(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan gynghorau yng Nghymru pan yn gwneud, yn amrywio neu yn dirymu gorchmynion gatio o dan adrannau 129A i 129G o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66) (“Deddf 1980”).
Mae adran 2 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16) yn mewnosod adrannau 129A i 129G yn Neddf 1980. Mae'r adrannau newydd hyn yn galluogi cynghorau i wneud, i amrywio neu i ddirymu gorchmynion sy'n cyfyngu ar hawl tramwy'r cyhoedd dros y priffyrdd y maent yn ymwneud â hwy (gorchmynion gatio). Ni cheir gwneud gorchmynion gatio mewn perthynas â ffyrdd arbennig, cefnffyrdd, ffyrdd dosbarthiadol neu brif ffyrdd, neu briffyrdd eraill o ddisgrifiad (os oes unrhyw un) a ragnodir gan reoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol).
Caiff cynghorau wneud gorchmynion gatio pan fônt wedi eu bodloni bod mangreoedd cyffiniol â neu gyfagos i'r briffordd yn cael eu heffeithio gan droseddu neu gan ymddygiad gwrthgymdeithasol; bod bodolaeth y briffordd yn hwyluso tramgwyddo troseddol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol; a'i bod yn fuddiol o dan yr holl amgylchiadau i wneud y gorchymyn at y dibenion o leihau troseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Caiff cynghorau amrywio gorchmynion gatio pan fônt wedi eu bodloni ei bod o dan yr holl amgylchiadau yn fuddiol gwneud hynny at y diben o leihau troseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Caiff cynghorau ddirymu gorchmynion gatio pan fônt wedi eu bodloni nad yw'r cyfyngiad a osodir gan y gorchymyn bellach yn fuddiol o dan yr holl amgylchiadau at y diben o leihau troseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gosodir rhai o'r gweithdrefnau y mae'n rhaid i'r cynghorau gydymffurfio â hwy mewn perthynas â gorchmynion gatio yn narpariaethau newydd Deddf 1980. Mae adrannau 129C ac 129F o Ddeddf 1980 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud darpariaeth drwy reoliadau parthed y weithdrefn bellach y bydd rhaid i'r cynghorau gydymffurfio â hi mewn perthynas â gorchmynion gatio, ac mae adrannau 129A, 129C, 129E ac 129F o Ddeddf 1980 yn galluogi'r Cynulliad i wneud darpariaeth bellach berthnasol drwy reoliadau.
Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth parthed—
(a) cyhoeddusrwydd sy'n ymwneud â chynnig i wneud, i amrywio neu i ddirymu gorchymyn gatio (rheoliadau 3, 4, 9 a 10);
(b) sylwadau parthed gwneud, amrywio neu ddirymu gorchymyn gatio (rheoliadau 5 ac 11);
(c) ymchwiliadau cyhoeddus (rheoliadau 6, 12, 14, 15 ac 16);
(ch) cynnwys gorchmynion gatio (rheoliad 8); a
(d) cofrestri o orchmynion gatio (rheoliad 17).