(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Adran 103 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16) (“Deddf 2005”) yn diwygio adran 80(8) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p. 43) (“Deddf 1990”) gan roi iddi'r effaith bod yr amddiffyniad (i'r tramgwydd, o dan adran 80(4) o Ddeddf 1990, o fynd yn groes i dermau neu ofynion hysbysiad diddymu a gyflwynir o dan adran 80(1) o Ddeddf 1990 neu o fethu â chydymffurfio â hwy) sef yr amddiffyniad o fod wedi defnyddio'r dull ymarferol gorau i rwystro niwsans statudol neu i wrthbwyso'i effeithiau, ar gael o ran niwsans a achosir gan olau artiffisial ac sy'n deillio o oleuadau a ddefnyddir i oleuo cyfleuster allanol ar gyfer campau perthnasol.
Diffinnir cyfleuster ar gyfer campau perthnasol yn adran 80(8A) o Ddeddf 1990 yn ardal, gyda strwythurau neu hebddynt, a ddefnyddir i gymryd rhan mewn campau perthnasol, ac eithrio ardal o'r fath a geir mewn mangreoedd domestig.
Mae adran 80(8B) o Ddeddf 1990 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o ran Cymru, y swyddogaeth o ddynodi camp yn “gamp berthnasol” at ddibenion adran 80(8A) o Ddeddf 1990. Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y swyddogaeth honno.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn rhoi effaith i fân ddiwygiadau i Orchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2797 (Cy. 236) (C. 93)).