Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 389 (Cy.40)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

13 Chwefror 2007

Yn dod i rym

1 Mawrth 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi(2) at ddibenion yr adran honno ynghylch mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bo'r Rheoliadau canlynol yn cael eu llunio.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw “Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym (Cymru) 2007”.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2007.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1) o'r Ddeddf, ac eithrio nad yw'n cynnwys y Trysorydd priodol y cyfeirir ato yn adran 5(1)(c) o'r Ddeddf (sy'n ymdrin â'r Deml Fewnol a'r Deml Ganol);

  • ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw'r awdurdod sy'n gyfrifol, yn rhinwedd rheoliad 9(5), dros weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn;

  • mae i “bwyd” yr ystyr a roddir i “food” yn Rheoliad 178/2002;

  • ystyr “cabinet arddangos manwerthol” (“retail display cabinet”) yw unrhyw gabinet y mae deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym yn cael ei roi ar y farchnad ynddo at ddibenion manwerthu neu wrth gynnal busnes talu a chario;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 89/108” (“Directive 89/108”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 89/108/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ar gyfer eu bwyta gan bobl(4);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 92/2” (“Directive 92/2”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 92/2/EEC sy'n gosod y weithdrefn samplu a dull y Gymuned o ddadansoddi er mwyn rheoli'n swyddogol dymereddau bwydydd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(5);

  • ystyr “darpariaeth Gymunedol benodedig” (“specified Community provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad 37/2005 sydd wedi'i phennu yng ngholofn 1 o Atodlen 1 ac y mae pwnc y ddarpariaeth honno wedi'i ddisgrifio yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;

  • mae i “defnyddiwr olaf” yr ystyr a roddir i “ultimate consumer” yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996;

  • ystyr “deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym” (“quick-frozen foodstuff”) yw cynnyrch—

    (a)

    sydd wedi'i ffurfio o fwyd sydd wedi bod drwy broses rewi a elwir “rhewi'n gyflym” sy'n golygu bod parth yr uchafbwynt crisialu yn cael ei groesi mor gyflym â phosibl, yn dibynnu ar y math o gynnyrch; a

    (b)

    sydd wedi'i labelu at ddibenion ei roi ar y farchnad i ddangos ei fod wedi mynd drwy'r broses honno,

    ond nad yw'n cynnwys hufen iâ nac unrhyw iâ bwytadwy arall;

  • ystyr “dosbarthiad lleol” a “dosbarthu'n lleol” (“local distribution”), mewn perthynas ag unrhyw gynnyrch, yw'r rhan honno o'r gadwyn ddosbarthu pan fo'r cynnyrch yn cael ei ddanfon i'r man lle mae'n cael ei roi ar y farchnad at ddibenion manwerthu (a bod ei roi felly ar y farchnad i gynnwys rhoi ar y fachnad i sefydliad arlwyo);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990(6);

  • dehonglir “rhagbecyn” (“prepackaging”) yn unol â'r diffiniad o “prepacked” yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 ond gan roi'r geiriau “placed on the market” yn lle'r geiriau “offered for sale”;

  • ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

  • ystyr “Rheoliad 37/2005” (“Regulation 37/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 37/2005 ar fonitro tymereddau yn y cyfrwng ar gyfer cludo, cadw mewn warws a storio deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(7);

  • mae i'r ymadrodd “rhoi ar y farchnad” yr ystyr a roddir i “placing on the market” a “place on the market” yn Rheoliad 178/2002 a rhaid dehongli “wedi'i roi ar y farchnad” (“placed on the market”) yn unol â hynny;

  • mae i “sefydliad arlwyo” yr ystyr a roddir i “catering establishment” yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(8); ac

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod gorfodi, yw unrhyw berson (p'un a yw'n swyddog i'r awdurdod ai peidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2) Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yng Nghyfarwyddeb 89/108, Cyfarwyddeb 92/2 neu Reoliad 37/2005 yr ystyr y mae'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn ei ddwyn yng Nghyfarwyddeb 89/108, Cyfarwyddeb 92/2 neu Reoliad 37/2005, yn ôl y digwydd.

(3) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu neilltuo—

(a) drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(9), i awdurdod iechyd porthladd;

(b) drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(10), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig; neu

(c) drwy orchymyn o dan baragraff 15(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985(11), i awdurdod sengl ar gyfer sir fetropolitanaidd,

mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u neilltuo felly iddo.

Rhoi deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ar y farchnad

3.  Ni chaiff neb roi deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl oni bai bod yr amodau a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 wedi'u bodloni ynglŷn â'r bwyd hwnnw.

Pecynnu deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac sydd wedi'u bwriadu ar gyfer y defnyddiwr olaf

4.  Ni chaiff neb roi unrhyw ddeunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym ac sydd wedi'i fwriadu ar gyfer y defnyddiwr olaf ar y farchnad oni bai—

(a) ei fod wedi'i bacio gan ei weithgynhyrchydd neu baciwr mewn rhagbecyn sy'n addas i'w ddiogelu rhag halogiad gan ficrobau a ffurfiau eraill ar halogiad allanol a rhag dadhydradu; a

(b) bod y deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym wedi aros yn y rhagbecyn hwnnw hyd nes iddo gael ei roi ar y farchnad.

Marchnata neu labelu bwydydd sydd wedi'u rhewi'n gyflym

5.—(1) Ni chaiff neb roi ar y farchnad unrhyw fwyd a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr olaf neu ar gyfer unrhyw sefydliad arlwyo os bydd marcio'r bwyd neu ei labelu yn mynd yn groes i baragraff (1) neu (2) ac ni chaiff neb roi ar y farchnad unrhyw fwyd a fwriedir ar gyfer unrhyw berson arall os yw ei farcio neu ei labelu'n mynd yn groes i baragraff (2) neu (3).

(2) Caniateir i'r disgrifiad “quick-frozen” neu unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/108 gael ei ddefnyddio'n unswydd fel label i roi'r naill neu'r llall o'r canlynol ar y farchnad—

(a) bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym; neu

(b) bwyd sydd yn rhinwedd y label hwnnw yn dod yn ddeunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym.

(3) Rhaid i ddeunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym ac y bwriedir ei gyflenwi, heb brosesu pellach, i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo, yn ychwanegol at y disgrifiad “quick-frozen” (ac, yn ôl fel y gwêl y cyflenwr arfaethedig yn dda, unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/108) a ychwanegir at ei enw gwerthu, fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu, a hynny ar ddeunydd pacio, cynhwysydd neu ddeunydd lapio'r bwyd hwnnw, neu ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd hwnnw, â'r wybodaeth ganlynol—

(a) dangosiad ynglŷn â'r dyddiad parhauster lleiaf;

(b) dangosiad ynglŷn â'r cyfnod hwyaf y byddai'n ddoeth ei storio;

(c) dangosiad ynghylch—

(i) ar ba dymheredd a/neu

(ii) ym mha gyfarpar

y byddai'n ddoeth ei storio;

(ch) cyfeiriad sy'n ei gwneud yn bosibl adnabod y swp y mae'r bwyd yn perthyn iddo; a

(d) neges glir o'r math sy'n dweud “do not refreeze after defrosting”.

(4) Rhaid i unrhyw ddeunydd bwyd arall sydd wedi'i rewi'n gyflym, yn ychwanegol at y disgrifiad “quick-frozen” (ac, yn ôl fel y gwêl y cyflenwr yn dda, unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/108) a ychwanegir at ei enw gwerthu, fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu, a hynny ar ddeunydd pacio, cynhwysydd neu ddeunydd lapio'r bwyd arall hwnnw, neu ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd arall hwnnw, â'r wybodaeth ganlynol—

(a) cyfeiriad sy'n ei gwneud yn bosibl adnabod y swp y mae'r bwyd yn perthyn iddo; a

(b) enw neu enw busnes a chyfeiriad y gweithgynhyrchydd neu'r paciwr, neu berson sydd wedi'i sefydlu o fewn y Gymuned ac sy'n rhoi'r deunydd bwyd hwnnw ar y farchnad.

Cyfarpar

6.  Rhaid i bob gweithredydd bwyd sy'n trafod deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym ac sydd wedi'i fwriadu i'w roi ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl sicrhau, yn ystod pob cam y mae'r deunydd bwyd hwnnw yn ei ofal ac o dan ei reolaeth, fod y cyfarpar a ddefnyddir mewn perthynas â'r deunydd bwyd hwnnw yn gyfarpar a all sicrhau na fyddai unrhyw weithred neu anweithred o'i eiddo yn peri bod rhoi ar y farchnad ddeunyddiau bwyd i'w bwyta gan bobl yn mynd yn groes i'r Rheoliadau hyn.

Samplu a dull mesur tymereddau

7.  Pan fo gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi sail resymol, yn sgil arolygiad, dros gredu nad yw'r tymereddau sy'n cael eu cadw neu sydd wedi'u cadw mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym yn dymereddau sydd wedi'u rhagnodi ar gyfer bwyd o'r fath ym mharagraff 1(d) ac (dd) o Atodlen 2, rhaid iddo arolygu ymhellach y deunydd bwyd hwnnw sydd wedi'i rewi'n gyflym a'r tymereddau hynny yn unol â darpariaethau Cyfarwyddeb 92/2.

Cofnodion

8.  Os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi, rhaid i bob gweithredydd bwyd sy'n trafod deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym drefnu bod y cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan Erthygl 2 o Reoliad 37/2005 ar gael i'r swyddog hwnnw neu i swyddog awdurdodedig arall i'r awdurdod hwnnw.

Tramgwyddau, cosbau a gorfodi

9.—(1) Os bydd unrhyw berson yn mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt, bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), os bydd unrhyw berson yn mynd yn groes i ddarpariaeth Gymunedol benodedig neu'n methu â chydymffurfio â hi, bydd yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(3) Bernir na fydd person wedi mynd yn groes i baragraff cyntaf Erthygl 2.2 o Reoliad 37/2005 neu na fydd wedi methu â chydymffurfio â'r paragraff hwnnw os cydymffurfir â gofynion Atodlen 3.

(4) Bernir na fydd person wedi mynd yn groes i Erthygl 2 o Reoliad 37/2005 neu na fydd wedi methu â chydymffurfio â hi—

(a) os oedd y tramgwydd a fyddai fel arall wedi'i gyflawni yn dramgwydd ynglŷn â chyfleuster storio oer â chynhwysedd o lai na 10m3x2 a oedd yn cael ei ddefnyddio i storio stoc mewn allfeydd manwerthu; a

(b) os yw tymheredd yr aer yn y storfa oer yn cael ei fesur â thermomedr y mae modd ei weld yn hawdd.

(5) Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990

10.  Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a) adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(b) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(c) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(12), gyda'r addasiadau y bydd is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 9(1), sef mynd yn groes i reoliad 3, 4 neu 5(1), neu fethu â chydymffurfio â hwy, a hynny fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15, ac y tybir bod y cyfeiriad at “sale” yn is-adran (4)(b) o adran 21 yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market”;

(ch) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(d) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(dd) adran 33(2), gyda'r addasiad y tybir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection 1(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e);

(e) adran 35(1) cosbi am dramgwyddau(13), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e);

(f) adran 35(2) a (3)(14), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f);

(ff) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(g) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(15);

(ng) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll); ac

(h) adran 58(1) (sy'n ymwneud â dyfroedd tiriogaethol).

Dirymu

11.  I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, mae Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym 1990(16) wedi'u dirymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(17)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Chwefror 2007

(2)

O.S. 2003/2901. Back [2]

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf ar adeg gwneud yr offeryn hwn gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran nifer Panelau Gwyddonol parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a'u henwau (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [3]

(4)

OJ Rhif L40, 11.2.89, t.34, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf ar adeg gwneud yr offeryn hwn gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/107/EC sy'n addasu Cyfarwyddeb 89/108/EEC sy'n ymwneud â deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac sydd i'w bwyta gan bobl a Chyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu deunyddiau bwyd, a hynny oherwydd bod Bwlgaria a Romania wedi ymaelodi (OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.411). Back [4]

(5)

OJ Rhif L034, 11.2.92, t.30. Back [5]

(7)

OJ Rhif L10, 13.1.05, t.18. Back [7]

(8)

O.S. 1996/1499, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [8]

(9)

1984 p.22; amnewidiwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16). Back [9]

(10)

1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. Back [10]

(11)

1985 p.51; diwygiwyd paragraff 15(6) gan baragraff 31(b) o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. Back [11]

(12)

Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279. Back [12]

(13)

Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, yn dechrau ar ddyddiad sydd i'w benodi. Back [13]

(14)

Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279. Back [14]

(15)

Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16. Back [15]

(16)

O.S. 1990/2615. Back [16]