Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 2 Dynodi awdurdodau cymwys a chyfnewid gwybodaeth rhyngddynt

Dibenion y dynodiadau

3.  Mae dynodiadau yn y Rhan hon yn cael eu gwneud at ddibenion Erthygl 4.1.

Dynodi'r Cynulliad Cenedlaethol yn awdurdod cymwys

4.  Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys mewn perthynas â deddfwriaeth berthnasol.

Dynodi awdurdodau lleol, etc., yn awdurdodau cymwys

5.—(1) Mae'r awdurdod lleol wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys mewn perthynas â swyddogaethau gorfodi a gweithredu (ac eithrio erlyn) y mae'n eu harfer o dan ddeddfwriaeth berthnasol.

(2) Mae'r awdurdod bwyd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys mewn perthynas â swyddogaethau gorfodi a gweithredu (ac eithrio erlyn) y mae'n eu harfer o dan ddeddfwriaeth berthnasol.

(3) Yn y rheoliad hwn, mae “yr awdurdod lleol” ac “yr awdurdod bwyd” yn cynnwys awdurdod lleol neu awdurdod bwyd sy'n arfer ei swyddogaethau, sef y rhai y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) neu (2) fel “awdurdod gorfodi” o dan ddeddfwriaeth berthnasol ac o fewn ystyr “enforcement authority” mewn deddfwriaeth o'r fath.

Cyfnewid gwybodaeth

6.  Caiff awdurdodau cymwys a ddynodir o dan y Rheoliadau hyn ddatgelu gwybodaeth i'w gilydd ac i awdurdodau cymwys eraill yn y Deyrnas Unedig ac i Aelod-wladwriaethau eraill at ddibenion Rheoliad 882/2004.

RHAN 3 Archwiliadau a rheolaethau'r Gymuned

Pwerau archwilwyr ac eithriad ar gyfer archwilwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd

7.—(1) Caiff archwilydd arfer y pwerau yn y rheoliad hwn os yw wedi'i awdurdodi—

(a) gan awdurdod cymwys a ddynodir o dan y Rheoliadau hyn i gynnal archwiliad o weithgareddau'r awdurdod hwnnw; neu

(b) gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal archwiliad yn unol â rheoliad 8(3).

(2) At ddibenion cynnal archwiliad, caiff archwilydd fynd i mewn i fangre y mae gan arolygydd bŵer i fynd iddo o dan ddeddfwriaeth berthnasol (“mangre archwilio”) fel petai'r archwilydd yn arolygydd sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer sicrhau mynediad o'r fath o dan y ddeddfwriaeth berthnasol honno.

(3) Caiff archwilydd sy'n arfer ei bŵer mynediad ddod ag unrhyw berson gydag ef y mae ar yr archwilydd angen rhesymol am ei gymorth.

(4) Caiff archwilydd ofyn i unrhyw berson yn unrhyw fangre archwilio am unrhyw wybodaeth y mae arno angen rhesymol amdani at ddibenion yr archwiliad, a chaiff arolygu unrhyw gofnodion y mae arno angen rhesymol amdanynt at y dibenion hynny.

(5) Caiff archwilydd wneud copïau o'r cofnodion hynny neu ei gwneud yn ofynnol i'r copïau gael eu gwneud.

(6) Wrth arfer y pwerau a roddwyd gan y rheoliad hwn, rhaid i archwilydd, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth ei fod wedi'i awdurdodi o dan y Rheoliadau hyn.

(7) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo rheoliad 9 yn gymwys.

Pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag archwiliadau awdurdodau lleol, etc.

8.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cymwys a ddynodir o dan reoliad 5 ddarparu gwybodaeth iddo am unrhyw archwiliadau y mae'r awdurdod cymwys hwnnw wedi'u cynnal neu wedi'u cael neu y mae'r awdurdod cymwys hwnnw yn bwriadu eu cynnal neu eu cael.

(2) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu o dan baragraff (1), rhaid iddo wneud hynny'n ysgrifenedig a rhaid iddo nodi o fewn pa derfyn amser y mae'r wybodaeth sy'n ofynnol i gael ei darparu.

(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol—

(a) i archwilydd gynnal archwiliad o awdurdod cymwys a ddynodir o dan reoliad 5; a

(b) i'r awdurdod cymwys sydd o dan sylw roi unrhyw gymorth i'r archwilydd hwnnw y bydd ar yr archwilydd angen rhesymol amdano er mwyn cynnal yr archwiliad.

Pwerau'r Asiantaeth Safonau Bwyd sy'n ymgymryd ag archwiliadau ar ran y Cynulliad Cenedlaethol

9.—(1) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn trefnu bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ymgymryd ag archwiliad mewn perthynas â deddfwriaeth berthnasol, bydd darpariaethau archwilio Rheoliadau 2006 yn gymwys fel petai—

(a) ymgymryd â'r archwiliad hwnnw yn ddiben a ddisgrifir yn rheoliad 8(1) a 9(1) o Reoliadau 2006; a

(b) yr awdurdod cymwys o dan sylw yn awdurdod gorfodi y mae rheoliadau 8 a 9 o Reoliadau 2006 yn gymwys iddo.

(2) Dyma ddarpariaethau archwilio Rheoliadau 2006—

(a) rheoliadau 8 a 9(1) i (8) a (10), fel y'i darllenir gyda rheoliad 10; a

(b) rheoliad 11.

(3) Mae rheoliadau 17(2), (4) a (5)(c), 18(2) i (9), 19 i 21, 41 i 43, 45 a 46 o Reoliadau 2006 yn gymwys pan fo paragraff (1) o'r rheoliad hwn yn gymwys fel petai'r paragraff hwnnw'n un o ddarpariaethau Rheoliadau 2006 a oedd i'w gorfodi neu i'w gweithredu o dan Reoliadau 2006.

Rheolaethau'r Gymuned

10.  I'r graddau nad oes gan arolygydd bwerau eisoes i wneud hynny, er mwyn ei gwneud yn hwylus i archwiliadau gael eu cynnal gan arbenigwyr y Comisiwn yn unol ag Erthygl 45, caiff arolygydd fynd i unrhyw fangre y mae ganddo bŵer i gael mynediad iddo o dan ddeddfwriaeth berthnasol, ac—

(a) dod ag unrhyw arbenigwyr o'r fath gydag ef; a

(b) dangos iddynt y cofnodion y mae'n eu harolygu.

RHAN 4 Cymorth a chydweithrediad o dan Deitl IV

Dyletswyddau awdurdodau lleol, etc, o dan Deitl IV

11.  Rhaid i awdurdod lleol neu awdurdod bwyd sydd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys o dan reoliad 5 hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol os yw'n credu nad yw'n gallu cymryd camau sy'n ofynnol mewn unrhyw achos unigol o dan Deitl IV (cymorth a chydweithrediad gweinyddol ym meysydd bwyd anifeiliaid a bwyd) a rhaid iddo ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn yn rhesymol amdano.

Hwyluso cymorth a chydweithrediad o dan Deitl IV

12.—(1) At ddibenion cynorthwyo awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall fel y darperir ar ei gyfer o dan Erthygl 36.3, neu alluogi awdurdod cymwys a ddynodir o dan y Rheoliadau hyn i wneud hynny, caiff arolygydd sy'n arfer ei bwerau o dan ddeddfwriaeth berthnasol i fynd i mewn i fangre neu i arolygu cofnodion—

(a) dod â swyddogion awdurdodedig awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall gydag ef;

(b) dangos iddynt y cofnodion y mae'n eu harolygu; ac

(c) gwneud copïau iddynt neu ei gwneud yn ofynnol i gopïau gael eu gwneud iddynt o'r cofnodion y mae ganddo bwerau i'w gwneud neu i'w gwneud yn ofynnol iddynt gael eu gwneud o dan y ddeddfwriaeth berthnasol.

(2) At ddibenion hwyluso ymweliad gan dîm arolygu a anfonir gan y Comisiwn fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 40.3(a), caiff arolygydd ddod â chynrychiolwyr y Comisiwn gydag ef wrth arfer ei bwerau o dan ddeddfwriaeth berthnasol i fynd i mewn i fangre neu i arolygu cofnodion.

Adennill treuliau

13.—(1) Rhaid i dreuliau a godir gan awdurdod cymwys ar fusnes bwyd anifeiliaid neu fusnes bwyd yn unol ag Erthygl 40.4 gael eu talu gan y busnes hwnnw ar ôl cael archiad ysgrifenedig gan yr awdurdod cymwys o dan sylw.

(2) Rhaid i dreuliau a godir gan awdurdod cymwys ar weithredydd yn unol ag Erthygl 28 gael eu talu gan y gweithredydd hwnnw ar ôl cael archiad ysgrifenedig gan yr awdurdod cymwys dan sylw.

(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yw awdurdod cymwys a ddynodir o dan reoliad 4 neu 5.