Offerynnau Statudol

2007 Rhif 3562 (Cy.312)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007

Gwnaed

17 Rhagfyr 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Rhagfyr 2007

Yn dod i rym

14 Ionawr 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537A(1), (2) a (4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 14 Ionawr 2008.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2.  Dirymir y rheoliadau a geir yn Atodlen 1.

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “absenoldeb nas awdurdodwyd” (“unauthorised absence”) yw achlysur pan gofnodir bod disgybl yn absennol heb awdurdod yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995 ac mae “absenoldeb a awdurdodwyd” (“authorised absence”) i'w ddehongli'n unol â hynny;

mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o Ddeddf 1996;

mae i “anhawster dysgu” yr ystyr a roddir i “learning difficulty” yn adran 312(2) o Ddeddf 1996(3);

ystyr “arholiadau TAG Safon Uwch” (“GCEAlevel examinations”) ac “arholiadau TAG Uwch Gyfrannol” (“GCEASexaminations”) yw arholiadau Tystysgrif Addysg Gyffredinol Safon Uwch ac arholiadau Tystysgrif Addysg Gyffredinol Uwch Gyfrannol, yn y drefn honno;

ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau ar ddechrau'r tymor ysgol cyntaf sy'n dechrau ar ôl mis Gorffennaf, ac sy'n dod i ben ar ddechrau'r tymor cyntaf o'r fath sy'n dechrau ar ôl y mis Gorffennaf canlynol;

ystyr “cofrestr” (“register”) yw'r gofrestr ddisgyblion a gedwir o dan adran 434(4) o Ddeddf 1996 ac yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995(5);

ystyr “cydlynydd gwybodaeth” (“information collator”) yw cydlynydd gwybodaeth yn ystyr adran 537A(9) o Ddeddf 1996, sef unrhyw gorff sydd yn gyfrifol, at ddibenion swyddogaethau addysg Gweinidogion Cymru neu mewn cysylltiad â hwy, am gydlynu neu wirio gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion;

ystyr “cyfeirnod gweithgaredd dysgu” (“learning activity reference”) yw cyfuniad o rifau sydd, ynghyd â llythyren, yn cael eu dyrannu i gwrs astudiaeth neu weithgaredd dysgu arall ac sy'n benodol i'r cwrs hwnnw neu i'r gweithgaredd dysgu hwnnw, ac a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru;

ystyr “cyfnod allweddol” (“key stage”) yw unrhyw un neu rai o'r cyfnodau a nodir ym mharagraffau (a) i (d) yn y drefn honno o adran 103(1) o Ddeddf 2002 ac mae cyfeiriad at gyfnod allweddol un, dau neu dri yn gyfeiriad at y cyfnodau a nodir yn y drefn honno ym mharagraffau (a), (b) ac (c) o adran 103(1) a enwyd eisoes;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(6);

ystyr “disgybl chweched dosbarth” (“sixth form pupil”) yw disgybl mewn ysgol, nad yw'n ysgol arbennig, sy'n cael addysg addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol;

ystyr “dyddiad gwahardd parhaol” (“permanent exclusion date”) yw'r dyddiad y caiff enw disgybl sydd wedi ei wahardd yn barhaol ei ddileu o'r gofrestr;

ystyr “gwybodaeth am ddisgyblion unigol” (“individual pupil information”) yw gwybodaeth yn ystyr adran 537A(9) o Ddeddf 1996, sef gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion neu gyn-ddisgyblion unigol (mewn ysgolion yng Nghymru) ac sy'n eu henwi, p'un ai o dan adran 537A(1) o Ddeddf 1996 y cafwyd yr wybodaeth neu fel arall;

ystyr “GNVQ” (“GNVQ”) yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol;

mae i “plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “child looked after by a local authority” gan adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989(7);

ystyr “Rhif unigryw disgybl” (“unique pupil number”) yw cyfuniad o rifau sydd, ynghyd â llythyren neu lythrennau, yn cael eu dyrannu i ddisgybl ac sy'n benodol i'r disgybl hwnnw, drwy ddefnyddio fformiwla a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru;

mae'r ymadrodd “sesiynau ysgol” (“school sessions”) i'w ddehongli'n unol â rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Diwrnod Ysgol a Blwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003(8);

ystyr “TGAU” (“GCSE”) yw Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd;

ystyr “wedi ei wahardd yn barhaol” (“permanently excluded”) mewn perthynas â disgybl yw disgybl sydd wedi ei wahardd yn barhaol o'r ysgol am resymau disgyblu;

ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, ond nid yw'n cynnwys uned cyfeirio disgyblion; ac

mae i “ysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special school” gan adran 337 o Ddeddf 1996(9).

Ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol yn darparu gwybodaeth ar gyfer eu hawdurdodau addysg lleol

4.  O fewn pedwar diwrnod ar ddeg ar ôl cael cais ysgrifenedig gan yr awdurdod addysg lleol y cynhelir ysgol ganddo, rhaid i'r corff llywodraethu roi i'r awdurdod ar ffurf sy'n ddarllenadwy gan beiriant, drwy wefan ddiogel ar y rhyngrwyd a ddarparwyd at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru, gymaint o'r wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn ag y gofynnir amdani felly.

Personau Rhagnodedig

5.—(1) At ddibenion adran 537A(4) o Ddeddf 1996, mae Gweinidogion Cymru yn rhagnodi'r canlynol yn berson y caniateir iddynt ddarparu ar ei gyfer wybodaeth am ddisgyblion unigol—

(a) unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (2) isod; a

(b) unrhyw berson sy'n perthyn i'r categori y cyfeirir ato ym mharagraff (3) isod.

(2) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) uchod yw—

(a) yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi, neu, yn achos ysgol nas cynhelir felly, awdurdod addysg lleol yr ardal y lleolir ynddi'r ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi;

(b) person sy'n dal Swydd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales;

(c) Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru; ac

(ch) y cwmnïau Gyrfa Cymru a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru o dan adrannau 2, 8 a 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(10).

(3) Y categori y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) uchod yw'r categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol disgyblion ac y mae'n ofynnol iddynt gael gwybodaeth am ddisgyblion unigol i'r diben hwnnw.

(4) At ddibenion adran 537A(5)(b) o Ddeddf 1996, mae Gweinidogion Cymru yn rhagnodi'r canlynol yn berson y caniateir i gydlynydd gwybodaeth roi gwybodaeth iddo am ddisgyblion unigol fel a ganlyn—

(a) unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (6) isod; a

(b) unrhyw berson sy'n perthyn i'r categori y cyfeirir ato ym mharagraff (7) isod.

(5) Yr wybodaeth am ddisgyblion unigol y caniateir i gydlynydd gwybodaeth ei rhoi felly, ar yr adegau y byddo i Weinidogion Cymru benderfynu arnynt, yn unol ag adran 537A(5)(b) o Ddeddf 1996, yw unrhyw wybodaeth o'r fath sy'n ymwneud â chyflawniadau addysgol disgyblion yn y canlynol—

(a) unrhyw asesiad Cwricwlwm Cenedlaethol a wneir o ddisgyblion yng nghyfnod allweddol un, dau neu dri;

(b) unrhyw bynciau TGAU;

(c) unrhyw arholiadau TAG Safon Uwch;

(ch) unrhyw arholiadau TAG Uwch Gyfrannol;

(d) unrhyw bynciau GNVQ; ac

(dd) unrhyw gwrs astudio a ddarperir ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol yn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sy'n gwrs sy'n arwain at gymhwyster a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru neu gan gorff a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(11) (ac eithrio cymhwyster o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) neu (d) uchod).

(6) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(a) uchod yw—

(a) yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi, neu, yn achos ysgol nas cynhelir felly, awdurdod addysg lleol yr ardal y lleolir ynddi'r ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi; a

(b) person sy'n dal Swydd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales.

(7) Y categori y cyfeirir ato ym mharagraff (4)(b) uchod yw'r categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol disgyblion ac y mae'n ofynnol iddynt gael gwybodaeth am ddisgyblion unigol i'r diben hwnnw.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

17 Rhagfyr 2007

(1)

1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan adran 20 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44) ac fe'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraff 153. Back [1]

(2)

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

Fel y'i diwygiwyd gan baragraffau 1 a 56 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) a chan baragraffau 2 a 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Diwygiwyd is-adran (2)(c) gan baragraffau 23(a) a (b) o Atodlen 7 ac Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44). Back [3]

(4)

Diwygiwyd is-adran (4)(c)(i) gan baragraff 111(a) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diddymwyd is-adran (4)(c)(ii) gan baragraff 111(b) o Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Back [4]

(5)

O.S. 1995/2089. Back [5]

(7)

1989 p.41. Diwygiwyd adran 22(1)(b) gan baragraff 19 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), a chan adran 2(1) a (2) o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35), a chan adran 116(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38). Back [7]

(8)

O.S. 2003/3231 (Cy.311). Back [8]

(9)

Amnewidiwyd adran 337 gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Back [9]

(10)

1973 p.50. Amnewidiwyd adran 2 gan adran 25(1) o Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p.19). Diddymwyd adran 2(4) a (6) gan Ran 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p.38). Mewnosodwyd adran 2(3A) a (3B) gan adran 47(1) o Ddeddf Diwygio'r Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19). Amnewidiwyd adrannau 8 a 10 gan adran 45 o Ddeddf Diwygio'r Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993. Back [10]

(11)

2000 p.21. Diddymwyd is-adrannau 6 a 7 gan erthygl 9(1), paragraff 30 o Atodlen 1 i Orchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005, O.S. 2005/3239 (Cy.244). Back [11]