Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 (OJ Rhif L165, 30.04.2004, t. 1) (“Rheoliad 882/2004”) Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch rheolau iechyd a lles anifeiliaid, a'r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd a eithriwyd o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”), sydd hefyd yn cymhwyso ac yn gorfodi Rheoliad 882/2004. Diwygiwyd testun Rheoliad 882/2004 ac mae i'w weld bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.05.2004, t. 1).

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac awdurdodau lleol (gan gynnwys awdurdodau bwyd) yn awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 4.1 o Reoliad 882/2004 (rheoliadau 3 i 5). Mae a wnelo'r dynodiadau â'r canlynol:

(a) rheolau iechyd a lles anifeiliaid;

(b) cyfraith bwyd sy'n ymwneud â rheolaethau ar anifeiliaid;

(c) cyfraith bwyd anifeiliaid nad yw wedi'i rhestru yn Atodlen 3 i Reoliadau 2006; ac

(ch) cyfraith bwyd ynghylch rheolaethau ar fwyd neu fwyd anifeiliaid a eithriwyd o'r dynodiadau yn Rheoliadau 2006, sef:

(i) bwydydd organig, gan gynnwys cynhyrchion bwyd organig a fewnforiwyd;

(ii) cynhyrchion bwyd ag enwau a ddiogelir a chynhyrchion bwyd â chymeriad penodol;

(iii) gweddillion meddyginiaethau milfeddygol;

(iv) gweddillion plaleiddiaid;

(v) mewnforio o drydydd gwledydd gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid, a'r fasnach ohonynt o fewn y Gymuned; a

(vi) labelu cig eidion.

Maent yn ymwneud hefyd ag enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (“TSEs”) ynglŷn â rheolaethau profi (gan gynnwys samplu) ar wartheg, defaid a geifr a gigyddir ar gyfer eu bwyta gan bobl.

Nid yw'r dynodiadau yn cynnwys bwydydd anifeiliaid â meddyginiaeth ac ychwanegion sootechnegol, a gwmpesir ym mharagraff 4 o Atodlen 5 i Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005 (O.S. 2006/2407).

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu'n bendant ar gyfer cyfnewid gwybodaeth rhwng awdurdodau cymwys yng Nghymru a mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, ac yn yr Undeb Ewropeaidd (rheoliad 6).

Maent yn creu pwerau annibynnol i archwilwyr awdurdod cymwys gynnal archwiliadau sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.6 o Reoliad 882/2004 (rheoliad 7). Mae darpariaeth wedi'i gwneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru alw am wybodaeth oddi wrth awdurdod lleol am ei archwiliadau; ac iddo ei gwneud yn ofynnol i archwilydd gynnal archwiliad o reolaethau swyddogol yr awdurdod lleol hwnnw fel awdurdod cymwys (rheoliad 8).

Pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trefnu bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd i gynnal archwiliad o'r ddeddfwriaeth berthnasol o dan y Rheoliadau hyn, bydd darpariaethau monitro Rheoliadau 2006 yn gymwys ynghyd â'r darpariaethau gorfodi cyfatebol yn Rheoliadau 2006 (rheoliad 9 o'r Rheoliadau hyn).

Mae'r Rheoliadau yn ychwanegu at bwerau presennol arolygwyr hefyd er mwyn caniatáu iddynt ddod ag arbenigwyr y Comisiwn gyda hwy at ddibenion archwiliadau'r Comisiwn ei hun (rheoliad 10). Mae darpariaethau i hwyluso cymorth a chydweithrediad rhwng Aelod-wladwriaethau sy'n ofynnol o dan Deitl IV (Erthyglau 34 i 40) o Reoliad 882/2004 (rheoliadau 11 a 12), yn enwedig i alluogi swyddogion y Comisiwn ac Aelod-wladwriaethau eraill i fod yn bresennol gydag arolygydd sy'n ymchwilio i doriadau a amheuir o dan y ddeddfwriaeth berthnasol. Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer talu ar archiad ysgrifenedig dreuliau a godir o dan Erthygl 40.4 ac Erthygl 28 o Reoliad 882/2004.

Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau, gan gynnwys pwerau swyddogion gorfodi i'r perwyl hwn (rheoliad 16). Mae'n dramgwydd o dan reoliad 17 i rwystro archwilydd, swyddog gorfodi, neu arolygydd sy'n dod â chynrychiolwyr o'r Comisiwn neu Aelod-wladwriaethau eraill gydag ef, neu i rwystro unrhyw bersonau sy'n dod gydag arolygydd neu archwilydd. Mae'n dramgwydd hefyd o dan reoliad 17 i ddarparu gwybodaeth gamarweiniol neu anwir i arolygydd neu archwilydd neu swyddog gorfodi, neu i fethu â darparu gwybodaeth y mae unrhyw un ohonynt yn gofyn amdani. Y gosb ar gollfarn ddiannod am y tramgwyddau yw dirwy ar lefel 5 o'r raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd) neu dri mis yn y carchar, neu'r ddau (rheoliad 17(4)). Mae darpariaeth wedi'i gwneud i erlyn tramgwyddau a gyflawnir gan gyrff corfforaethol (rheoliad 18), a phennir terfynau amser ar gyfer erlyn yn rheoliad 19.

Mae rheoliad 20 yn diwygio Rheoliadau 2006 i dynnu o'r diffiniad o “cyfraith bwyd berthnasol”, i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwyd, Atodlen 2 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 (“Rheoliadau TSE”) a darpariaethau penodol yn y Rheoliad UE ar TSEs (Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t. 1)) ynghylch monitro TSEs mewn geifr a defaid a gigyddir.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ynglŷn â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.