Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliad 5(1)

ATODLEN 1 MATERION Y MAE AWDURDODAU CYFRIFOL I'W HYSTYRIED

1.  Yn achos plentyn sydd mewn gofal, a ddylid gwneud cais i ddod a'r gorchymyn gofal i ben.

2.  Pan fo'r awdurdod cyfrifol yn awdurdod lleol a ddylai'r awdurdod geisio newid yn statws cyfreithiol y plentyn.

3.  Trefniadau ar gyfer cyswllt, ac a oes unrhyw angen am newidiadau yn y trefniadau er mwyn hybu cysylltiad â theulu'r plentyn ac eraill i'r graddau y mae hynny'n gydnaws â'i les.

4.Trefniadau'r awdurdod cyfrifol ar unwaith a thros dymor hir ar gyfer y plentyn, trefniadau blaenorol mewn perthynas â'r plentyn, ac a oes angen newid yn y trefniadau hynny ac ystyried dulliau amgen o weithredu.

5.  Pan fo'r awdurdod cyfrifol yn awdurdod lleol, a ddylid penodi ymwelydd annibynnol os na phenodwyd un eisoes.

6.  A oes angen gwneud trefniadau ar gyfer yr adeg pan na fydd y plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod cyfrifol.

7.  A oes angen gwneud cynlluniau i ganfod teulu amgen parhaol i'r plentyn.

Rheoliad 5(1)

ATODLEN 2 MATERION IECHYD Y MAE AWDURDODAU CYFRIFOL I'W HYSTYRIED

1.  Cyflwr iechyd y plentyn, gan gynnwys ei iechyd corfforol, geneuol, emosiynol a meddyliol.

2.  Hanes iechyd y plentyn gan gynnwys, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, hanes iechyd ei deulu.

3.  Effaith iechyd a hanes iechyd y plentyn ar ei ddatblygiad.

4.  Unrhyw angen sydd gan y plentyn am wasanaethau iechyd meddwl.

5.  Y trefniadau presennol ar gyfer gofal a thriniaeth feddygol a deintyddol y plentyn a'i goruchwyliaeth iechyd gan gyfeirio'n benodol at wasanaethau iechyd meddwl.

6.  Yr angen posibl am ddull priodol o weithredu y dylid ei ddynodi i gynorthwyo newid angenrheidiol mewn gofal, triniaeth neu oruchwyliaeth o'r fath.

7.  Yr angen posibl am fesurau ataliol, megis brechu ac imiwneiddio, sgrinio ar gyfer y golwg a'r clyw ac am gyngor a chyfarwyddyd ar iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl a iechyd geneuol ac ar faterion gofal personol ac hybu iechyd sy'n briodol i anghenion y plentyn.

8.  O ystyried yr wybodaeth sydd ar gael mewn perthynas â'r materion a osodir ym mharagraffau 1 i 7 gan gynnwys yr adroddiadau o unrhyw asesiadau, a fydd anghenion iechyd y plentyn yn cael eu diwallu yn y lleoliad arfaethedig.

Rheoliad 5(1)

ATODLEN 3 MATERION ADDYSGOL Y MAE AWDURDODAU CYFRIFOL I'W HYSTYRIED.

1.  Hanes addysgol y plentyn.

2.  Yr angen i sicrhau dilyniant yn addysg y plentyn a hybu cyrhaeddiad addysgol y plentyn.

3.  Yr angen i ddynodi unrhyw angen addysgol a eill fod gan y plentyn ac i weithredu i ddiwallu'r angen hwnnw.

4.  Yr angen i wneud unrhyw asesiad mewn perthynas ag unrhyw angen addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 1996(11) ac i ddiwallu unrhyw anghenion o'r fath a ddynodir mewn datganiad anghenion addysgol arbennig a wneir o dan adran 324 o'r Ddeddf honno.

5.  O ystyried yr wybodaeth sydd ar gael ym mharagraffau 1 i 4 o'r Atodlen hon, a fydd anghenion addysgol y plentyn yn cael eu diwallu yn y lleoliad arfaethedig.

Rheoliad 5(8)

ATODLEN 4 MATERION SYDD I'W CYNNWYS MEWN TREFNIADAU I LETYA PLANT NAD YDYNT MEWN GOFAL

1.  Y math o lety sydd i'w ddarparu a'i gyfeiriad ynghyd ag enw unrhyw berson fydd yn gyfrifol am y plentyn yn y llety hwnnw ar ran yr awdurdod cyfrifol.

2.  Manylion unrhyw wasanaethau sydd i'w darparu ar gyfer y plentyn.

3.  Cyfrifoldebau penodol yr awdurdod cyfrifol ac—

(a) y plentyn;

(b) unrhyw riant sydd ganddo; ac

(c) unrhyw berson nad yw'n riant iddo ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto.

4.  Pa ddirprwyo a fu gan y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(b) ac (c) o'r Atodlen hon i'r awdurdod cyfrifol o gyfrifoldeb rhiant dros ofal y plentyn o ddydd i ddydd.

5.  Y trefniadau ar gyfer rhoi rhan i'r personau hynny a'r plentyn mewn gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'r plentyn o ystyried—

(a) dyletswydd yr awdurdod lleol o dan adrannau 20(6) (rhoi rhan i blant cyn darparu llety) a 22(3) i (5) o'r Ddeddf (dyletswyddau cyffredinol yr awdurdod lleol mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal ganddo);

(b) dyletswydd y corff gwirfoddol o dan adran 61(1) a (2) o'r Ddeddf (dyletswyddau cyrff gwirfoddol); ac

(c) dyletswydd y person sy'n cadw cartref cofrestredig i blant o dan adran 64(1) a (2) o'r Ddeddf (lles plant mewn cartrefi cofrestredig i blant).

6.  Y trefniadau ar gyfer cyswllt rhwng y plentyn ac—

(a) ei rieni;

(b) unrhyw berson nad yw'n riant iddo ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto. ac

(c) unrhyw berthynas, ffrind neu berson arall cysylltiedig ag ef,

ac os yn briodol, y rhesymau pam na fyddai cyswllt gydag unrhyw berson o'r fath yn rhesymol ymarferol neu pam y byddai'n anghydnaws â lles y plentyn.

7.  Y trefniadau ar gyfer rhoi hysbysiad o newid mewn trefniadau ar gyfer cyswllt i unrhyw un o'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6.

8.  Yn achos plentyn 16 mlwydd oed neu fwy a yw adran 20(11) o'r Ddeddf (lletya plentyn 16 mlwydd oed neu fwy er gwaethaf gwrthwynebiad gan riant) yn gymwys.

9.  Y cyfnod y disgwylir i'r trefniadau barhau a'r camau a ddylai fod yn gymwys i ddwyn y trefniadau i ben, gan gynnwys trefniadau i adsefydlu'r plentyn gyda'r person yr oedd yn byw gydag ef cyn gwneud y trefniadau gwirfoddol, neu gyda rhyw berson addas arall, gan ystyried yn benodol, yn achos awdurdod lleol sydd â phlentyn yn derbyn gofal ganddo, adran 23(6) o'r Ddeddf (dyletswydd i leoli plant pan fo'n ymarferol gyda rhieni etc.) a pharagraff 15 o Atodlen 2 o'r Ddeddf (cynnal cyswllt rhwng y plentyn a'i deulu).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 o ran Cymru. Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer y trefniadau i leoli plant gan awdurdodau lleol, cyrff gwirfoddol a phersonau sy'n cadw cartrefi preifat i blant yng Nghymru. Caiff y lleoliadau fod gyda rhieni maeth, mewn cartrefi cymunedol, cartrefi gwirfoddol i blant neu gartrefi preifat i blant ac o dan drefniadau eraill (ond nid mewn cartref a ddarperir yn unol â threfniadau a wneir gan y Cynulliad o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989).

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau i letya a chynnal plant, i hybu eu lles ac i gynllunio lleoliadau.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y materion i'w hystyried gan awdurdod cyfrifol pan fydd yn gwneud trefniadau i leoli plentyn, gan gynnwys y gweithdrefnau i'w dilyn pan fo lleoliad y tu allan i'r ardal lle y mae plentyn fel arfer yn byw yn cael ei ystyried. Mae'r rheoliad hefyd ym rhoi awdurdod cyfrifol o dan ddyletswydd i wneud cofnod ysgrifenedig o'r rhesymau dros y camau a gymerir ganddo o dan y rheoliad.

Mae rheoliad 6 yn darparu bod yr awdurdod cyfrifol yn hysbysu pobl benodol o'r trefniadau ar gyfer lleoli plentyn, ac mae'n pennu cyfnod o amser y mae'n rhaid gwneud yr hysbysiad oddi mewn iddo, ynghyd â gofyniad bod yn rhaid i'r awdurdod cyfrifol, pan fo hynny'n briodol, ofyn i gyrff penodol i roi'r gwaith o drosglwyddo cofnodion perthnasol ar droed.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff gwirfoddol a'r personau hynny sy'n cadw cartrefi preifat i blant hybu cyswllt rhwng plentyn a phobl benodol.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyfrifol wneud trefniadau ar gyfer asesu iechyd plentyn, ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd yn ystod cyfnod y lleoliad ac ar gyfer cofrestru'r plentyn gyda meddyg teulu a deintydd.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyfrifol gadw cofnod achos ysgrifenedig ar gyfer pob plentyn y mae'n ei leoli, ac yn darparu ar gyfer y math o wybodaeth i'w chadw yn y cofnod hwnnw.

Mae rheoliad 10 yn darparu ar gyfer faint o amser y mae'n rhaid cadw cofnod achos ac ar gyfer diogelwch a chyfrinachedd y cofnodion hynny.

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, corff gwirfoddol a pherson sy'n cadw cartref preifat i blant, gadw cofrestr yn cynnwys manylion yr holl blant a leolir ganddynt.

Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gwirfoddol neu berson sy'n cadw cartref preifat i blant, ddarparu bod swyddogion achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddogion y gwasanaeth yn cael gweld cofnodion.

Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer y trefniadau sydd i'w gwneud rhwng awdurdod lleol ac awdurdod ardal, pan fydd awdurdod lleol yn trefnu i'r awdurdod ardal gyflawni rhai o'i swyddogaethau mewn cysylltiad â phlentyn sydd yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Mae rheoliad 14 yn darparu ar gyfer cymhwyso'r Rheoliadau i leoliadau tymor byr.

Mae rheoliad 15 yn dirymu Rheoliadau Trefniadau Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 o ran Cymru.