Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)

Mae'r Cynllun hwn yn darparu ar gyfer cymeradwyo darparwyr gofal plant at ddibenion adran 12(5) o Ddeddf Credydau Treth 2002 (“y Ddeddf”)(10). Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r “awdurdod cenedlaethol priodol” o ran gofal sy'n cael ei ddarparu yng Nghymru. Mae gofal plant cymwys (fel y'i diffinnir) a ddarperir gan berson a gymeradwyir yn unol â'r Cynllun hwn yn golygu gofal a ddarperir gan berson o ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion adran 12(4) o'r Ddeddf. Mae rheoliadau a wnaed o dan adran 12(1) o'r Ddeddf yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y gall hawl i gael credyd treth gwaith ar gyfer gofal a ddarperir gan berson a gymeradwyir yn unol â'r Cynllun hwn godi. (Gweler Rheoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a'r Gyfradd Uchaf) 2002 (O.S. 2002/2005)(11).

Pennir y corff cymeradwyo a enwir yn y Cynllun hwn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 12(7) o'r Ddeddf (erthygl 3). Mae ceisiadau am gymeradwyaeth yn cael eu penderfynu gan y corff cymeradwyo yn unol â meini prawf a nodir yn y Cynllun hwn (erthygl 7).

Mae'r Cynllun hwn yn darparu ymhellach:

(a) bod y corff cymeradwyo yn gweithredu system ar gyfer penderfynu ceisiadau am gymeradwyaeth (erthygl 8);

(b) bod y corff cymeradwyo'n darparu gwybodaeth i Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau ynglŷn â chredyd treth gwaith (erthygl 9);

(c) ar gyfer y cyfnod y bydd cymeradwyaeth yn ddilys (erthygl 10);

(ch) ar gyfer yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod cymeradwyaeth neu i'w thynnu'n ôl (erthygl 11);

(d) bod ffioedd yn cael eu codi gan y corff cymeradwyo (erthygl 12);

(dd) ar gyfer y dyddiad cynharaf y gellir rhoi cymeradwyaethau o dan y cynllun (erthygl 13).

Mae'r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru'n unig.

(10)

Deddf Credydau Treth 2002 (p.21). Back [10]

(11)

Rheoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a'r Gyfradd Uchaf) 2002 (O.S. 2002/2005). Back [11]