Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i'r setiau canlynol o Reoliadau:

1.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 (“y Rheoliadau Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar”);

2.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 (“y Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol”); a

3.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 (“y Rheoliadau Contractau GMS”).

Mae angen y newidiadau o ganlyniad i ychwanegu dau gategori newydd o ragnodwyr at Orchymyn Meddyginiaethau drwy Bresgripsiwn yn Unig (I'w Defnyddio gan Bobl) 1997 (“y Gorchymyn POM”).

Y ddau gategori newydd yw: nyrsys-ragnodwyr annibynnol a fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol.

Caiff nyrsys-ragnodwyr annibynnol ragnodi'n unol ag Erthygl 3A o'r Gorchymyn POM. Caiff fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol ragnodi'n unol ag Erthygl 3B(2)(c) o'r Gorchymyn POM.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd nyrs yng Nghymru, sydd wedi'i chofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, yn gallu rhagnodi fel nyrs-ragnodydd annibynnol pan fydd wedi llwyddo mewn cwrs a achredwyd. Bydd fferyllydd yn gallu rhagnodi fel fferyllydd-ragnodydd annibynnol ar yr amod y bydd y gofrestr fferyllol berthnasol yn dangos ei fod wedi cymhwyso i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel fferyllydd-ragnodydd annibynnol.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diweddaru'r diffiniad o “supplementary prescriber” a geir yn y Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol a “rhagnodydd atodol” a geir yn y Rheoliadau Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar i gynnwys optometryddion. Mae optometryddion eisoes yn gynwysedig yn y diffiniad o ragnodydd atodol yn y Rheoliadau Contractau GMS Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diweddaru'r diffiniad o “nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol”.