Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac maent yn diwygio'r rheoliadau canlynol:

(a) Rheoliadau Hadau Betys (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3037);

(b) Rheoliadau Hadau yd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3036);

(c) Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1207);

(ch) Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2881); a

(d) Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3035).

Maent yn rhoi effaith i Benderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC ar 1 Rhagfyr 2004 ynghylch gweithredu rheolau lle y caiff Aelod-wladwriaethau awdurdodi rhoi ar y farchnad hadau sy'n perthyn i amrywogaethau y cyflwynwyd cais ar eu cyfer i gael eu cofnodi yn y catalog cenedlaethol o amrywogaethau rhywogaethau planhigion amaethyddol neu rywogaethau llysiau (OJ L 362, 9.12.2004, t.21), sy'n gosod yr amodau y ceir marchnata hadau betys, ydau, planhigion porthiant, planhigion olew a ffibr a llysiau na chawsant hyd yn hyn eu hychwanegu at Restr Genedlaethol at ddibenion cynnal profion a threialu neu, yn achos hadau llysiau, at ddibenion ennill gwybodaeth oddi wrth brofiad ymarferol wrth drin y tir.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi cael ei baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Datblygu Bwyd a'r Farchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.