Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 196 (Cy.15)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

30 Ionawr 2007

Yn dod i rym

31 Ionawr 2007

Go to Explanatory Note

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol) a mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Mae wedi cynnal ymgynghoriad yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor(4).

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972:

RHAN 1 Cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 31 Ionawr 2007.

Dehongli

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arolygydd” (“inspector”), mewn perthynas ag unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth berthnasol, yw arolygydd, arolygydd milfeddygol, neu swyddog arall a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu awdurdod arall i weithredu yng Nghymru o dan y ddeddfwriaeth berthnasol honno;

mae i “yr awdurdod bwyd”, mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol y gwneir dynodiad ar ei chyfer o dan y Rheoliadau hyn, yr un ystyr â “the food authority” yn y ddeddfwriaeth berthnasol honno;

mae i “yr awdurdod lleol”, mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol y gwneir dynodiad ar ei chyfer o dan y Rheoliadau hyn, yr un ystyr â “the local authority” yn y ddeddfwriaeth berthnasol honno;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

mae i “deddfwriaeth berthnasol” (“relevant legislation”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (3);

ystyr “mangre” (“premises”) yw mangre neu eiddo arall, lle neu gyfrwng cludo;

ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd a lles anifeiliaid(5), fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 776/2006 yn diwygio Atodiad VII o ran labordai cyfeirio'r Gymuned(6) ac fel y'i darllenir gyda'r canlynol—

(a)

Penderfyniad y Comisiwn 2006/677 yn nodi'r canllawiau sy'n gosod meini prawf ar gyfer cynnal archwiliadau o dan Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol i wirio cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid(7);

(b)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(8);

(c)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 yn gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004, ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(9); ac

(ch)

Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 575/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor;

ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006(10).

(2) Yn y Rheoliadau hyn—

(a) ystyr “archwiliad” (“audit”), ac eithrio yn rheoliad 10, yw archwiliad awdurdod cymwys a gyflawnir at ddibenion Erthygl 4.6 o Reoliad 882/2004 mewn perthynas ag un darn o ddeddfwriaeth berthnasol neu fwy ohonynt; a

(b) ystyr “archwilydd” (“auditor”) yw person sy'n cynnal archwiliad o'r fath.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “deddfwriaeth berthnasol” (“relevant legislation”) yw cyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd y mae Rheoliad 882/2004 yn gymwys iddynt a rheolau iechyd a lles anifeiliaid, ac eithrio—

(a) “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” (“relevant feed law”) a “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) fel y'u diffinnir yn Rheoliadau 2006; a

(b) Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2006(11) i'r graddau y maent yn rheoleiddio ychwanegion sootechnegol a bwydydd anifeiliaid â meddyginiaeth.

(4) Ym mharagraff (3)(b)—

  • mae i “bwydydd anifeiliaid â meddyginiaeth” yr ystyr a roddir i “medicated feedingstuffs” yn Erthygl 1.6 o Gyfarwyddeb 2001/82/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar god y Gymuned sy'n ymwneud â chynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol(12) fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno gan Gyfarwyddeb 2004/28/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2001/82/EC ar god y Gymuned ynghylch cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol(13); ac

  • ystyr “ychwanegion sootechnegol” (“zootechnical additives”) yw ychwanegion bwyd anifeiliaid yn y categorïau a grybwyllir yn Erthygl 6.1(d) ac (e) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion i'w defnyddio i roi maeth i anifeiliaid(14) ac eithrio'r rhai sy'n perthyn i'r grŵp swyddogaethol a restrir ym mharagraff 4(a), (b) ac (c) o Atodiad 1 i'r Rheoliad hwnnw.

(5) Oni ddarperir fel arall yn y rheoliad hwn, mae i dermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 882/2004.

(6) Oni fynnir fel arall gan y cyd-destun, mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “Erthygl” (“Article”) neu “Teitl” (“Title”) yn gyfeiriadau at Erthygl neu Deitl, yn ôl eu trefn, o Reoliad 882/2004.

(7) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o dro i dro.

(1)

OS 2005/2766 mewn perthynas â'r polisi amaethyddol cyffredin (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol), ac OS 2003/1246 mewn perthynas â mesurau milfeddygol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Back [1]

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Back [3]

(4)

OJ Rhif L100, 8.4.2006, t. 3. Back [4]

(5)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1; gweler y testun sydd wedi'i gywiro yn y corigendwm i'r Rheoliad a gyhoeddwyd yn OJ Rhif L 191, 28.5.2004, t. 1. Back [5]

(6)

OJ Rhif L136, 24.5.2006, t. 3. Back [6]

(7)

OJ Rhif L278, 10.10.2006, t.15. Back [7]

(8)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t. 27. Back [8]

(9)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t. 83. Back [9]

(10)

OS 2006/590 (Cy.66) fel y'i diwygiwyd gan OS 2006/1704 (Cy.166), rheoliad 1(3). Back [10]

(11)

OS 2006/2407. Back [11]

(12)

OJ Rhif L311, 28.11.2001, t. 1. Back [12]

(13)

OJ Rhif L136, 30.4.2004, t. 58. Back [13]

(14)

OJ Rhif L268, 18.10.2003, t. 29. Back [14]