Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 311 (Cy.28)

GOFAL CYMDEITHASOL , CYMRU

Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2007

Wedi'u gwneud

6 Chwefror 2007

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1(4), 12(2), 16(1), 22(1), (2)(a) i (d), (f) i (j), 5(a) ac (c), (7) (3), (4), (c), 118 (5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1)ac wedi iddo ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2007 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2007, ac eithrio rheoliad 2(12), a ddaw i rym ar 15 Chwefror 2007.

(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(2)

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio'r Prif Reoliadau.

2.—(1) Yn y rheoliad hwn, oni bai i'r cyd-destun fynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Prif Reoliadau sy'n dwyn y Rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y Rhif hwnnw.

(2) Mae'r Prif Reoliadau wedi'u diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(3) Yn rheoliad 2 (Dehongli), mewnosoder y canlynol yn y lle priodol—

ystyr “cyflogai parhaol” (“permanent employee”) yw person a gyflogir yn llawn amser neu'n rhan-amser gan y person cofrestredig, gan gynnwys personau a gyflogir ar gontract gwasanaeth am dymor penodedig am ddim llai na chyfnod o chwech mis.

“ystyr “cymhwyster perthnasol” (“relevant qualification”) yw cymhwyster a gynhwysir mewn rhestr a gynhelir gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn;

ystyr “gweithiwr dolen gyswllt” (“link worker”) yw aelod o staff cartref plant sy'n briodol o ran ei hynafedd a chanddo gyfrifoldeb penodol am ddiogelu a hybu lles plentyn unigol o ran iechyd ac addysg ac am gydgysylltu â darparwyr addysg a gofal iechyd ar ran y plentyn hwnnw;

(4) Yn rheoliad 8 (Ffitrwydd y rheolwr) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A). Yn ddarostyngedig i baragraff (2B) a (2C), mae cyfeiriad at gymwysterau a phrofiad ym mharagraff (2)(b)(i) yn cynnwys gofyniad bod rhaid iddo—

(a) ddal cymhwyster perthnasol; a

(b) fod wedi gweithio am ddim llai na phum mlynedd ym maes gofal preswyl i blant.

(2B). Pan fo rheolwr nad yw'n dal cymhwyster perthnasol wedi'i benodi i reoli plant cartref cyn 1 Gorffennaf 2007 ni fydd y person hwnnw heb oni bai fod yn ffit i reoli cartref plant ei fod yn enill y cymhwyster perthnasol , ddim hydrach na—

(a) , 1 Tachwedd 2007; neu

(b) unrhyw ddyddiad diweddarach y bydd y Cynulliad yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol;

(2C) Nid yw paragraff (2A)(b) yn gymwys o ran rheolwr a benodwyd cyn 1 Gorffennaf 2007.

(2Ch). Nid oes dim ym mharagraffau (2A) hyd at (2C) sy'n effeithio ar unrhyw ofyniad i reolwr feddu ar gymwysterau, medrau neu brofiad arall sy'n berthnasol i'r materion a nodir ym mharagraff (2)(b).

(2D). Ni fydd person yn ffit i reoli cartref plant os nad yw wedi'i gofrestru'n rheolwr gyda Chyngor Gofal Cymru heb fod yn hwyrach na —

(i) 1 Tachwedd 2007; neu

(ii) unrhyw ddyddiad diweddarach y bydd y Cynulliad yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol..

(5) Yn rheoliad 11 (Hybu lles) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Wrth gydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn a rheoliadau 18(1)(c) a 20(1), rhaid i'r person cofrestredig ddynodi aelod o staff i fod yn weithiwr dolen gyswllt ar gyfer pob plentyn.

(6) Yn rheoliad 12 (Cynllun lleoliad y plentyn), ym mharagraff (1)(b), ar ôl y geiriau “gofal iechyd ac addysg y plentyn”, mewnosoder—

  • gan gynnwys enw a manylion cyswllt gweithiwr dolen gyswllt y plentyn.

(7) Yn rheoliad 18 (Addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden)—

(a) ar ôl is-baragraff (1)(b) dileer y gair “ac”; a

(b) ar ôl is-baragraff (1)(c), mewnosoder—

(ch) mae gweithiwr dolen gyswllt plentyn yn cymryd rhan mewn unrhyw adolygiad sy'n cynnwys ystyried cynnydd addysgol y plentyn, p'un a yw'r adolygiad yn cael ei gynnal o dan Reoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007(3) neu fel arall.

(8) Yn rheoliad 20 (Anghenion iechyd plant)—

(a) ar ddiwedd is-baragraff (2)(a), ar ôl y geiriau “ymarferydd cyffredinol” mewnosoder—

  • a'i fod wedi'i roi o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig. a

(b) ar ôl is-baragraff (2)(dd) mewnosoder—

(e) bod gweithiwr dolen gyswllt plentyn yn cymryd rhan mewn unrhyw adolygiad sy'n cynnwys ystyried unrhyw agwedd o iechyd plentyn, p'un a yw'r adolygiad hwnnw yn cael ei gynnal o dan Reoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007 neu fel arall.

(9) Yn rheoliad 25 (Staffio cartrefi plant)

(a) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Wrth gydymffurfio â pharagraff (1) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau nad oes, ar bob adeg ar ôl 1 Gorffennaf 2010, neu unrhyw ddyddiad diweddarach y bydd y Cynulliad yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol, dim llai na 80% o'r staff gofal yn y cartref plant yn dal cymhwyster perthnasol.;

(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A). Wrth gydymffurfio â pharagraff (2) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau nad oes ar unrhyw adeg ar ôl 1Mawrth 2008 neu unrhyw ddyddiad y bydd y Cynulliad yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol dim llai na 90% o'r staff gofal sy'n gweithio mewn cartref plant yn gyflogeion parhaol.

(10) Yn rheoliad 26 (Ffitrwydd gweithwyr), ar ôl paragraff (2), mewnosoder—

(2A) Yn ddarostyngedig i baragraff (2B) a (2C), o ran aelod o staff gofal cartref plant, mae cyfeiriad at gymwysterau a phrofiad ym mharagraff (2)(b) yn cynnwys gofyniad bod rhaid i berson ddal cymhwyster perthnasol.

(2B) Pan fo person nad yw'n dal cymhwyster perthnasol wedi cael ei benodi i weithio mewn cartref plant cyn 1 Gorffennaf 2007 ni fydd y person hwnnw yn ffit i weithio mewn cartref plant ori bai ei fod yn ennill, y cymhwyster perthnasol ddim hwyrach na—

(a) tair blynedd ar ôl 1 Gorffennaf 2007; neu

(b) unrhyw ddyddiad hwyrach y bydd y Cynulliad Cenedlaethol o dan amgylchiadau eithriadol yn cytuno arno.

(2C) Pan fo person nad yw'n dal cymhwyster perthnasol wedi'i benodi i weithio mewn cartref plant ar ôl 1 Gorffennaf 2007, nid yw'r person hwnnw heb fod yn ffit i weithio mewn cartref plant ori bai ei fod yn ennill cymhwyster perthnasol ddim hwyrach na—

(a) tair blynedd ar ôl y dyddiad cyntaf ar ôl 1 Gorffennaf 2007 pan benodwyd ef i weithio mewn cartref plant; neu

(b) erbyn unrhyw ddyddiad hwyrach y bydd y Cynulliad Cenedlaethol o dan amgylchiadau eithriadol yn cytuno arno.

(2Ch) Pan fo person sy'n ddarostyngedig i ofyniad i gael cymhwyster perthnasol cyn pen cyfnod o amser a bennir yn unol â pharagraff (2B) neu (2C) yn cael ei benodi yn ystod y cyfnod hwnnw i swydd wahanol ym maes gofal preswyl plant, gyda'r un cyflogwr neu gyda chyflogwr arall, nid yw'r cyfnod hwnnw o amser i'w newid oherwydd y rheswm hwnnw yn unig.

(2D) Nid oes dim ym mharagraffau (2A) hyd at (2C) sy'n effeithio ar unrhyw ofyniad i berson feddu ar gymwysterau, medrau neu brofiad arall sy'n berthnasol i'r materion a nodir ym mharagraff (2)(b) ac (c).

(2Dd) Nid yw person a benodwyd i weithio mewn cartref plant cyn 1 Gorffennaf 2007 yn ffit i weithio mewn cartref plant os nad yw yn cofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol gyda Chyngor Gofal Cymru heb fod yn hwyrach na—

(a) 1 Mawrth 2008; neu

(b) unrhyw ddyddiad diweddarach y bydd y Cynulliad yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol .

(2E) Nid yw person a benodwyd i weithio mewn cartref plant ar ôl 1 Gorffennaf 2007 yn ffit i weithio mewn cartref plant os nad yw'n cofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol gyda Chyngor Gofal Cymru heb fod yn hwyrach na—

(a) chwe mis ar ôl y dyddiad cyntaf ar ôl 1 Gorffennaf 2007 pan benodwyd ef i weithio mewn cartref plant; neu

(b) unrhyw ddyddiad diweddarach y bydd y Cynulliad yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol.

(11) Yn rheoliad 27 (Cyflogi staff), ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A). O dan y Rheoliadau hyn, pan fo ffitrwydd unrhyw berson a gyflogir gan y person cofrestredig yn dibynnu arno'n ennill cymhwyster perthnasol cyn pen amser penodedig, rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y mae'n ymarferol, ei alluogi i ennill y cymhwyster cyn pen yr amser penodedig.

(12) Yn rheoliad 33(4) (Adolygiad o ansawdd gofal)—

(a) ym mharagraff (2)(c)(iv) yn lle'r geiriau “cartref gofal” rhodder y geiriau “cartref plant”; a

(b) ym mharagraff (4)(a) yn lle'r geiriau “defnyddwr gwasanaeth” rhodder y geiriau “plant sy'n cael eu lletya yn y cartref plant;”.

(13) Yn Atodlen 2 (Yr wybodaeth y mae ei hangen mewn Perthynas a Phersonau sy'n Ceisio Rhedeg neu Reoli Cartref Plant neu Weithio Mewn Un), ar ol paragraff 5, mewnosoder—

5A  Tystiolaeth ddogfennol o gofrestru gyda Cyngor Gofal Cymru.

(14) Yn Atodlen 4 (Cofnodion eraill) ar ol paragraff 2 (e) mewnosoder.

Diwygiadau i Reoliadau Cofretru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002

3.—(1) Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(5) wedi'u diwygio o ran cartrefi plant, yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2) Yn Rhan III o Atodlen 1, ar ôl paragraff 16(e) mewnosoder—

(ea) where the establishment is a children’s home, whether the person is registered with the Care Council for Wales and if so, details of their registration;

(3) Yn Rhan 1 o Atodlen 3, ar ôl paragraff 2, mewnosoder—

2A  Where the establishment is a children’s home, details of the applicant’s registration with the Care Council for Wales.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol.

6 Chwefror 2007

(2)

O.S. 2002/327 (Cy.40). Back [2]

(3)

2007 O.S. 2007/ (Cy. ) Back [3]

(4)

2002 O.S. 2002/919 (Cy.107). Back [4]

(5)

Mewnosodwyd rheoliad 33 newydd i Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 O.S. 2002/327 (Cy.40) gan reoliad 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoleiddol 9 Chwynion) (Cymru) 2006 O.S. 20006/3251 (Cy.295) a ddaeth rym ar 1 Ionawr 2007. Back [5]