Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main navigation

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 204 (Cy.18) (C.9)

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007

Wedi'i wneud

30 Ionawr 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 79(3), 83(4), 83(5)(c), (d), (e), (f), (g) ac (8) o Ddeddf Iechyd 2006(1).

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Gorchymyn hwn —

  • mae i “cyrff y GIG yng Nghymru” yr ystyr a roddir i “Welsh NHS bodies” gan baragraff 2 o Atodlen 12B i Ddeddf 1977 sydd i'w mewnosod gan Atodlen 3 i'r Ddeddf;

  • ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(2); ac

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2006.

Y diwrnod penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n ymwneud â mangreoedd, mannau a cherbydau di-fwg

2.  2 Ebrill 2007 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym —

(a) adrannau 1 i 3, 5 i 8, 10 a 12 ac Atodlen 1 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym (3);

(b) adrannau 9 ac 11 ac Atodlen 2; ac

(c) adrannau 76, 77 a 78 i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 1 o Ran 1.

Y diwrnod penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n ymwneud â swyddogaethau gwrth-dwyll Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac â thramgwyddau mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny

3.  1 Chwefror 2007 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf hon i rym i'r graddau y maent yn ymwneud â swyddogaethau gwrth-dwyll Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu â thramgwyddau mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny—

(a) adrannau 48 a 55 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym(4);

(b) adrannau 44, 45, 46, 47, 49, 50, 51, 52, 53 a 54; ac

(c) adrannau 76, 77 a 78 i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 3 o Ran 4.

Y diwrnod penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n berthnasol i archwilio

4.  1 Chwefror 2007 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym, i'r graddau y maent yn ymwneud â chyrff y GIG yng Nghymru —

(a) adran 56 ac Atodlen 3;

(b) paragraffau 24(a), 43, 44 a 62 o Atodlen 8, ac adran 80(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau hynny;

(c) yn Atodlen 9 —

(i) paragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002(5);

(ii) paragraff 2 o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(6);

(iii) erthygl 2 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cyfrifon ac Archwilio Ymddiriedolaethau Elusennol ac Anelusennol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol) 2005(7); ac

(ch) adran 80(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau neu'r dirymiadau a bennir ym mharagraff (c).

Darpariaethau trosiannol sy'n berthnasol i archwilio

5.—(1) Mewn perthynas â chyrff y GIG yng Nghymru, er gwaethaf rhoi yn lle adran 98 o Ddeddf 1977 adran 56 o'r Ddeddf bydd —

(a) adran 98 o Ddeddf 1977;

(b) adran 144(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8);

(c) adran 14 o Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000(9); ac

(ch) adran 61(1) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(10);

fel y byddant mewn grym ar 31 Ionawr 2007 yn gymwys o ran cyfrifon a gedwir gan y cyrff a restrir yn adran 98(1) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2007 (yn unol â hynny, bydd y trefniadau a geir yn Atodlen 12B newydd i Ddeddf 1977 yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol ddilynol) ac o ran materion sy'n berthnasol i flynyddoedd ariannol cynharach ac nad ydynt wedi'u dirwyn i ben.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11)

D. Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Ionawr 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym holl ddarpariaethau Ddeddf Iechyd 2006 sy'n berthnasol i:

(a) mangreoedd, mannau a cherbydau di-fwg, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;

(b) swyddogaethau gwrth-dwyll mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym; ac

(c) cyfrifon ac archwilio mewn perthynas â chyrff y GIG yng Nghymru i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn Cychwyn a ganlyn wedi'i wneud o dan Ddeddf Iechyd 2006 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd mewn perthynas â Chymru a Lloegr:

Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) 2006 (O.S. 2006/2603).

(1)

2006 p.28. Back [1]

(2)

1977 p.49. Back [2]

(3)

Yn rhinwedd adran 83(1)(e) o Ddeddf Iechyd 2006 daeth y darpariaethau hyn i rym ar y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf i'r graddau y mae'r darpariaethau'n rhoi pŵer i wneud Gorchymyn neu Reoliadau, neu i ddiffinio unrhyw ymadrodd sy'n berthnasol i arfer unrhyw bŵer o'r fath. Back [3]

(4)

Yn rhinwedd adran 83(1)(e) o Ddeddf Iechyd 2006 daeth y darpariaethau hyn i rym ar y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf i'r graddau y mae'r darpariaethau'n rhoi pŵer i wneud Gorchymyn neu Reoliadau, neu i ddiffinio unrhyw ymadrodd sy'n berthnasol i arfer unrhyw bŵer o'r fath. Back [4]

(5)

2002 p.17. Back [5]

(6)

2004 p.23. Back [6]

(7)

O.S.2005/1074. Back [7]

(8)

1998 p.38. Back [8]

(9)

2000 p.20. Back [9]

(10)

2004 p.23. Back [10]

(11)

1998 p.38. Back [11]