Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 3 Darpariaethau sy'n Gymwys i Gynhyrchion yn Gyffredinol

Gwahardd cynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio

15.  Ni chaiff neb ddod â chynnyrch nad yw'n cydymffurfio i mewn i Gymru o drydedd wlad, na chynnyrch nad yw'n cydymffurfio ac sy'n tarddu o drydedd wlad i Gymru o fan arall yn y tiriogaethau perthnasol—

(a) onid yw'n gynnyrch tramwy;

(b) onid yw ei sefydliad cyrchfan yn warws mewn parth rhydd, yn warws rydd neu'n warws dollfa a gymeradwywyd o dan Erthygl 12(4)(b) o Gyfarwyddeb 97/78/EC, neu'n storfa longau sy'n cydymffurfio ag Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 97/78/EC, sydd wedi'i lleoli (ym mhob achos) y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu

(c) onid yw ei sefydliad cyrchfan yn gyfrwng cludo mordwyol trawsffiniol ac y bwriedir i'r cynnyrch hwnnw gael ei ddanfon yn uniongyrchol ar y cyfrwng cludo mordwyol hwnnw er mwyn iddo gael ei fwyta neu ei yfed yno gan y staff a'r teithwyr.

Gwahardd cyflwyno cynhyrchion ac eithrio wrth safleoedd arolygu ar y ffin

16—(1) Ni chaniateir dod ag unrhyw gynnyrch i Gymru o drydedd wlad ac eithrio wrth safle arolygu ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw.

(2) Ni chaniateir dod ag unrhyw gynnyrch Erthygl 9 i Gymru, y mae'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyflwyno y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ac y mae'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru, ac eithrio wrth safle arolygu ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw.

(3) At ddibenion cymhwyso Deddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(17) i gynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno'n groes i'r rheoliad hwn, amser eu mewnforio fydd yr amser cyflwyno yn unol ag adran 5 o'r Ddeddf honno.

Hysbysu ymlaen llaw ynglŷn â chyflwyno cynhyrchion neu eu rhoi gerbron

17.—(1) Ni chaiff neb—

(a) dod â chynnyrch neu lwyth i Gymru o drydedd wlad; neu

(b) dod â chynnyrch Erthygl 9 neu lwyth o gynhyrchion Erthygl 9 i mewn i Gymru y mae eu safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru,

oni bai bod hysbysiad o'i gyflwyno wedi'i roi i'r milfeddyg swyddogol wrth safle arolygu ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch neu'r llwyth hwnnw a bod copi ohono wedi'i anfon i swyddfa'r Comisiynwyr sy'n gyfrifol am yr ardal y mae'r safle arolygu hwnnw ar y ffin wedi'i leoli ynddi.

(2) Pan fo'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno cynnyrch Erthygl 9 a'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan cynnyrch Erthygl 9 neu lwyth o gynhyrchion Erthygl 9 ill dau yng Nghymru, ni chaiff neb roi'r cynnyrch neu'r llwyth gerbron wrth safle arolygu ar y ffin oni bai bod hysbysiad o'i roi gerbron wedi'i roi i'r milfeddyg swyddogol wrth safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch neu'r llwyth hwnnw a bod copi o'r hysbysiad hwnnw wedi'i anfon i swyddfa'r Comisiynwyr sy'n gyfrifol am yr ardal y mae'r safle arolygu hwnnw ar y ffin wedi'i leoli ynddi.

(3) O ran yr hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraffau (1) a (2)—

(a) rhaid iddo fod ar y ffurf a nodir fel Rhan 1 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin;

(b) caniateir iddo gael ei ddarparu ar ffurf electronig;

(c) rhaid iddo fod yn Gymraeg neu yn Saesneg a hefyd yn un o ieithoedd swyddogol y gyrchwlad yn y tiriogaethau perthnasol y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad, os gwlad wahanol i'r Deyrnas Unedig yw'r gyrchwlad;

(ch) rhaid iddo gyrraedd y safle arolygu ar y ffin cyn i'r cynnyrch neu'r llwyth gael ei ddadlwytho o'r cyfrwng cludo a ddaeth ag ef i Gymru; a

(d) yn achos hysbysiad a roddwyd i safle arolygu ar y ffin ar gyfer y gyrchfan, rhaid iddo bennu pa wiriadau sydd wedi'u gwneud wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno.

Rhoi cynhyrchion gerbron wrth safleoedd arolygu ar y ffin

18.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am gynnyrch y deuir ag ef i Gymru o drydedd wlad, neu am gynnyrch Erthygl 9 y mae'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru ac y deuir ag ef i Gymru, roi'r cynnyrch a'r dogfennau gofynnol neu sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi, yn ddi-oed gerbron y milfeddyg swyddogol yng nghyfleuster arolygu'r safle arolygu ar y ffin y rhoddwyd hysbysiad o gyflwyno neu roi'r cynnyrch ger ei fron o dan reoliad 17.

(2) Pan fo safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno cynnyrch Erthygl 9 yn y Deyrnas Unedig a'i safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru, rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am y cynnyrch ar ôl ei symud o'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno roi'r cynnyrch a'r dogfennau gofynnol, neu sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi, yn ddi-oed gerbron y milfeddyg swyddogol yng nghyfleuster arolygu'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan y rhoddwyd hysbysiad o roi'r cynnyrch ger ei fron o dan reoliad 17.

(3) Rhaid i berson sy'n rhoi cynnyrch gerbron, ac eithrio cynnyrch tramwy neu gynnyrch y mae Rhan 8 yn gymwys iddo, o dan baragraff 18(1) neu (2) roi gerbron y dogfennau gofynnol sy'n ymwneud â'r cynnyrch hwnnw a'r rheini'n ddogfennau sydd wedi'u llunio yn Gymraeg neu yn Saesneg.

(4) Rhaid i berson sydd, o dan baragraff 18(1) neu (2), yn rhoi gerbron gynnyrch tramwy neu gynnyrch y mae Rhan 8 yn gymwys iddo ynghyd â dogfen ofynnol mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, roi gerbron gyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg o'r ddogfen ofynnol yr un pryd, a rhaid i'r cyfieithiad hwnnw fod yn un y mae arbenigydd â chymhwyster priodol wedi cadarnhau mai cyfieithiad cywir ydyw.

Gwiriadau milfeddygol a rheolaethau swyddogol

19.—(1) Yn ddarostyngedig, yn achos cynhyrchion sydd wedi'u trawslwytho, i reoliad 38, rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo yn rhinwedd rheoliad 18 roi cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol, neu i sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi, gerbron milfeddyg swyddogol ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol, neu gynorthwyydd a benodwyd o dan reoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c) gyflawni ar y cynnyrch neu ar y dogfennau gofynnol, yn ôl y digwydd—

(a) gwiriad dogfennol;

(b) gwiriad adnabod;

(c) yn ddarostyngedig i reoliadau 41, 46 a 52 gwiriad ffisegol, ac

(ch) y rheolaethau swyddogol y cyfeirir atynt yn Erthygl 14(1) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â rheolau cyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirio(18),

a rhaid iddo roi i'r milfeddyg swyddogol neu'r cynorthwyydd unrhyw gymorth y byddai'n rhesymol iddo ofyn amdano i'w alluogi i gyflawni unrhyw un o'r gwiriadau neu'r rheolaethau hynny.

(2) Pan fo cynnyrch yn cael ei roi gerbron milfeddyg swyddogol o dan reoliad 18, ni chaiff neb symud y cynnyrch na pheri iddo gael ei symud o'r safle arolygu ar y ffin lle cafodd ei roi gerbron hyd nes y bydd y milfeddyg swyddogol wedi awdurdodi ei symud drwy ddyroddi Rhan 2 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin ar gyfer y cynnyrch neu ar gyfer y llwyth neu'r rhanlwyth sy'n cynnwys y cynnyrch.

(3) Pan gaiff sampl o gynnyrch ei chymryd wrth gynnal gwiriad ffisegol, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch ei storio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y man ac o dan yr amodau a gyfarwyddir gan y milfeddyg swyddogol a thalu costau ei storio felly, tra'n aros i'r cynnyrch gael ei symud o dan baragraff (2).

(4) Pan fo cynnyrch wedi'i roi o dan gadwad swyddogol o dan Erthygl 18 neu 19 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004, ni chaiff neb ei symud o'r man lle mae o dan gadwad.

(5) Pan fo cynnyrch wedi'i roi o dan gadwad swyddogol o dan Erthygl 19 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 a bod y milfeddyg swyddogol—

(a) wedi cyflwyno hysbysiad i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch o dan Erthygl 19(1) o'r Rheoliad hwnnw; neu

(b) yn credu bod y cynnyrch hwnnw yn niweidiol i iechyd dynol neu iechyd anifeiliaid o dan Erthygl 19(2) o'r Rheoliad hwnnw,

rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch gydymffurfio â'r hysbysiad os bydd is-baragraff (a) yn gymwys, neu gydweithredu â'r milfeddyg swyddogol i ddinistrio neu anfon ymlaen y cynnyrch os bydd is-baragraff (b) yn gymwys.

(6) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad ar lwyth a wnaed o dan Erthygl 19 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 apelio i lys ynadon o fewn un mis i ddyddiad y penderfyniad trwy gyfrwng cwyn am orchymyn a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(19) fydd yn gymwys i'r trafodion.

(7) Tra'n aros i apêl gael ei phenderfynu o dan baragraff (6), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch o dan sylw sicrhau y caiff ei storio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y man ac o dan yr amodau y bydd yn rhoi cyfarwyddyd amdanynt drwy hysbysiad.

Y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin i fynd gyda'r llwyth

20.—(1) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lwyth neu ranlwyth y mae Rhan 2 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin wedi'i dyroddi mewn perthynas ag ef, ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro, sicrhau bod y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn mynd gyda'r llwyth neu'r rhanlwyth—

(a) yn achos llwyth neu ranlwyth sydd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fewnforio, ac yn ddarostyngedig i reoliad 37(3), hyd nes y bydd y llwyth neu'r rhanlwyth yn cyrraedd am y tro cyntaf, ar ôl cael ei fewnforio, fangre lle mae cynhyrchion yn cael eu storio, eu prosesu, eu trafod, eu prynu neu eu gwerthu; a

(b) ym mhob achos arall hyd nes na fydd y llwyth neu'r rhanlwyth yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth gan awdurdodau'r tollau, o fewn ystyr “supervision by the customs authorities” yn Erthygl 4(13) o'r Cod Tollau.

(2) Rhaid i'r person sy'n meddiannu at ddibenion ei fusnes y fangre y cyfeiriwyd ati ym mharagraff 1(a) gymryd meddiant ar y dystysgrif fynediad filfeddygol gyffredin y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) a dal ei afael arni yn y fangre am gyfnod o flwyddyn gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl iddi gyrraedd yno.

Cynhyrchion sy'n methu gwiriadau milfeddygol

21.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 22.

(2) Pan fo'r milfeddyg swyddogol, yn dilyn gwiriad milfeddygol wrth safle arolygu ar y ffin, yn penderfynu—

(a) bod cynnyrch, heblaw cynnyrch a eithriwyd, yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio; neu

(b) bod rhyw afreoleidd-dra arall mewn perthynas â chynnyrch;

rhaid i'r milfeddyg swyddogol gydymffurfio â pharagraff (3).

(3) Rhaid i'r milfeddyg swyddogol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch yn ei gwneud yn ofynnol iddo—

(a) anfon ymlaen y cynnyrch drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i ddod ag ef i Gymru o'r safle arolygu ar y ffin i gyrchfan y cytunir arni gyda'r milfeddyg swyddogol, a'r gyrchfan honno wedi'i lleoli mewn trydedd wlad, o fewn cyfnod o drigain niwrnod gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad; neu

(b) gwaredu'r cynnyrch yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau a ddarperir at y diben hwnnw ac sydd agosaf at y safle arolygu ar y ffin.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), pan fo swyddog awdurdodedig yn penderfynu, ar ôl gwiriad milfeddygol ar gynnyrch, heblaw cynnyrch a eithriwyd, sydd wedi'i leoli i ffwrdd o safle arolygu ar y ffin, fod y cynnyrch yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio, rhaid i'r swyddog awdurdodedig gydymffurfio â pharagraff (5).

(5) Rhaid i'r swyddog awdurdodedig gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y cynnyrch, yn ei gwneud yn ofynnol iddo—

(a) anfon ymlaen y cynnyrch drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i'w gyflwyno i Gymru o'r safle arolygu ar y ffin y cyfeiriwyd ato yn yr hysbysiad i gyrchfan y cytunir arni gyda'r swyddog awdurdodedig, a'r gyrchfan honno wedi'i lleoli mewn trydedd wlad, o fewn cyfnod o drigain niwrnod gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad; neu

(b) gwaredu'r cynnyrch yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau a ddarperir at y diben hwnnw ac sydd agosaf at leoliad y cynnyrch.

(6) Rhaid gwaredu'r cynnyrch yn unol â pharagraff 3(b) neu 5(b) —

(a) pan fyddai ei anfon ymlaen wedi'i ragwahardd ar sail iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd—

(i) oherwydd canlyniadau gwiriad milfeddygol, neu

(ii) oherwydd unrhyw ofyniad o ran iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd sydd wedi'i osod mewn offeryn Cymunedol ac sydd mewn grym ar y dyddiad y cafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud,

neu sydd fel arall yn amhosibl;

(b) pan fo'r cyfnod o drigain niwrnod y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (3)(a) neu (5)(a) wedi mynd heibio; neu

(c) pan fo'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu, os yw is-baragraff (4) yn gymwys, perchennog y cynnyrch, yn cytuno ar unwaith i'w waredu.

(7) O ran cynnyrch y mae hysbysiad wedi'i gyflwyno ynglŷn ag ef o dan baragraff (3) neu (5), rhaid i'r person sy'n gyfrifol amdano, neu, os yw paragraff (4) yn gymwys, ei berchennog, sicrhau y caiff y cynnyrch ei storio hyd nes iddo gael ei anfon ymlaen neu ei waredu o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig yn y man neu o dan yr amodau a gyfarwyddir ganddo yn yr hysbysiad.

(8) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2) neu (4) apelio i lys ynadon o fewn un mis i ddyddiad y penderfyniad trwy gyfrwng cwyn am orchymyn a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys i'r achos cyfreithiol.

(9) Tra'n aros i apêl gael ei phenderfynu o dan baragraff (8), bydd paragraff (7) yn gymwys i storio'r cynnyrch o dan sylw.

(10) Yn y rheoliad hwn—

(a) ystyr “cynnyrch a eithriwyd” (“excepted product”) yw cynnyrch tramwy sy'n bodloni gofynion Rhan 7 neu gynnyrch y cyfeirir at ei sefydliad cyrchfan yn rheoliad 15(b) neu 15(c);

(b) ystyr “afreoleidd-dra arall” (“other irregularity”), mewn perthynas â chynnyrch, yw—

(i) ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad, neu ei roi gerbron safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru, heb fod hysbysiad wedi'i roi o dan reoliad 17;

(ii) unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol a gynhwysir mewn hysbysiad a roddir o dan reoliad 17;

(iii) unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol a roddir o dan reoliad 45 neu 51;

(iv) unrhyw gamgymeriad, hepgoriad neu wybodaeth ffug neu gamarweiniol mewn dogfen ofynnol, ac unrhyw anghysondeb rhwng dogfen ofynnol ac—

(aa) yr hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 17 o gyflwyno neu roi'r cynnyrch gerbron;

(bb) y cynnyrch ei hun; neu

(cc) y seliau, y stampiau, y marciau neu'r labeli ar y cynnyrch, ar y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch neu ar y cynhwysydd sy'n dal y cynnyrch neu'r llwyth;

(v) unrhyw ddiffyg yn y cynnyrch sy'n ei wneud yn anffit i'w ddefnyddio at y diben y mae, yn ôl y dogfennau gofynnol, wedi'i fwriadu ar ei gyfer;

(vi) unrhyw ddiffyg yn y seliau, y stampiau, y marciau neu'r labeli y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (10)(b)(iv)(cc), gan gynnwys, yn achos cynnyrch sydd wedi'i becynnu, unrhyw doriad o'r gofynion labelu sydd wedi'u gosod ar gyfer y cynnyrch hwnnw mewn unrhyw Gyfarwyddeb, Penderfyniad neu Reoliad a restrir yn Atodlen 1;

(vii) yn achos cynnyrch sydd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fewnforio, unrhyw awgrym yn y dogfennau gofynnol nad yw'r cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio; ac

(viii) yn achos cynnyrch nad yw'n cydymffurfio ac sy'n gynnyrch tramwy, neu'n gynnyrch y cyfeiriwyd at ei sefydliad cyrchfan yn rheoliad 15(b) neu 15(c), unrhyw doriad o'r gofynion a osodir ar gyfer y cynnyrch hwnnw nad yw'n cydymffurfio mewn unrhyw Gyfarwyddeb, Penderfyniad neu Reoliad a restrir yn Atodlen 1.

Trin cynhyrchion fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid

22.—(1) Os yw'r milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig o'r farn nad yw cynnyrch y mae rheoliad 21 yn gymwys iddo yn peri unrhyw risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, caiff awdurdodi bod y cynnyrch yn cael ei ddefnyddio yn unol â rheoliad 26 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006(20) er gwaethaf paragraffau (2), (3) a (4) o reoliad 21.

(2) Rhaid i'r awdurdodiad fod yn ysgrifenedig, caniateir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw bryd.

(3) Caiff yr awdurdodiad bennu p'un o'r defnyddiau yn rheoliad 26 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006 a ganiateir.

Cynhyrchion sy'n cynnwys sylweddau anawdurdodedig a gweddillion gormodol

23.—(1) Yn y rheoliad hwn—

(a) ystyr “terfyn gweddillion uchaf” (“maximum residue limit”) yw terfyn gweddillion uchaf a restrir yn Atodiad I neu Atodiad III i Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 (sy'n gosod gweithdrefn Gymunedol ar gyfer sefydlu terfynau gweddillion uchaf cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol mewn bwydydd sy'n dod o anifeiliaid)(21);

(b) mae i “sylwedd anawdurdodedig” yr ystyr sydd i “unauthorised substance or product” yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC (ar fesurau i fonitro sylweddau penodol a'u gweddillion mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid a diddymu Cyfarwyddebau 85/358/EEC a 86/469/EEC a Phenderfyniadau 89/187/EEC a 91/664/EEC)(22); ac

(c) ystyr “sefydliad tarddiad mewn trydedd wlad” (“establishment of origin in a third country”) yw'r sefydliad tarddiad yn y drydedd wlad y mae'r llwyth yn tarddu ohoni, fel a nodir ym mlwch 10 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin.

(2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gwiriad milfeddygol ar lwyth o sefydliad tarddiad penodol mewn trydedd wlad yn datgelu bod sylwedd anawdurdodedig yn bresennol, neu'n datgelu yr aethpwyd dros y terfyn gweddillion uchaf, ond nad oes unrhyw fesurau Cymunedol wedi'u mabwysiadu eto mewn ymateb i hyn.

(3) O dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2), mae paragraffau (4), (5), (6) a (7) yn gymwys i'r rhai o blith y deg llwyth nesaf y deuir â hwy i'r Deyrnas Unedig o'r sefydliad hwnnw ac y deuir â hwy i Gymru.

(4) Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin lle y deuir ag unrhyw lwyth o'r fath i mewn, ei gymryd dan ei ofal, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, ac edrych i weld a oes sylweddau anawdurdodedig neu eu gweddillion yn y llwyth drwy gymryd sampl gynrychioliadol o'r cynhyrchion sy'n ffurfio'r llwyth hwnnw a'i dadansoddi.

(5) Pan fo hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan baragraff (4), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi yng ngofal y milfeddyg swyddogol flaendal neu warant sy'n ddigonol i sicrhau bod yr holl ffioedd sy'n daladwy yn unol â Rhan 9 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys cymryd samplau, ac am unrhyw brawf neu ddadansoddiad labordy a wnaed ar unrhyw sampl a gymerwyd, yn cael eu talu.

(6) Os bydd unrhyw wiriad milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth yn datgelu bod sylweddau anawdurdodedig neu eu gweddillion yn bresennol neu'n datgelu yr aethpwyd dros ben y terfyn gweddillion uchaf, rhaid i'r milfeddyg swyddogol —

(a) anfon ymlaen y llwyth, neu unrhyw ran ohono y mae'r milfeddyg swyddogol yn credu bod presenoldeb sylweddau anawdurdodedig neu eu gweddillion neu weddillion gormodol yn effeithio arni, ynghyd â'r dogfennau gofynnol, i'r drydedd wlad y mae'n tarddu ohoni; a

(b) arnodi'r dogfennau gofynnol sy'n ymwneud â'r llwyth, gan roi awgrym clir arnynt o'r rhesymau dros ei anfon ymlaen.

(7) Rhaid i gostau anfon y llwyth neu'r rhanlwyth ymlaen i'r drydedd wlad y mae'n tarddu ohoni a'i gludo yno gael eu talu gan yr anfonydd y mae ei enw yn ymddangos ar yr hysbysiad o gyflwyno'r llwyth a hwnnw'n hysbysiad a roddwyd yn unol â rheoliad 17.

Llwythi a chynhyrchion y deuir â hwy i mewn yn anghyfreithlon

24.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r canlynol—

(a) pan ddeuir â llwyth neu gynnyrch i Gymru o drydedd wlad ond nad yw'n cael ei roi gerbron wrth safle arolygu ar y ffin yn unol â rheoliad 18;

(b) pan fo llwyth neu gynnyrch sy'n tarddu o drydedd wlad yn un y daethpwyd ag ef i Gymru o rywle arall yn y tiriogaethau perthnasol, ond nad yw wedi'i roi gerbron wrth safle arolygu ar y ffin yno;

(c) pan fo'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan i lwyth o gynhyrchion Erthygl 9 yng Nghymru ond nad yw'r llwyth yn cael ei roi gerbron yno yn unol â rheoliad 18; neu

(ch) pan fo llwyth sy'n cael ei gyflwyno i Gymru yn cael ei roi gerbron milfeddyg swyddogol wrth safle arolygu ar y ffin nad yw wedi'i ddynodi na'i gymeradwyo ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynhyrchion sy'n ffurfio'r llwyth hwnnw.

(2) O dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd ym mharagraffau (1)(a), (b) ac (c), rhaid i swyddog awdurdodedig, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y llwyth neu'r cynnyrch, gymryd y llwyth neu'r cynnyrch hwnnw o dan ei ofal ac naill ai ei anfon ymlaen yn unol â pharagraff (5) neu ei waredu yn unol â pharagraff (4).

(3) O dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd ym mharagraff (1)(ch), rhaid i'r milfeddyg swyddogol, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, gymryd y llwyth hwnnw o dan ei ofal ac naill ai ei anfon ymlaen yn unol â pharagraff (5) neu ei waredu yn unol â pharagraff (4).

(4) Pan fo'r swyddog neu'r milfeddyg swyddogol yn penderfynu gwaredu'r cynnyrch neu'r llwyth, rhaid iddo ei waredu fel petai'n ddeunydd Categori 1 o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau a ddarparwyd at y diben hwnnw ac sydd agosaf at y man lle y mae'r swyddog awdurdodedig neu'r milfeddyg swyddogol yn ei gymryd dan ei ofal.

(5) Pan fo'r swyddog awdurdodedig neu'r milfeddyg swyddogol yn penderfynu anfon ymlaen y cynnyrch neu'r llwyth, rhaid iddo wneud hynny—

(a) o fewn cyfnod o drigain o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl diwrnod cyflwyno'r hysbysiad;

(b) i gyrchfan trydedd wlad y cytunwyd arni gyda'r canlynol—

(ix) perchennog y cynnyrch neu'r llwyth, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd ym mharagraffau (1)(a), (b) neu (c); neu

(x) y person sy'n gyfrifol am y llwyth, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd ym mharagraff (1)(ch); ac

(c) drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i ddod â'r cynnyrch neu'r llwyth i'r tiriogaethau perthnasol am y tro cyntaf.

Cynhyrchion sy'n beryglus i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd

25.  Os yw milfeddyg swyddogol neu swyddog awdurdodedig o'r farn bod llwyth neu gynnyrch o drydedd wlad yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, rhaid iddo, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y llwyth neu'r cynnyrch, ei gymryd o dan ei ofal a'i waredu yn unol â rheoliad 24(4).

Tor cyfraith difrifol neu fynych

26.—(1) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth yn dod i'r casgliad rhesymol, ar sail canlyniadau gwiriadau milfeddygol, fod cynhyrchion o drydedd wlad benodol, rhan benodol o drydedd wlad neu sefydliad penodol mewn trydedd wlad yn gysylltiedig â thor-cyfraith difrifol neu fynych o unrhyw ofyniad a osodwyd mewn offeryn Cymunedol sy'n ymwneud ag iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, bydd y rheoliad hwn yn gymwys i'r rhai o blith y deg llwyth nesaf y deuir â hwy i'r Deyrnas Unedig o'r drydedd wlad honno, o ran o drydedd wlad neu o sefydliad, yn ôl y digwydd, y deuir â hwy i Gymru.

(2) Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin lle deuir ag unrhyw lwyth o'r fath i mewn, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, ei gymryd o dan ei ofal a chyflawni gwiriad ffisegol ohono, gan gynnwys cymryd samplau a gwneud profion a dadansoddiadau labordy.

(3) Pan fo hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan baragraff (2), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi yng ngofal y milfeddyg swyddogol flaendal neu warant sy'n ddigonol i sicrhau bod pob ffi sy'n daladwy yn unol â Rhan 9 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys cymryd samplau, ac am unrhyw brawf neu ddadansoddiad labordy a wnaed ar unrhyw sampl a gymerwyd, yn cael ei thalu.

(4) Os bydd unrhyw wiriad milfeddygol sy'n cael ei gyflawni ar y llwyth yn datgelu bod unrhyw ofyniad a osodwyd mewn offeryn Cymunedol ynglyn ag iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd wedi'i dorri, rhaid i'r milfeddyg swyddogol naill ai anfon y llwyth ymlaen neu ei waredu yn unol â rheoliad 21(3).

Annilysu dogfennau milfeddygol

27.  Pan fo milfeddyg swyddogol neu swyddog awdurdodedig yn cyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol bod cynnyrch yn cael ei anfon ymlaen o dan reoliad 21(3)(a), neu'n cymryd llwyth o dan ei ofal o dan reoliad 24(2), rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar y dogfennau gofynnol sy'n ymwneud â'r cynnyrch neu'r llwyth hwnnw neu sy'n eu rheoli eu cyflwyno ar unwaith i'r milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig, yn ôl y digwydd, i'w hannilysu.

Costau o ran cynhyrchion sy'n cael eu hanfon ymlaen neu eu gwaredu

28.—(1) Rhaid i'r personau a bennir ym mharagraff (2) dalu ar archiad gostau storio, cludo, anfon ymlaen a gwaredu unrhyw gynnyrch, llwyth neu ranlwyth sy'n cael ei anfon ymlaen neu ei waredu—

(a) o dan reoliad 21, 24, 25 neu 26; neu

(b) o dan Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(23) wrth orfodi rheoliad 16.

(2) Y personau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yw—

(a) y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth o dan sylw;

(b) pan fo hysbysiad wedi'i gyflwyno i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth, perchennog y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth; neu

(c) person y mae hysbysiad cymryd i feddiant yn unol â Deddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 wedi'i gyflwyno iddo.

(3) Rhaid i unrhyw gost y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) ac sy'n cael ei thalu gan filfeddyg swyddogol, swyddog awdurdodedig, y Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol, yr Asiantaeth neu'r Comisiynwyr gael ei had-dalu ar archiad gan y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth neu gan berchennog y cynnyrch, y llwyth neu'r rhanlwyth hwnnw.

(17)

1979 p. 2, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1992/3095. Back [17]

(18)

OJ Rhif L 165, 30.4.2004, t. 1, fel y'i diwygiwyd gan Gorigendwm OJ Rhif L 191, 28.5.2004, t. 1. Back [18]

(19)

1980 p. 43. Back [19]

(20)

O.S. 2006/1293 (Cy. 127). Back [20]

(21)

OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1451/2006 (OJ Rhif L271, 30.9.2006, t.37). Back [21]

(22)

OJ Rhif L125, 23.5.96, t. 10, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor (gweler Corigendwm OJ Rhif L191, 28.5.2004, t. 1). Back [22]

(23)

1979 p. 2, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1992/3095. Back [23]