Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main navigation

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 120 (Cy.10)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Gorchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

Wedi'i wneud

23 Ionawr 2007

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 80(8B) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(1) ac adran 108(1)(b), (2) a (5) o Ddeddf Cymdogaethau ac Amgylchedd Glân 2005(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007.

(2) Daw erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Ionawr 2007.

(3) Daw erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn a'r Atodlen iddo i rym ar 31 Ionawr 2007.

(4) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dynodi “camp berthnasol”

2.  Dynodir camp sy'n ymddangos yn y rhestr o gampau a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn “gamp berthnasol” at ddibenion adran 80(8A) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(3).

Diwygio Gorchmyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion (Cymru) 2006

3.  Diwygir Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion (Cymru) 2006(4) fel a ganlyn—

(a) yn y testun Cymraeg yn y pennawd i erthygl 5 yn lle “2006” rhodder “2007”;

(b) yn y testunau Cymraeg a Saesneg yn y geiriau agoriadol yn erthygl 5 yn lle “2006” rhodder “2007”;

(c) yn y testunau Cymraeg a Saesneg o'r pennawd i erthygl 6 yn lle “2006” rhodder “2007”;

(ch) yn y testunau Cymraeg a Saesneg yn y geiriau agoriadol yn erthygl 6 yn lle “2006” rhodder “2007”;

(d) yn y testun Cymraeg yn lle'r pennawd I erthygl 7 rhodder—

  • Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw erthygl 2 o Orchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 a'r Atodlen'r Gorchymyn hwnnw i rym;

(dd) yn y testun Saesneg yn lle'r pennawd i erthygl 7 rhodder—

  • Provisions of the 2005 Act coming into force on the date on which article 2 of, and the Schedule to, the Statutory Nuisances (Miscellaneous Provisions) (Wales) Order 2007 come into force;

(e) yn y testun Cymraeg yn ngeiriau agoriadol erthygl 7 yn lle'r geiriau “Gorchymyn Niwsansau Statudol (Goleuo Artiffisial) (Dynodi Campau Perthnasol) (Cymru) 2006” rhodder “erthygl 2 o Prchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 a'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw”;

(f) yn y testun Saesneg yng ngeiriau agoriadol erthygl 7 rhodder y geiriau “article 2 of, and the Schedule to, the Statutory Nuisances (Miscellaneous Provisions) (Wales) Order 2007” yn lle'r geiriau “the Statutory Nuisance (Artificial Lighting) (Designation of Relevant Sports) (Wales Order 2006”;

(ff) yn y testun Cymraeg o erthygl 10(1) yn lle “â rheoliad” rhodder “ag erthygl”;

(g) yn nhestun Saesneg erthygl 10(1) yn lle “regulation” rhodder “article”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Ionawr 2007

Erthygl 2

YR ATODLEN Y RHESTR O GAMPAU

1.  Pêl-droed Americanaidd

2.  Saethyddiaeth

3.  Pêl-droed (Socer) (Rheolau'r Gymdeithas Bêl droed)

4.  Athletau

5.  Pêl-droed Rheolau Awstralia

6.  Badminton

7.  Pêl fas

8.  Pêl fasged

9.  Biathlon

10.  Bobsledio

11.  Bowls

12.  Camogie

13.  Canwio

14.  Criced

15.  Croquet

16.  Cwrlo

17.  Seiclo

18.  Marchogyddiaeth

19.  Pêl-droed Gwyddelig

20.  Golff

21.  Gymnasteg

22.  Pêl-law

23.  Hoci

24.  Rasio Ceffylau

25.  Chwarae hyrli

26.  Hoci Iâ

27.  Sglefrio ar Iâ

28.  Lacrosse

29.  Luge

30.  Pentathlon Modern

31.  Marchogaeth Beic Modur

32.  Campau Moduro

33.  Pêl-rwyd

34.  Wal Ddringo tu allan

35.  Polo

36.  Camp Olwynion Troed

37.  Rownderi

38.  Rhwyfo

39.  Rygbi'r Gynghrair

40.  Rygbi'r Undeb

41.  Hwylio

42.  Saethu

43.  Camp Byrddau Sgrialu

44.  Sgio

45.  Eirafyrddio

46.  Pêl feddal

47.  Nofio (gan gynnwys Deifio)

48.  Tennis

49.  Triathlon

50.  Tynnu Rhaff

51.  Pêl foli

(1)

1990 p. 43; mewnosodwyd adran 80(8B) gan adran 103(3) o Ddeddf Cymdogaethau ac Amgylchedd Glân 2005 (p. 16). Back [1]

(2)

2005 p. 16. Back [2]

(3)

Mewnosodwyd adran 80(8A) gan adran 103(3) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005. Back [3]

(4)

O.S. 2006/2797 (Cy. 236) (C. 93). Back [4]

(5)

1998 p. 38. Back [5]