(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli, gyda diwygiadau, Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2001(27) fel y'u diwygiwyd.
2. Yn unol â hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r ffioedd ynghylch cyffuriau a chyfarpar a gyflenwir i gleifion sydd wedi'u cofrestru gydag Ymarferwyr Cyffredinol (YC) yng Nghymru neu sydd wedi'u cofrestru gydag YC yn Lloegr ond eu bod yn dal cardiau hawl dilys gan fferyllwyr sy'n darparu gwasanaethau fferyllol (rheoliad 3), gan feddygon sy'n darparu gwasanaethau fferyllol (rheoliad 4), gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG (rheoliad 5) ac mewn canolfannau cerdded i mewn (rheoliad 6) a phan gyflenwir hwy yn unol â chyfarwyddiadau grwp cleifion (rheoliad 7). Mae Rheoliadau 3 a 4 ymhellach yn darparu ar gyfer ffioedd am gyffuriau a chyfarpar i unrhyw gleifion heblaw cleifion sydd wedi'u cofrestru gydag YC yng Nghymru neu wedi'u cofrestru gydag YC yn Lloegr ond sy'n dal cardiau hawl dilys.
3. Ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraph 2 uchod, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer codi a chasglu ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n cael eu cyflenwi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(28). Gwneir darpariaeth ar wahân ar gyfer ffioedd deintyddol ac optegol.
4. Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer esemptiadau rhag talu ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n gymwys i gleifion heblaw'r rheini sydd wedi'u cofrestru gydag YC yng Nghymru neu wedi'u cofrestru gydag YC yn Lloegr ond sy'n dal cardiau hawl dilys (rheoliad 8) ac yn darparu ymhellach ar gyfer cleifion sydd wedi'u cofrestru gydag YC yng Nghymru neu wedi'u cofrestru gydag YC yn Lloegr ond sy'n dal cardiau hawl dilys i wneud cais am dystysgrifau esemptio (rheoliad 9).
5. Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer dyroddi cardiau hawl sydd yn galluogi preswylwyr yng Nghymru i gael cyffuriau a chyfarpar am ddim pan fo'r cyffuriau a chyfarpar yn cael eu gweinyddu gan fferyllwyr neu feddygon yng Nghymru.
6. Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu esemptiad rhag ffioedd ar gyfer carcharorion (rheoliad 10).
7. Mae Arfarniad Rheoleiddiol ar y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru.