Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 8 Cynhyrchion a Ddychwelwyd o Drydydd Gwledydd

Ystyr “tystysgrif allforio”

50.  Yn y Rhan hon, ystyr “tystysgrif allforio”, mewn perthynas â chynnyrch a ddychwelwyd, yw tystysgrif—

(a) a ddyroddwyd gan awdurdodau gwlad yr allforio gwreiddiol; a

(b) sy'n datgan bod y cynnyrch a ddychwelwyd yn cydymffurfio â'r safonau perthnasol sydd gan y wlad sy'n derbyn y cynnyrch ac yr allforiwyd y cynnyrch iddo'n wreiddiol ar gyfer iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd.

Dogfennau ychwanegol ar gyfer cynhyrchion a ddychwelwyd

51.  Rhaid i unrhyw berson sy'n rhoi gerbron, yn unol â rheoliad 18 gynnyrch a ddychwelwyd a'i ddogfennau gofynnol i filfeddyg swyddogol, roi'r canlynol gerbron gyda'r dogfennau gofynnol—

(a) y dystysgrif allforio sy'n ymwneud â'r cynnyrch a ddychwelwyd neu gopi y dilyswyd ei fod yn gopi cywir gan yr awdurdod a'i dyroddodd;

(b) datganiad o'r rhesymau pam y cafodd y cynnyrch a ddychwelwyd ei wrthod gan y drydedd wlad;

(c) datganiad gan y person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch a ddychwelwyd yn dweud y bu cydymffurfiaeth, ers i'r cynnyrch a ddychwelwyd gael ei allforio'n wreiddiol o diriogaeth dollau'r Gymuned, ag amodau mewnforio ynglyn â storio a chludo mewn perthynas â'r cynnyrch a ddychwelwyd; a naill ai

(ch) yn achos cynnyrch a ddychwelwyd na chafodd ei allforio'n wreiddiol mewn cynhwysydd wedi'i selio, datganiad gan y person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch a ddychwelwyd nad yw'r cynnyrch wedi cael ei drafod mewn unrhyw fodd heblaw, yn achos cynhyrchion sydd wedi'u pecynnu'n unig, am lwytho a dadlwytho pecynnau sydd heb eu hagor; neu

(d) yn achos cynnyrch a ddychwelwyd ac a allforiwyd yn wreiddiol mewn cynhwysydd wedi'i selio, datganiad gan y cludydd sy'n dod â'r cynnyrch i Gymru nad yw wedi'i ddadlwytho o'r cynhwysydd y cafodd ei allforio ynddo, nac wedi cael ei drafod fel arall.

Gwiriad ffisegol o gynhyrchion a ddychwelwyd

52.  Dim ond os oes gan y milfeddyg swyddogol seilau rhesymol dros gredu—

(a) na chydymffurfiwyd, neu na chydymffurfir, â'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r cynnyrch a ddychwelwyd;

(b) nad yw'r cynnyrch a ddychwelwyd yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio; neu

(c) nad yw manylion adnabod neu gyrchfan y cynnyrch a ddychwelwyd yn cyfateb i'r wybodaeth a roddwyd ar unrhyw ddogfen berthnasol

y mae angen i unrhyw berson y mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi cynnyrch a ddychwelwyd gerbron y milfeddyg swyddogol wrth safle arolygu ar y ffin, neu sicrhau fod y cynnyrch hwnnw yn cael ei roi ger ei fron, ganiatáu i filfeddyg swyddogol neu gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni gwiriad ffisegol ar y cynnyrch a ddychwelwyd.

Symud cynhyrchion a ddychwelwyd

53.—(1) Ni chaiff neb symud cynnyrch a ddychwelwyd o safle arolygu ar y ffin, na pheri iddo gael ei symud,—

(a) heb awdurdodiad ysgrifenedig y milfeddyg swyddogol yno; a

(b) oni bai ei fod wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd sy'n ddiogel rhag gollyngiadau neu mewn cyfrwng cludo sydd wedi'i selio gan un o swyddogion Refeniw a Thollau neu gan y milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu hwnnw ar y ffin.

(2) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros gynnyrch a ddychwelwyd ac a symudwyd yn unol â pharagraff (1), ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau—

(a) ei fod yn cael ei gludo'n uniongyrchol i'w sefydliad tarddiad Cymunedol yn y cynhwysydd seliedig sy'n ddiogel rhag gollyngiadau neu yn y cyfrwng cludo y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (b); a

(b) bod ei ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn mynd gydag ef hyd oni fydd y cynnyrch a ddychwelwyd yn cyrraedd ei sefydliad tarddiad Cymunedol.

(3) Ni chaiff neb—

(a) dorri'r seliau ar y cynhwysydd neu'r cyfrwng cludo y mae'r cynnyrch a ddychwelwyd yn cael ei gludo ynddo;

(b) dadlwytho'r cynnyrch a ddychwelwyd;

(c) hollti'r llwyth neu'r rhanlwyth sy'n cynnwys y cynnyrch a ddychwelwyd; na

(ch) peri i'r cynnyrch a ddychwelwyd gael ei drafod mewn unrhyw fodd,

nes i'r cynnyrch gyrraedd ei sefydliad tarddiad Cymunedol.

(4) Rhaid i weithredydd y sefydliad tarddiad Cymunedol roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r swyddog milfeddygol sy'n gyfrifol ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth ar gyfer y sefydliad hwnnw fod y cynnyrch a ddychwelwyd wedi cyrraedd yno.

RHAN 9 Ffioedd am Wiriadau Milfeddygol

Talu ffioedd

54.—(1) Codir ffi resymol a gaiff ei chyfrifo yn unol â rheoliadau 55 a 56 ac Atodlen 3 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar lwyth wrth safle arolygu ar y ffin.

(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol neu'r Asiantaeth godi'r ffi a bydd yn daladwy i ba un bynnag sy'n gyfrifol, yn unol â rheoliad 5, am weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn wrth y safle arolygu ar y ffin lle cyflawnir y gwiriadau milfeddygol.

Cyfrifo ffioedd

55.  Rhaid i'r ffi am wiriadau milfeddygol gwmpasu'r costau a restrir yn Rhan I o Atodlen 3 a rhaid ei chyfrifo yn unol â Rhan II, III, IV neu V, yn ôl y digwydd, o Atodlen 3.

Trosi'r ffioedd i sterling

56.  Rhaid i ffioedd a fynegir mewn ewros yn Atodlen 3 gael eu trosi'n bunnoedd sterling yn ôl y gyfradd drosi sy'n cael ei chyhoeddi yng nghyfres “C” o Gylchgrawn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd ym mis Medi'r flwyddyn galendr cyn y flwyddyn y cyflawnwyd y gwiriad milfeddygol perthnasol ynddi.

Atebolrwydd am ffioedd

57.  Pan ofynnir iddo wneud hynny, rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros lwyth dalu'r ffi a godir am y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth.

Gwybodaeth am ffioedd

58.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol neu'r Asiantaeth, os gofynnir yn ysgrifenedig iddo neu iddi wneud hynny, ddarparu ar gyfer unrhyw berson sy'n rhoi cynhyrchion gerbron yn unol â rheoliad 18, neu ar gyfer unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, fanylion y cyfrifiadau y mae'n eu defnyddio i benderfynu ffioedd am wiriadau milfeddygol a rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan berson neu gorff o'r fath wrth benderfynu ffioedd o'r fath.

(2) Os gofynnir iddo'n ysgrifenedig wneud hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, rhaid i awdurdod lleol ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd, yr wybodaeth y gallai fod ei hangen arno neu arni mewn cysylltiad â chyfrifo'r ffioedd am wiriadau milfeddygol, ynghyd â chopïau o unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan bersonau neu gyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

Apelau yn erbyn ffioedd a dalwyd i awdurdodau lleol

59.—(1) Caiff unrhyw berson sydd wedi talu ffi am wiriadau milfeddygol i awdurdod lleol ac unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, o fewn un niwrnod ar hugain o godi'r ffi, apelio'n ysgrifenedig ar y sail bod swm y ffi yn afresymol—

(a) i'r Cynulliad Cenedlaethol, os ffi am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw un o swyddogaethau'r Asiantaeth yw'r ffi; a

(b) i'r Asiantaeth, os ffi am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd mewn perthynas ag unrhyw un o swyddogaethau'r Asiantaeth yw'r ffi.

(2) Pan fo apêl o dan baragraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd—

(a) ymgynghori â'r awdurdod lleol; a

(b) os caiff ei fodloni neu ei bodloni bod swm y ffi yn afresymol, rhaid iddo neu iddi hysbysu'r awdurdod lleol.

(3) Pan gaiff ei hysbysu o dan baragraff (2)(b), rhaid i'r awdurdod lleol—

(a) ailgyfrifo swm y ffi yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd; a

(b) ad-dalu i'r person a dalodd y ffi y gwahaniaeth rhwng y ffi wreiddiol a'r ffi a ailgyfrifwyd.

Apelau yn erbyn ffioedd a dalwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol neu i'r Asiantaeth

60.—(1) Caiff unrhyw berson sydd wedi talu ffi am wiriadau milfeddygol i'r Cynulliad Cenedlaethol neu i'r Asiantaeth, ac unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, cyn pen un diwrnod ar hugain ar ôl i'r ffi gael ei chodi, roi hysbysiad ysgrifenedig o'i ddymuniad i apelio i berson annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu pan fo'r ffi wedi'i thalu i'r Asiantaeth, i berson annibynnol a benodwyd gan yr Asiantaeth, ar y sail bod swm y ffi yn afresymol.

(2) Pan fo'r ffi wedi ei thalu i'r Asiantaeth, rhaid i swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol ym mharagraff (3) a (4) gael eu cyflawni gan yr Asiantaeth.

(3) Pan fo apelydd yn rhoi hysbysiad o'i ddymuniad i ymddangos gerbron person annibynnol a benodwyd at y diben hwnnw a chael gwrandawiad ganddo -—

(a) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi person annibynnol i wrando ar y sylwadau a phennu terfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno sylwadau i'r person annibynnol hwnnw;

(b) rhaid i'r person a benodir beidio â bod, ac eithrio gyda chydsyniad yr apelydd, yn un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol nac yn un sy'n ei wasanaethu;

(c) os yw'r apelydd yn gofyn am hynny, rhaid i'r gwrandawiad fod yn un cyhoeddus;

(ch) rhaid i'r person annibynnol gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol; a

(d) os bydd yr apelydd yn gofyn amdano, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu copi iddo o adroddiad y person annibynnol.

(4) Os caiff y person annibynnol ei fodloni bod swm y ffi yn afresymol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ailgyfrifo'r ffi yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y person annibynnol ac ad-dalu i'r person a dalodd y ffi y gwahaniaeth rhwng y ffi wreiddiol a'r ffi a ailgyfrifwyd.