Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 6 Cynhyrchion Tramwy

Safleoedd arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn ac ymadael

39.  Yn y Rhan hon—

ystyr “safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn” (“border inspection post of entry”) yw'r safle arolygu ar y ffin lle y mae cynnyrch tramwy yn dod i mewn i diriogaeth dollau'r Gymuned; ac ystyr

“safle arolygu ar y ffin ar gyfer ymadael” (“border inspection post of exit”) yw'r safle arolygu ar y ffin y bwriedir i gynnyrch tramwy ymadael â thiriogaeth dollau'r Gymuned drwyddo, fel a bennir yn y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin sy'n ymwneud â'r cynnyrch hwnnw.

Awdurdodi tramwy ymlaen llaw

40.  Ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch tramwy i Gymru o drydedd wlad oni bai bod y milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn wedi awdurdodi'n ysgrifenedig ymlaen llaw dramwyad y cynnyrch hwnnw.

Gwiriad ffisegol o gynhyrchion tramwy

41.  Dim ond os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod cynnyrch tramwy yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd neu'n amau'n rhesymol fod rhyw afreoleidd-dra arall, fel y'i diffinnir yn rheoliad 21(10), mewn perthynas â'r cynnyrch tramwy, y mae angen i unrhyw berson y mae'n ofynnol o dan reoliad 18 iddo roi cynnyrch tramwy i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn, neu sicrhau ei fod yn cael ei roi iddo, ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol neu gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c) gyflawni gwiriad ffisegol ar y cynnyrch tramwy.

Symud cynhyrchion tramwy

42.—(1) Ni chaiff neb symud cynnyrch tramwy o'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn na pheri iddo gael ei symud oni bai bod y person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch wedi rhoi ymrwymiad ysgrifenedig i'r milfeddyg swyddogol yno y bydd yn dilyn ac yn cyflawni gofynion rheoliad 43.

(2) Pan fydd cynnyrch tramwy yn cael ei gludo, ar unrhyw adeg ar ôl ei symud o safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn, drwy Gymru ar hyd ffordd, rheilffordd, dyfrffordd neu drwy'r awyr—

(a) rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch tramwy ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau ei fod yn cael ei gludo mewn cerbyd neu gynhwysydd sydd wedi'i selio gan y Comisiynwyr neu gan yr awdurdodau milfeddygol sy'n gyfrifol am y safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn, bod ei ddogfennau gofynnol, unrhyw gyfieithiadau sy'n ofynnol o dan reoliad 18(4) a'i ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn mynd gydag ef i'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ymadael, a hynny o dan oruchwyliaeth y Comisiynwyr yn unol â'r weithdrefn tramwy allanol y cyfeirir ati yn Erthyglau 91 i 97 o'r Cod Tollau;

(b) ni chaiff neb—

(i) torri'r seliau ar y cerbyd neu'r cynhwysydd y mae'r cynnyrch tramwy yn cael ei gludo ynddo;

(ii) dadlwytho'r cynnyrch tramwy;

(iii) hollti'r llwyth na'r rhanlwyth sy'n cynnwys y cynnyrch tramwy; na

(iv) peri i'r cynnyrch tramwy gael ei drafod mewn unrhyw fodd; ac

(c) rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch tramwy ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau ei fod yn ymadael â thiriogaeth dollau'r Gymuned wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer ymadael heb fod yn hwy na 30 o ddiwrnodau ar ôl ei symud o'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer dod i mewn (heb gynnwys dyddiad ei symud).

(3) Ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch tramwy i barth rhydd, warws rydd na warws dollau yng Nghymru.

Gwaredu cynhyrchion tramwy a ddychwelwyd

43.—(1) Os bydd cynnyrch tramwy yn cael ei ddychwelyd i Gymru ar ôl ymadael â thiriogaeth dollau'r Gymuned, rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch tramwy naill ai—

(a) anfon ymlaen y cynnyrch tramwy o'r safle arolygu ar y ffin y mae'n cael ei ddychwelyd i drydedd wlad drwyddo drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i'w ddychwelyd a hynny o fewn trigain o ddiwrnodau iddo gael ei ddychwelyd (heb gynnwys y dyddiad y cafodd ei ddychwelyd); neu

(b) os yw'r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn gymwys, gwaredu'r cynnyrch fel pe bai'n ddeunydd Categori 1 o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau a ddarparwyd at y diben hwnnw ac sydd agosaf at y safle arolygu ar y ffin y dychwelir y cynnyrch iddo.

(2) Rhaid gwaredu'r cynnyrch tramwy yn unol â pharagraff (1)(b)—

(c) pan fydd anfon y cynnyrch ymlaen wedi'i ragwahardd ar sail iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd oherwydd canlyniadau gwiriad ffisegol, neu oherwydd unrhyw ofyniad iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd sydd wedi'i osod mewn offeryn Cymunedol sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn, neu pan fydd yn amhosibl gwneud fel arall;

(d) pan fydd y cyfnod o drigain o ddiwrnodau y cyfeirir ato ym mharagraff (a) wedi dod i ben; neu

(e) pan fydd y person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch tramwy yn cytuno ar unwaith i'w waredu.

(3) Rhaid i unrhyw berson, y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth y dogfennau gofynnol neu'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin sy'n ymwneud â chynnyrch tramwy y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, eu cyflwyno i'w hannilysu i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin y mae'r cynnyrch wedi'i ddychwelyd iddo.

(4) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros gynnyrch tramwy y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ei storio nes iddo gael ei anfon ymlaen neu ei ddinistrio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin y mae'r cynnyrch wedi'i ddychwelyd iddo a hynny yn y man ac o dan yr amodau a gyfarwyddir gan y milfeddyg swyddogol.

(5) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros gynnyrch tramwy y mae paragraff (1) yn gymwys iddo dalu costau storio, cludo, anfon ymlaen a gwaredu'r cynnyrch hwnnw.

RHAN 7 Cynhyrchion a Fwriedir ar gyfer Warysau neu Storfeydd Llongau neu Gyfryngau Cludo Mordwyol Trawsffiniol

Cymhwyso Rhan 7

44.  Mae'r Rhan hon yn gymwys i gynhyrchion y mae eu sefydliad cyrchfan—

(a) yn warws mewn parth rhydd, warws rydd neu warws dollau, sydd wedi'i lleoli yn nhiriogaeth dollau'r Gymuned;

(b) yn storfa long sy'n cydymffurfio ag Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 97/78/EC sydd wedi'i lleoli y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu

(c) yn gyfrwng cludo mordwyol trawsffiniol.

Gwybodaeth ychwanegol sydd i'w rhoi ymlaen llaw

45.—(1) Ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch y mae'r Rhan hon yn gymwys iddo i Gymru, na rhoi cynnyrch o'r fath gerbron mewn safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru, oni bai bod y milfeddyg swyddogol y rhoddwyd hysbysiad iddo, yn unol â rheoliad 17, o gyflwyno neu o roi'r cynnyrch gerbron, wedi'i hysbysu—

(a) a oes bwriad i fewnforio'r cynnyrch yn y pen draw;

(b) onid oes, a yw'n gynnyrch tramwy, neu'n gynnyrch y mae ei sefydliad cyrchfan yn gyfrwng cludo mordwyol trawsffiniol; ac

(c) sut bynnag, a yw'r cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio.

(2) Rhaid i'r wybodaeth ym mharagraff (1) gael ei rhoi yn ysgrifenedig a chaniateir ei chynnwys yn yr hysbysiad o gyflwyno'r cynnyrch neu o'i roi gerbron a roddwyd yn unol â rheoliad 17.

Gwiriad ffisegol o gynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio

46.  Pan fo'r dogfennau gofynnol yn dangos bod cynnyrch y mae'r Rhan hon yn gymwys iddo yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio, dim ond os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn ei fod yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd y mae angen i unrhyw berson, y mae'n ofynnol iddo o dan reoliad 18 ei roi i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin, neu sicrhau ei fod yn cael ei roi iddo, ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol, neu gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c) gyflawni gwiriad corfforol ar y cynnyrch.

Gwahardd cynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio o warysau

47.  Ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch nad yw'n cydymffurfio i warws mewn parth rhydd, warws rydd na warws dollau yng Nghymru.

Symud yn uniongyrchol i gyfrwng cludo mordwyol trawsffiniol

48.  Ni chaiff neb symud cynnyrch y mae ei sefydliad cyrchfan yn gyfrwng cludo mordwyol trawsffiniol o'r safle arolygu ar y ffin lle cafodd ei gyflwyno ac eithrio yn uniongyrchol ac yn ddiymdroi i'r cyfrwng cludo mordwyol trawsffiniol hwnnw.

Tystysgrif ychwanegol i fynd gyda chynhyrchion sydd ar gyfrwng cludo mordwyol

49.—(1) Rhaid i berson sy'n gyfrifol dros gynnyrch neu lwyth o gynhyrchion y mae ei sefydliad cyrchfan yn gyfrwng cludo mordwyol trawsffiniol, ac unrhyw gludydd sydd â gofal dros gynnyrch neu lwyth o'r fath am y tro, sicrhau bod y dystysgrif y cyfeirir ati yn Erthygl 13(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC, sy'n gorfod bod yn seiliedig ar y patrwm yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2000/571/EC(25), yn mynd gyda'r cynnyrch neu'r llwyth o'r safle arolygu ar y ffin yr anfonir ef ohono nes bod y cynnyrch yn cael ei draddodi ar fwrdd y cyfrwng cludo mordwyol.

(2) Pan gaiff y cynnyrch neu'r llwyth ei draddodi ar fwrdd y cyfrwng cludo mordwyol, rhaid i feistr y cyfrwng cludo mordwyol hwnnw, neu gynrychiolydd swyddogol y meistr, gadarnhau bod y cynnyrch neu'r llwyth wedi ei draddodi drwy adlofnodi'r dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (1) a'i dychwelyd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i'r milfeddyg swyddogol yn y safle arolygu ar y ffin y cafodd y cynnyrch neu'r llwyth ei anfon ohono (fel y dangosir ar y dystysgrif).

(3) Mae gofynion y rheoliad hwn yn gymwys yn ychwanegol at ofynion rheoliad 20 (sy'n ymwneud â'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin).

(25)

OJ Rhif . gorchymyn datblygu cyffredinol L240, 23.9.2000, t. 14. Back [25]