61.—(1) Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Asiantaeth yn cael ar ddeall fod yna mewn trydedd wlad, neu pan fydd ganddo neu ganddi seiliau rhesymol dros amau fod yno,—
(a) clefyd y cyfeirir ato yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 82/894/EEC (ar hysbysu o glefydau anifeiliaid o fewn y Gymuned)(26); neu
(b) milhaint neu glefyd arall neu ffenomen neu amgylchiad sy'n debyg o fod yn fygythiad difrifol i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd,
neu os oes unrhyw reswm difrifol arall yn ymwneud ag iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd yn gwarantu hynny, caiff atal unrhyw gynnyrch o'r cyfan neu o unrhyw ran o'r drydedd wlad honno rhag cael ei gyflwyno i Gymru, neu caiff osod amodau ar ei gyflwyno, drwy ddatganiad.
(2) Rhaid i ddatganiad o'r fath—
(a) fod yn ysgrifenedig;
(b) cael ei gyhoeddi mewn modd y gwêl y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd, yn dda; a
(c) rhaid iddo bennu'r cynhyrchion a'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni sydd o dan sylw.
(3) Rhaid i ddatganiad sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch o drydedd wlad neu ran ohoni i Gymru bennu'r amodau hynny.
(4) Pan fo datganiad mewn grym sy'n atal cyflwyno unrhyw gynnyrch, ni chaiff neb gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad.
(5) Pan fo datganiad mewn grym sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch, ni chaiff neb gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad oni bai bod y cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.
(6) Ceir addasu, atal neu ddirymu datganiad gan ddatganiad ysgrifenedig pellach a gyhoeddir, cyhyd ag y bo'n ymarferol, yn yr un modd ac i'r un graddau â'r datganiad gwreiddiol.
62. Ni chaiff neb—
(a) rhwystro unrhyw berson yn fwriadol wrth iddo arfer pwer a roddwyd gan reoliad 8 na 9 nac wrth iddo gyflawni unrhyw swyddogaeth reoliadol arall;
(b) methu cydymffurfio heb esgus rhesymol â gofyniad a osodwyd arno yn unol â rheoliad 8 neu 9 neu fethu rhoi i unrhyw berson sy'n arfer pwer a roddwyd gan y rheoliadau hynny, neu sy'n cyflawni unrhyw swyddogaeth reoliadol arall, unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall fod ar y person hwnnw angen rhesymol amdano neu amdani er mwyn arfer y pwer neu gyflawni'r swyddogaeth; na
(c) rhoi i unrhyw berson sy'n arfer pwer a roddwyd gan reoliad 8 neu 9 neu sy'n cyflawni unrhyw swyddogaeth reoliadol arall unrhyw wybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol.
63.—(1) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dorri un o ddarpariaethau'r rheoliadau a restrir yn Atodlen 4, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu i osgoi iddo gael ei gyflawni gan berson o dan ei reolaeth.
(2) Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) mewn unrhyw achos yn cynnwys honni bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu fethiant person arall, neu oherwydd i'r person a gyhuddir ddibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni chaiff y person a gyhuddir, heb ganiatâd y Llys, yr hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai—
(a) o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a
(b) pan fo'r sawl a gyhuddir wedi ymddangos o flaen llys, neu wedi cael ei ddwyn gerbron llys, o'r blaen mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn un mis i'r ymddangosiad cyntaf hwnnw gan y sawl a gyhuddir,
ei fod wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth ag a oedd yn ei feddiant bryd hynny sy'n fodd i adnabod neu'n gymorth i adnabod y person arall hwnnw.
(3) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan reoliad 5(9), mae'n amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod yn credu'n rhesymol—
(a) bod y datgeliad yn gyfreithlon; neu
(b) bod yr wybodaeth eisoes wedi ei rhyddhau'n gyfreithlon i'r cyhoedd.
64. Bydd unrhyw un—
(a) sy'n torri un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, ac eithrio—
(i) y darpariaethau a geir yn rheoliadau 8(3) a 19(3) sy'n cyfeirio at dalu costau; a
(ii) y darpariaethau a geir yn rheoliadau 23(7), 28, 43(5), 45(2) a 57; neu
(b) sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir iddo o dan y Rheoliadau hyn,
yn euog o dramgwydd.
65.—(1) Mae'r sawl sy'n euog o'r tramgwydd o dorri rheoliad 62(a) neu (b) yn agored i'w gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau.
(2) Mae'r sawl sy'n euog o unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn yn atebol—
(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol, neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis neu i'r ddau;
(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu i ddirwy neu i'r ddau.
66.—(1) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn sydd wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol—
(a) wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu
(b) i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,
bydd y swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffygion aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff.
(3) ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb o'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swydd o'r fath.
67. Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn sydd wedi'i gyflawni gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
OJ Rhif L378, 31.12.82, t. 58, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/216/EC (OJ Rhif L67, 5.3.2004, t. 27). Back [26]