Offerynnau Statudol

2007 Rhif 3564 (Cy.314)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2007

Gwnaed

17 Rhagfyr 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Rhagfyr 2007

Yn dod i rym

14 Ionawr 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(3), 408, 537, 537A(1) a (2) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt(2) ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 14 Ionawr 2008.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004

2.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004(3) yn unol â pharagraffau (2) i (6) isod.

(2) Yn rheoliad 2(3) dileer is-baragraff (b).

(3) Yn lle rheoliad 7 a'i bennawd rhodder y canlynol —

Darparu canlyniadau asesiadau cyfnod allweddol i Weinidogion Cymru

Ar neu cyn y dyddiad a bennir yn y canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd, rhaid i'r awdurdod ddarparu bob blwyddyn i Weinidogion Cymru yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r asesiadau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 mewn perthynas â'r holl ysgolion y mae'n eu cynnal ac y mae ganddynt ddisgyblion cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf sy'n gymwys i gael asesiadau statudol ym mlwyddyn adrodd yr ysgol..

(4) Yn lle paragraff 2 o Atodlen 1, rhodder y paragraff canlynol —

(5) Ym mharagraff 1 yn Rhan 1 o Atodlen 3 dileer is-baragraff (d).

(6) Ym mharagraff 2 yn Rhan 2 o Atodlen 3 dileer is-baragraff (d).

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

17 Rhagfyr 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân newidiadau i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”).

Mae rheoliad 2(4) yn diwygio paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2004 gyda'r canlyniad na fydd yn bosibl mwyach i gorff llywodraethu gofnodi absenoldeb disgybl fel y rheswm dros beidio â darparu canlyniadau'r cyfan neu ran o'u hasesiadau statudol. Yn lle hynny, mae paragraff 2 diwygiedig Atodlen 1 i Reoliadau 2004 yn darparu y caiff corff llywodraethu gofnodi nad yw asesiadau statudol disgybl ar gael neu eu bod ar gael yn rhannol yn unig am resymau ac eithrio bod y disgybl wedi'i esemptio o dan adrannau 113 neu 114 o Ddeddf Addysg 2002.

(1)

1996 p.56. Cafodd adran 29(3) ei disodli gan baragraff 67 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diwygiwyd adran 408 gan baragraff 30 o Atodlen 7 ac Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), paragraffau 57 a 106 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 57 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21). Diwygiwyd adran 537 gan baragraff 37 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997, paragraffau 57 a 152 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 60 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. Cafodd Adran 537A ei disodli gan baragraff 153 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. I gael gweld ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru (p.32). Back [2]

(3)

“2004/1025 (Cy.122), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/2914 (Cy.253), O.S. 2005/1396 (Cy.110) ac O.S. 2005/3239 (Cy.244).. Back [3]

Amended by correction slip on 01 January 2008