(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy.5)) drwy ddiweddaru diffiniadau offerynnau penodol y Gymuned y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hynny.
2. Diweddarir y diffiniadau drwy—
(a) rhoi diffiniadau offerynnau penodol y Gymuned yn lle diffiniadau offerynnau penodol y Gymuned sy'n ymddangos ar hyn o bryd ar ôl y diffiniad o “mangre” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) (rheoliad 2(2)); a
(b) rhoi Atodlen 1 ddiwygiedig (diffiniadau o ddeddfwriaeth y Gymuned) yn lle'r Atodlen 1 bresennol (rheoliad 2(3)).
3. Mae arfarniad rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.