Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 315 (Cy.29)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2007

Wedi'u gwneud

6 Chwefror 2007

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16BB a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, rhychwantu a dehongli

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw “Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2007”.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2007.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (2).

Diwygio'r Prif Reoliadau

2.—(1) Yn rheoliad 2(1) o'r Prif Reoliadau mewnosoder y diffiniadau canlynol yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(3);.

ystyr “gofal parhaus” (“continuing care”) yw gofal a ddarperir dros gyfnod estynedig o amser i berson er mwyn bodloni anghenion iechyd corfforol neu feddyliol sydd wedi digwydd o ganlyniad i salwch;;

  • mae i “gwasanaethau offthalmig cyffredinol” yr ystyr sydd i “general ophthalmic services” yn adran 38(7) o'r Ddeddf(4);;

  • mae i “gwasanaethau fferyllol” yr ystyr sydd i “pharmaceutical services” yn adran 41(2) o'r Ddeddf(5);;

  • mae i “gwasanaethau deintyddol sylfaenol” yr ystyr sydd i “primary dental services” yn adran 16CA o'r Ddeddf(6);;

  • mae i “gwasanaethau meddygol sylfaenol” yr ystyr sydd i “primary medical services” yn adran 16CC o'r Ddeddf(7);;

(2) Yn rheoliad 2(2) o'r Prif Reoliadau, ar ôl y geiriau “at ddibenion y Rheoliadau hyn,” mewnosoder y geiriau “ac yn ddarostyngedig i reoliad 2A,”.

(3) Ar ôl rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau, mewnosoder y rheoliad a ganlyn—

2A.—(1) Mae Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol yn parhau i fod yn gyfrifol am y personau a bennir ym mharagraff (3) isod a fu'n preswylio fel arfer yn yr ardal y sefydlwyd ef ar ei chyfer, yn yr amgylchiadau a osodir ym mharagraff (2).

(2) Dyma'r amgylchiadau—

(a) ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2007

(i) mae'r Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol wedi gwneud trefniant wrth arfer ei swyddogaethau; neu

(ii) mae awdurdod lleol(8) wedi gwneud trefniant

y mae person y mae paragraff (3) yn gymwys iddo yn cael gwasanaethau sy'n golygu neu sy'n cynnwys y ddarpariaeth o lety a leolir yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol arall neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol arall; a

(b) mae'r person drwy hynny'n byw yn y llety.

(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys

(a) i berson sydd o dan 18 oed, a

(i) mae'n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22(1) o Ddeddf 1989;

(ii) mae'n blentyn perthnasol o fewn ystyr adran 23A o Ddeddf 1989;

(iii) mae'n gymwys i gael cyngor a chymorth o dan adran 24(1A) neu adran 24(1B) o Ddeddf 1989;

(iv) mae wedi cael ei leoli mewn ysgol yn unol â datganiad o achos anghenion addysgol arbennig a wnaed o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996(9) sy'n enwi'r ysgol; neu

(v) mae angen llety arno i fodloni anghenion gofal parhaus;

a

(b) i berson o dan 21 oed a oedd yn union cyn ei ben-blwydd yn ddeunaw oed, yn berson a oedd yn dod o fewn un o is-gategorïau is-baragraff (a).

(4) Nid yw cyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol o dan y rheoliad hwn yn ymestyn ei swyddogaethau o ran gwasanaethau meddygol sylfaenol, deintyddol sylfaenol, fferyllol ac offthalmig cyffredinol.

(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol” yw Bwrdd Iechyd Lleol a wnaeth y trefniant o dan is-baragraff 2A(2)(a)(i) neu'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n cyfateb i ardal ddaearyddol yr awdurdod lleol a wnaeth y trefniant o dan is-baragraff 2A(2)(a)(ii).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Chwefror 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 er mwyn ymestyn y categori o bobl y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol (“BILl”) yn gyfrifol amdano fel comisiynydd gwasanaethau (ac o'r herwydd yn gyllidwr gwasanaethau hefyd).

Effaith y diwygiadau i'r Prif Reoliadau yw cynnal cyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Lleol dros blant mewn categorïau penodol sy'n dod o'r ardal ond sydd wedyn yn cael eu lleoli y tu allan i'r ardal ac a fyddent fel arall yn dod yn gyfrifoldeb i BILl arall yn rhinwedd y ffaith eu bod “yn preswylio fel arfer” yn yr ardal honno.

Y plant sydd o dan sylw yw plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol, y rhai sy'n gadael gofal awdurdod lleol, plant sy'n preswylio mewn ysgol a enwir yn eu datganiad o achos anghenion addysgol arbennig a phlant sydd ag anghenion iechyd sy'n parhau ac sydd, am unrhyw un neu rai o'r rhesymau hynny, yn cael eu lleoli y tu allan i'w hardal.

(1)

1977 p.49. Mewnosodir adran 16BB gan adran 6(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002. Back [1]

(2)

O.S. 2003/150 (Cy. 20) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/816 (Cy. 101). Back [2]

(4)

Ailddeddfir adran 38(7) o'r Ddeddf fel adran 71(10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Back [4]

(5)

Ailddeddfir adran 41(2) o'r Ddeddf fel adran 80(8) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Back [5]

(6)

Ailddeddfir adran 16CA o'r Ddeddf fel adran 56 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Back [6]

(7)

Ailddeddfir adran 16CC o'r Ddeddf fel adran 41 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Back [7]

(8)

Diffinnir “awdurdod lleol” yn adran 128 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 p. 49. Back [8]