Rheoliad 5(4)
1. Sicrhau gwybodaeth gyson am y trefniadau wrth i'r plentyn dderbyn gofal ac o unrhyw newid perthnasol yn amgylchiadau'r plentyn.
2. Sicrhau gwybodaeth gyson am enw a chyfeiriad unrhyw berson y dylid ystyried ei farn yn ystod yr adolygiad.
3. Gwneud y paratoadau angenrheidiol a darparu unrhyw wybodaeth berthnasol i'r rhai sy'n cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod gan yr awdurdod cyfrifol sy'n ystyried achos y plentyn mewn cysylltiad ag unrhyw agwedd ar yr adolygiad.
4. Rhoi cychwyn i gyfarfodydd personél perthnasol yr awdurdod cyfrifol a phersonau perthnasol eraill i ystyried adolygiad o achos y plentyn.
5. Esbonio i'r plentyn unrhyw gamau y caiff eu cymryd o dan y Ddeddf gan gynnwys, pan fo'n briodol—
(a) ei hawl i wneud cais, gyda chaniatâd, am orchymyn adran 8 (preswylio, cyswllt a gorchmynion eraill ynglŷn phlant),
(b) os yw mewn gofal, ei hawl i wneud cais am ryddhad o'r gorchymyn gofal, ac
(c) bod y weithdrefn a sefydlwyd o dan y Ddeddf ar gael er mwyn ystyried cynrychioliadau.
6. Gwneud penderfyniadau neu gymryd camau yn dilyn penderfyniadau adolygu sy'n deillio o'r adolygiad neu'n dod yn ei sgil.
Rheoliad 6
1. Yn achos plentyn sydd mewn gofal, a ddylid gwneud cais i ryddhau'r gorchymyn gofal.
2. Os yr awdurdod cyfrifol yw'r awdurdod lleol, a ddylai geisio newid yn statws gyfreithiol y plentyn.
3. Trefniadau ar gyfer cyswllt, ac a oes angen gwneud newidiadau i'r trefniadau er mwyn hybu cyswllt gyda theulu'r plentyn ac eraill cyn belled ag bônt yn gyson â'i les.
4. Unrhyw drefniadau arbennig sydd wedi cael eu gwneud neu angen i'w gwneud ar gyfer y plentyn, gan gynnwys cynnal asesiadau naill ai gan awdurdod lleol neu gan bersonau eraill, megis y rhai ynghylch angen addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 1996(15).
5. Trefniadau di-oed a thymor hir yr awdurdod cyfrifol o ran bod y plentyn yn derbyn gofal neu o ran darpau llety i'r plentyn (a wnaed yn unol â darpariaethau Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007, a oes angen newid y trefniadau hynny ac ystyried camau gweithredu amgen.
6. A ydyw'r awdurdod cyfrifol wedi cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007(16) ac yn benodol â rheoliadau 4 ac 8.
7. Os yw'r awdurdod cyfrifol yn awdurdod lleol, a ddylid penodi ymwelydd annibynnol os na phenodwyd un eisoes.
8. Anghenion addysgol y plentyn, ei gynnydd a'i ddatblygiad addysgol gan gynnwys, pan fo'n gymwys, a drosglwyddwyd y cofnodion addysgol perthnasol.
9. Os yw plentyn wedi cael ei leoli y tu allan i'r ardal lle mae fel arfer yn preswylio ynddi, a ddylai achos y plentyn gael ei drosglwyddo i banel.
10. A oes angen gwneud trefniadau ar gyfer yr amser pan na fydd y plentyn yn derbyn gofal neu pan na ddarperir llety iddo gan yr awdurdod cyfrifol.
11. A oes angen paratoi cynlluniau i ddod o hyd i deulu dirprwyol parhaol ar gyfer y plentyn.
Rheoliad 6
1. Cyflwr iechyd y plentyn gan gynnwys ei iechyd corfforol, geneuol, iechyd emosiynol ac iechyd meddwl.
2. Hanes iechyd y plentyn gan gynnwys, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, hanes iechyd ei deulu.
3. Effaith iechyd a hanes iechyd y plentyn ar ei ddatblygiad.
4. Y trefniadau presennol ar gyfer gofal a thriniaeth feddygol a deintyddol y plentyn ac ar gyfer goruchwylio ei ofal meddygol a deintyddol, ac yn benodol, os cafodd plentyn ei asesu yn blentyn y mae angen gwasanaethau iechyd meddwl arno, a yw'r plentyn yn derbyn y gwasanaethau hynny.
5. A yw'r awdurdod cyfrifol wedi cydymffurfio â gofynion rheoliad 6 (i'r graddau y mae'n ymwneud ag iechyd y plentyn) a rheoliad 8 o Reoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007(17).
6. A drosglwyddwyd, pan fo hynny'n briodol, y cofnodion meddygol perthnasol.
7. Yr angen posibl am ddull priodol o weithredu y dylid ei ddynodi i gynorthwyo newid angenrheidiol mewn gofal, triniaeth neu oruchwyliaeth o'r fath fel y cyfeirir ato ym mharagraff (4).
8. Yr angen posibl am fesurau ataliol, megis brechu ac imiwneiddio, sgrinio ar gyfer y golwg a'r clyw ac am gyngor a chyfarwyddyd ar iechyd, (gan gynnwys iechyd meddwl a iechyd geneud) ac ar faterion gofal personol a hybu materion iechyd sy'n briodol i anghenion y plentyn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o dan ddarpariaethau Deddf Plant 1989 ac maent yn dirymu a disodli Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991 i'r graddau y mae'r Rheoliadau hynny'n gymwys o ran Cymru. Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer adolygu'r trefniadau i leoli plant yng Nghymru sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol neu sy'n cael eu lletya gan gyrff gwirfoddol neu gan gartrefi plant preifat.
Mae rheoliad 2 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyfrifol adolygu lleoliadau plant.
Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyfrifol benodi swyddogion adolygu annibynnol i gyflawni'r gwaith adolygu yn unol â'r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 4 (yn ddarostyngedig i reoliad 12), yn darparu ar gyfer amseru ac amlder yr adolygiadau, ac mae'n caniatáu i'r swyddog adolygu annibynnol gyfarwyddo bod adolygiadau'n cael eu gwneud rhwng ysbeidiau byrrach na'r rhai a bennir yn y rheoliad.
Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyfrifol osod eu trefniadau ar y dull y cynhelir yr adolygiadau o dan y Rheoliadau hyn, a dwyn y trefniadau hynny i sylw'r bobl a grybwyllir yn rheoliad 8. Os bydd plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod cyfrifol, mae'r rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gydgysylltu'r adolygiadau a phenodi swyddog i gynorthwyo yn y broses honno, gan roi sylw i'r materion a nodir yn Atodlen 1 (Yr elfennau sydd i'w cynnwys yn yr adolygiad).
Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyfrifol pan fydd yn adolygu achos plentyn, roi sylw i'r materion a nodir yn Atodlen 2 (Ystyriaethau y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt), ac Atodlen 3 (Ystyriaethau iechyd y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt).
Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyfrifol drefnu ar gyfer asesiadau iechyd ac adroddiadau ysgrifenedig ynglŷn â phob plentyn sy'n derbyn gofal ganddynt, gan fynd i'r afael â'r materion a nodir yn Atodlen 3, darparu ar gyfer amlder yr asesiadau hynny ac yn ei gwneud yn ofynnol i gael adolygiad, rhwng ysbeidiau penodedig, o'r cynllun ar gyfer iechyd y plentyn yn y dyfodol, a wneir o dan Reoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007.
Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyfrifol ymgynghori ag amryw o bobl a bennir yn y rheoliad er mwyn iddynt gymryd rhan yn yr adolygiad, gan gynnwys y plentyn, a hysbysu'r bobl hynny o fanylion canlyniad yr adolygiad ac unrhyw benderfyniad a wnaed yn ei sgil.
Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyfrifol wneud trefniadau i weithredu unrhyw benderfyniad a wnaed wrth lunio adolygiad neu o ganlyniad i adolygiad, a hysbysu'r swyddog adolygu annibynnol o unrhyw fethiant i wneud y cyfryw drefniadau, neu o unrhyw newid arwyddocaol mewn amgylchiadau ar ôl yr adolygiad a all effeithio ar y trefniadau.
Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyfrifol fonitro'r trefniadau ar gyfer adolygiadau er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyfrifol lunio cofnod ysgrifenedig o'r adolygiad ar achos plentyn a'r materion cysylltiedig.
Mae rheoliad 12 yn darparu ar gyfer cymhwyso'r Rheoliadau hyn mewn amgylchiadau pan fo plentyn yn derbyn gofal neu pan ddarperir llety iddo am gyfres o gyfnodau byr (a ddiffinnir yn y rheoliad) ac mae'n darparu ar gyfer amserau ac amlder adolygiadau mewn achosion o'r fath.
Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaethau trosiannol.
Mae rheoliad 14 yn eithrio mathau penodol o leoli plant o ofynion y Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 15 yn dirymu Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991 o ran Cymru.