyd wedi'i gofrestru ynddi; ac

(e) o ran cyfrwng cludo, pan fo hwnnw'n cael ei ddefnyddio yn ystod dosbarthiad lleol, rhaid i'r offeryn fod yn un neu fwy o thermomedrau a osodir fel bod modd ei weld neu eu gweld yn hawdd.