Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 12 Hysbysiadau a Phenderfyniadau

Cyflwyno hysbysiadau

68.—(1) Caniateir i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol, yr Asiantaeth, milfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig gael ei gyflwyno i berson drwy—

(a) ei ddanfon at y person hwnnw;

(b) ei adael ym mhriod gyfeiriad y person hwnnw; neu

(c) ei bostio i briod gyfeiriad y person hwnnw.

(2) Rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath sydd i'w gyflwyno i gorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforaethol ac eithrio partneriaeth gael ei gyflwyno'n briodol i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw neu i un o swyddogion tebyg eraill y corff.

(3) Rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath sydd i'w gyflwyno i bartneriaeth (gan gynnwys partneriaeth Albanaidd) gael ei gyflwyno'n briodol i bartner neu berson sy'n rheoli'r busnes partneriaeth neu sy'n rheolwr arno.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), at ddibenion y rheoliad hwn, priod gyfeiriad unrhyw berson y mae hysbysiad i'w gyflwyno iddo, fydd ei gyfeiriad hysbys diwethaf ac eithrio pan mai'r canlynol fydd y priod gyfeirad—

(a) yn achos corff corfforaethol neu ei ysgrifennydd neu ei glerc, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y corff corfforaethol;

(b) yn achos cymdeithas anghorfforaethol (ac eithrio partneriaeth) neu ei hysgrifennydd neu ei chlerc, cyfeiriad prif swyddfa'r gymdeithas; ac

(c) yn achos partneriaeth (gan gynnwys partneriaeth Albanaidd) neu berson sy'n rheoli'r busnes partneriaeth neu sy'n rheolwr arno, cyfeiriad prif swyddfa'r bartneriaeth.

(5) Pan fo'r person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo yn gwmni sydd wedi'i gofrestru, neu'n bartneriaeth sy'n cynnal busnes, y tu allan i'r Deyrnas Unedig, a bod gan y cwmni neu'r bartneriaeth swyddfa o fewn y Deyrnas Unedig, ei brif swyddfa o fewn y Deyrnas Unedig fydd prif swyddfa'r cwmni hwnnw neu'r bartneriaeth honno at ddibenion paragraff (4).

(6) Os yw'r person y mae unrhyw hysbysiad o'r fath i'w gyflwyno iddo wedi rhoi i'r person sydd i gyflwyno'r hysbysiad gyfeiriad yn unol ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, rhaid ymdrin â'r cyfeiriad hwnnw fel priod gyfeiriad y person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo at ddibenion y rheoliad hwn.

(7) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “postio” (“posting”) mewn perthynas â hysbysiad yw ei anfon drwy ddull rhagdaledig drwy wasanaeth post sy'n ceisio danfon dogfennau drwy'r post o fewn y Deyrnas Unedig heb fod yn ddiweddarach na'r diwrnod gwaith nesaf ym mhob achos neu ran amlaf, a danfon dogfennau drwy'r post y tu allan i'r Deyrnas Unedig o fewn y cyfnod sy'n rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.

Hysbysu o benderfyniadau

69.  Pan fo penderfyniad yn cael ei wneud o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, mewn perthynas â chynnyrch neu lwyth, rhaid i'r person sy'n gwneud y penderfyniad hysbysu'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch neu'r llwyth o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto yn ysgrifenedig, ynghyd â rhoi manylion ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad gan gynnwys y weithdrefn a'r terfynau amser sy'n gymwys.

RHAN 13 Datgymhwyso a Dirymu

Datgymhwyso'r darpariaethau sy'n bodoli eisoes

70.—(1) Ni fydd Gorchymyn Mewnforio Embryonau, Ofa a Semen 1980(27) yn gymwys i gynhyrchion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, ac eithrio embryonau, ofau a semen rhywogaeth y ddafad a'r afr.

(2) Ni fydd Gorchymyn Mewnforio Cynhyrchion Anifeiliaid a Chynhyrchion Dofednod 1980(28) yn gymwys i gynhyrchion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, ac eithrio'r cynhyrchion y cyfeirir atynt yn rheoliad 4(7) o'r Rheoliadau hyn.

(3) Ni fydd y canlynol yn gymwys i gynhyrchion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt—

(a) Rheoliadau Mewnforio Semen Gwartheg 1984(29); a

(b) Gorchymyn Mewnforio Protein Anifeiliaid wedi'i Brosesu 1981(30).

Dirymu

71.  Dirymir Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005(31) drwy hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(32)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Chwefror 2007

Rheoliadau 2, 4(7), 21, 36 a 37

ATODLEN 1 Amodau Mewnforio

RHAN I DARPARIAETHAU SY'N GYFFREDIN I NIFER O GATEGORÏAU O GYNNYRCH

Terfynau gweddillion uchaf halogion

1.  Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 sy'n gosod gweithdrefn Gymunedol ar gyfer sefydlu terfynau gweddillion uchaf cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol mewn bwydydd sy'n dod o anifeiliaid (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 1) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1451/2006 (OJ Rhif L271, 30.9.2006, t.37).

2.  Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC ar fesurau i fonitro sylweddau penodol a'u gweddillion mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid ac yn dirymu Cyfarwyddebau 85/358/EEC ac 86/469/EEC a Phenderfyniadau 89/187/EEC a 91/664/EEC (OJ Rhif L125, 23.5.96, t. 10) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor (gweler Corigendwm OJ Rhif L191, 28.5.2004, t. 1).

3.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n gosod lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t. 1) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 199/2006, (OJ Rhif L32, 4.2.2006, t. 34).

4.  Penderfyniad y Comisiwn 2004/432/EC ar gymeradwyo cynlluniau monitro gweddillion a ddanfonwyd gan drydydd gwledydd yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC (OJ Rhif L154, 30.4.2004, t. 44) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2006/208/EC (OJ Rhif L75, 14.3.2006, t. 20).

5.  Penderfyniad y Comisiwn 2005/34/EC sy'n gosod safonau wedi'u harmoneiddio ar gyfer profi am weddillion penodol mewn cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a fewnforir o drydydd gwledydd (OJ Rhif L16, 20.1.2005, t. 61).

Enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy

6.  Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurff trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t. 1) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1041/2006 (OJ Rhif L187, 8.7.2006, t. 10).

Ardystiadau iechyd ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid o Seland Newydd

7.  Penderfyniad y Comisiwn 2003/56/EC ar dystysgrifau iechyd ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid o Seland Newydd (OJ Rhif L22, 25.1.2003, t. 38) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/784/EC (OJ Rhif L346, 23.11.2004, t. 11).

Rheolau iechyd anifeiliaid ar fewnforion cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'w bwyta gan bobl

8.  Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC sy'n gosod y rheolau iechyd anifeiliaid sy'n rheoli cynhyrchu, prosesu, dosbarthu a chyflwyno cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'w bwyta gan bobl (OJ Rhif L18, 23.1.2003, t. 11) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 882/2004 (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t. 1).

9.  Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd (OJ Rhif L31, 1.2.2002, t. 1).

10.  Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 183/2005 (sy'n gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid (OJ Rhif L35, 8.2.2005, t. 1).

11.  Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 396/2005 ar lefelau uchaf plaleiddiaid mewn bwyd ac mewn bwyd anifeiliaid neu arnynt sy'n dod o blanhigion ac o anifeiliaid ac sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 91/414/EEC (OJ Rhif L70, 16.3.2005, t. 1) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 178/2006 (OJ Rhif L29, 2.2.2006, t. 3).

Rheolau iechyd y cyhoedd ar fewnforion o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'w bwyta gan bobl

12.  Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t. 55) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 2076/2005 (OJ Rhif L338, 22.12.2005, t. 83).

13.  Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t. 206) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 2076/2005 (OJ Rhif L338, 22.12.2005, t. 83).

14.  Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â'r gyfraith ynglyn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirio (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t. 1).

15.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbeiolegol ar gyfer bwydydd (OJ Rhif L338, 22.12.2005, t. 1).

16.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) 853/2004 ac (EC) 854/2004 (OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27).

17.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig (OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60).

18.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 (OJ Rhif L338, 22.12.2005, t. 83).

(27)

O.S. 1980/12, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1984/1326, 1990/2371, a 1994/2920. Back [27]

(28)

O.S. 1980/14, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1982/948, 1990/2371, 1994/2920 a 1994/3142, ac fel y'i darllenir gydag O.S. 1997/322. Back [28]

(29)

O.S. 1984/1325, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1993/1966. Back [29]

(30)

O.S. 1981/677, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1982/459 ac O.S. 1990/2371. Back [30]

(31)

O.S. 2005/666 (Cy.56), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/3395 (Cy. 271) ac O.S. 2006/767 (Cy.74). Back [31]