Offerynnau Statudol

2007 Rhif 3462 (Cy.307)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007

Gwnaed

5 Rhagfyr 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Rhagfyr 2007

Yn dod i rym

1 Ionawr 2008

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(2) at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bu'r Rheoliadau canlynol yn cael eu llunio.

RHAN 1 RHAGARWEINIAD

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ionawr 2008.

Dehongli

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “a fewnforir” (“imported”) yw y deuir ag ef i Gymru o le arall heblaw rhan arall o Ynysoedd Prydain;

mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr sydd i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(4);

ystyr “awdurdod bwyd perthnasol” (“relevant food authority”) yw'r awdurdod bwyd y mae amgylchiadau'n codi yn ei ardal sy'n arwain at rwymedigaeth o dan y Rheoliadau hyn i dalu tâl i'r awdurdod hwnnw;

mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 2406/96” (“Regulation 2406/96”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) a “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen;

mae i “cynhyrchion pysgodfeydd” yr ystyr a roddir i “fishery products” ym mhwynt 3.1 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

ystyr “cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol” (“relevant fishery products”) yw cynhyrchion pysgodfeydd—

(a)

a ddaliwyd yn eu hamgylchedd naturiol;

(b)

a fewnforir gan lestr pysgota sy'n cyhwfan baner trydedd wlad;

(c)

nad ydynt wedi bod ar dir cyn cael eu mewnforio; ac

(ch)

a fwriedir i'w rhoi ar y farchnad i'w bwyta gan bobl;

ac eithrio cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol a mewnforion trydydd gwledydd;

ystyr “cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol” (“relevant landed fishery products”) yw cynhyrchion pysgodfeydd —

(a)

a gaiff eu glanio yng Nghymru;

(b)

nad ydynt wedi bod ar dir yn flaenorol; ac

(c)

a fwriedir i'w rhoi ar y farchnad i'w bwyta gan bobl,

ac eithrio cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a mewnforion trydydd gwledydd;

mae'r ymadrodd “gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod” i'w ddehongli'n unol â'r ymadrodd “first sale in a fish market” yn Rheoliad 882/2004;

ystyr “gwerthwr” (“vendor”)

(a)

pan gaiff cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol eu rhoi gyntaf ar y farchnad neu eu gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gan berson arall ar ran perchennog neu feistr llestr, yw'r person arall hwnnw; a

(b)

pan gaiff cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol eu rhoi gyntaf ar y farchnad neu eu gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod mewn unrhyw amgylchiadau eraill, yw perchennog neu feistr y llestr sy'n eu glanio;

ystyr “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) yw mewnforyn y mae tâl yn daladwy mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 54 o Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007(5);

mae i “prosesu” yr ystyr a roddir i (“processing”) ym Mhennod V o Adran B o Atodiad IV i Reoliad 852/2004;

ystyr “pysgod eigionol penodedig” (“specified pelagic fish”) yw —

(a)

penwaig neu ysagadan o'r rhywogaeth Clupea harengus;

(b)

penwaig Mair o'r rhywogaeth Sardinia pilchardus;

(c)

mecryll o'r rhywogaeth Scomber scombrus neu Scomber japonicus;

(ch)

marchfecryll (Trachurus spp.);

(d)

brwyniaid (Engraulis spp.);

(dd)

picarelod o'r rhywogaeth Maena smaris; ac

(e)

corbenwaig o'r rhywogaeth Sprattus sprattus;

mae'r term “rheolaethau swyddogol” (“official controls”) i'w ddehongli'n unol â'r diffiniad o'r term “official control” ym mharagraff 1 o Erthygl 2 o Reoliad 882/2004;

mae i “rhoi gyntaf ar y farchnad” yr ystyr sydd i (“first placing on the market”) yn Rheoliad 882/2004;

mae i “sefydliad” yr ystyr a roddir i (“establishment”) ym mharagraff 1(c) o Erthygl 2 o Reoliad 852/2004;

ystyr “sefydliad prosesu” (“processing establishment”) yw sefydliad lle y mae prosesu'n mynd rhagddo; ac

ystyr “trydedd wlad” (“third country”), ac eithrio yn yr ymadrodd “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) , yw unrhyw wlad neu diriogaeth, heblaw Kalaallit Nunaat (Greenland), nad yw'n Wladwriaeth AEE gyfan neu'n rhan o Wladwriaeth AEE.

(2) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn cael eu neilltuo —

(a) drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(6), i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b) drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(7), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig,

mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u neilltuo felly iddo.

Gwir gostau

3.  At ddibenion y Rheoliadau hyn, gwir gostau arfer rheolaethau swyddogol yw cyfanswm costau'r eitemau a restrir yn Atodiad VI i Reoliad 882/2004 ac a dynnir yn uniongyrchol wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004.

Cyfwerthoedd y bunt â'r Ewro

4.—(1) Bernir bod unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at nifer penodedig o Ewros yn gyfeiriad at gyfwerth mewn punnoedd y nifer hwnnw wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).

(2) Cyfrifir cyfwerth mewn punnoedd nifer penodedig o Ewros drwy luosi'r nifer hwnnw gan y gyfradd gyfnewid Ewro/punt a nodir ym mharagraff (3).

(3) Y gyfradd gyfnewid Ewro/punt yw —

(a) ar gyfer 2008, 1 Ewro = £0.67575; a

(b) ym mhob blwyddyn ddilynol, y gyfradd a gyhoeddir yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd ar ddiwrnod gwaith cyntaf mis Medi y flwyddyn flaenorol neu, os na chyhoeddir cyfradd yn y gyfres ar y diwrnod hwnnw, y gyfradd gyntaf a gyhoeddir yn y gyfres ar ôl hynny.

Cyfnod Cyfrifydda

5.—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, y cyfnod cyfrifydda yw un mis neu unrhyw gyfnod hwy nad yw'n fwy na deuddeng mis fel a benderfynir gan yr awdurdod bwyd perthnasol.

(2) Rhaid penderfynu'r cyfnod cyfrifydda, gan anelu at ostwng costau'r canlynol i swm rhesymol, o'i gymharu â'r taliadau y disgwylir iddynt ddod yn ddyledus, sef —

(a) gwneud datganiadau niferoedd; a

(b) casglu taliadau.

Casglu taliadau

6.  Pan osodir dyletswydd i dalu tâl o dan y Rheoliadau hyn ar y naill neu'r llall o ddau berson caiff yr awdurdod y mae'r tâl yn daladwy iddo ei gasglu —

(a) oddi wrth y ddau ohonynt ar y cyd; neu

(b) oddi wrth y naill neu'r llall ohonynt ar wahân.

Cyfrifo, talu ac ad-dalu taliadau

7.—(1) Pan ddelo'n hysbys i'r awdurdod bwyd perthnasol bod taliad yn ddyledus iddo o dan y Rheoliadau hyn rhaid iddo —

(a) cyfrifo swm y taliad gan roi ystyriaeth i'r wybodaeth sydd ganddo yn ei feddiant; a

(b) rhoi hysbysiad o'r swm a gyfrifwyd felly i unrhyw berson y caniateir ei gasglu oddi wrtho.

(2) Os yw'r awdurdod bwyd perthnasol yn fodlon bod cyfrifiad sydd wedi'i wneud o dan baragraff (1) yn anghywir, rhaid iddo ail-gyfrifo'r taliad ac —

(a) pan fo'r swm cywir yn fwy na'r swm a gyfrifwyd o dan baragraff (1), rhaid iddo gasglu'r swm uchaf yn unol â'r paragraff hwnnw;

(b) pan fo'r swm cywir yn llai na'r swm a gyfrifwyd o dan y paragraff hwnnw ac na fo'r swm hwnnw wedi'i gasglu, rhaid iddo gasglu'r swm lleiaf yn unol â'r paragraff hwnnw; ac

(c) pan na fo swm yn daladwy neu pan fo'r tâl taladwy yn llai na'r swm a gyfrifwyd o dan y paragraff hwnnw, a'r tâl hwnnw wedi'i gasglu, rhaid iddo ad-dalu'r gwahaniaeth.

Apelau

8.—(1) Caiff person apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan yr awdurdod bwyd perthnasol sy'n gosod tâl o dan y Rheoliadau hyn.

(2) Gwrandewir yr apêl gan lys ynadon ac mae adran 37(3), (5) a (6) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys o ran y cyfryw apêl fel y mae'n gymwys mewn perthynas ag apêl o dan adran 37(1)(c) o'r Ddeddf honno.

(3) Ar unrhyw apêl o'r fath caiff y llys —

(a) cadarnhau penderfyniad yr awdurdod bwyd perthnasol;

(b) penderfynu unrhyw dâl sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn; neu

(c) penderfynu nad oes tâl yn daladwy.

(4) Wrth ddisgwyl canlyniad yr apêl bydd swm gwreiddiol y tâl yn parhau'n daladwy, ond os bydd angen ailgyfrifo swm y tâl ar ôl penderfyniad y llys, bydd swm newydd y tâl yn effeithiol o'r dyddiad y gwnaed y tâl gwreiddiol a bydd y swm sy'n hafal i'r swm newydd hwnnw yn daladwy i'r awdurdod bwyd perthnasol.

(5) Os bydd y llys yn penderfynu bod tâl sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn yn llai na'r tâl sydd wedi'i dalu, rhaid i'r awdurdod bwyd perthnasol dalu'r gordal yn ôl i'r apelydd llwyddiannus.

Taliadau sy'n daladwy i fwy nag un awdurdod bwyd

9.  Mewn unrhyw achos o ohirio arfer rheolaethau swyddogol a phan nad yr awdurdod bwyd perthnasol y mae'n ofynnol talu tâl iddo o dan y Rheoliadau hyn (“awdurdod B”) yw'r awdurdod bwyd sy'n gyfrifol am arfer rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 (“awdurdod A”), rhaid i awdurdod B anfon at awdurdod A swm hafal i unrhyw swm a ddaeth i law awdurdod B ac y gellir ei gyfeirio at reolaethau swyddogol a arferir gan awdurdod A.

(2)

O.S 2005/1971. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [2]

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch nifer ac enwau Paneli Gwyddonol parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [3]

(4)

1990 p.16; diwygiwyd adran 5 gan baragraffau 8 a 9 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 ( p. 28). Back [4]

(5)

O.S. 2007/376 (Cy.36), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1710 (Cy.148). Back [5]

(6)

1984 p.22; amnewidwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ( p.16). Back [6]

(7)

1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. Back [7]