Offerynnau Statudol
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Gwnaed
22 Tachwedd 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
23 Tachwedd 2007
Yn dod i rym
18 Rhagfyr 2007
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007 a deuant i rym—
(a) at ddibenion rheoliad 2(3), ar 1 Ionawr 2008; a
(b) at bob diben arall, ar 18 Rhagfyr 2007
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) (3) fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 3, rhodder—
“3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â llwythi—
(a) o blanhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn gyntaf Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb; a
(b) o hadau Solanaceae p'un ai a ydynt wedi'u rhestru yn Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb ai peidio,
sydd wedi'u glanio yng Nghymru o drydedd wlad neu sy'n ddarostyngedig i gytundeb a wnaed o dan erthygl 12(6) o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(4).”.
(3) Yn lle Atodlen 2, rhodder—
Rheoliad 4
| Genws | Nifer | Gwlad tarddiad | Ffi | Ffi (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) |
|---|---|---|---|---|
| Blodau wedi'u torri | ||||
| Dianthus | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 20,000 o ran nifer | Colombia | £0.40 | £0.60 | |
| Ecuador | £1.98 | £2.97 | ||
| Twrci | £3.31 | £4.96 | ||
| Israel | £4.63 | £6.95 | ||
| — am bob 1,000 o unedau ychwanegol neu ran o hynny | Colombia | £0.003 | £0.004 | |
| Ecuador | £0.01 | £0.02 | ||
| Twrci | £0.02 | £0.03 | ||
| Israel | £0.03 | £0.05 | ||
| — uchafbris | Colombia | £3.17 | £4.75 | |
| Ecuador | £15.88 | £23.83 | ||
| Twrci | £26.48 | £39.72 | ||
| Israel | £37.07 | £55.60 | ||
| Rosa | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 20,000 o ran nifer | Ecuador | £0.40 | £0.60 | |
| Colombia, Ethiopia, Kenya | £0.66 | £0.99 | ||
| Uganda, Zambia | £1.32 | £1.98 | ||
| Tanzania | £1.98 | £2.97 | ||
| India, Zimbabwe | £6.62 | £9.93 | ||
| — am bob 1,000 o unedau ychwanegol neu ran o hynny | Ecuador | £0.003 | £0.004 | |
| Colombia, Ethiopia, Kenya | £0.005 | £0.007 | ||
| Uganda, Zambia | £0.01 | £0.015 | ||
| Tanzania | £0.01 | £0.02 | ||
| India, Zimbabwe | £0.05 | £0.07 | ||
| — uchafbris | Ecuador | £3.17 | £4.75 | |
| Colombia, Ethiopia, Kenya | £5.29 | £7.94 | ||
| Uganda, Zambia | £10.59 | £15.89 | ||
| Tanzania | £15.88 | £23.83 | ||
| India, Zimbabwe | £52.96 | £79.44 | ||
| Ffrwythau | ||||
| Malus | Fesul llwyth | |||
| Chile | £0.93 | £1.39 | ||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | Seland Newydd, De Affrica | £1.32 | £1.98 | |
| Yr Ariannin | £1.98 | £2.97 | ||
| Brasil, UDA | £3.31 | £4.96 | ||
| Tsieina | £4.63 | £6.95 | ||
| — am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Chile | £0.03 | £0.05 | |
| Seland Newydd, De Affrica | £0.05 | £0.07 | ||
| Yr Ariannin | £0.07 | £0.11 | ||
| Brasil, UDA | £0.13 | £0.19 | ||
| Tsieina | £0.18 | £0.27 | ||
| Mangifera | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | Brasil | £0.66 | £0.99 | |
| Periw | £6.62 | £9.93 | ||
| — am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Brasil | £0.02 | £0.03 | |
| Periw | £0.26 | £0.39 | ||
| Prunus | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | De Affrica, Twrci | £1.32 | £1.98 | |
| Chile | £1.98 | £2.97 | ||
| Yr Ariannin | £3.31 | £4.96 | ||
| UDA | £6.62 | £9.93 | ||
| — am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | De Affrica, Twrci | £0.05 | £0.07 | |
| Chile | £0.07 | £0.11 | ||
| Yr Ariannin | £0.13 | £0.19 | ||
| UDA | £0.26 | £0.39 | ||
| Pyrus | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | De Affrica | £1.98 | £2.97 | |
| Yr Ariannin | £3.31 | £4.96 | ||
| Chile | £4.63 | £6.95 | ||
| Tsieina | £6.62 | £9.93 | ||
| — am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | De Affrica | £0.07 | £0.11 | |
| Yr Ariannin | £0.13 | £0.19 | ||
| Chile | £0.18 | £0.27 | ||
| Tsieina | £0.26 | £0.39 | ||
| Citrus | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | Moroco, Twrci | £0.66 | £0.99 | |
| UDA | £1.32 | £1.98 | ||
| Uruguay | £1.98 | £2.97 | ||
| Yr Aifft, Israel, Mecsico, Periw | £3.31 | £4.96 | ||
| — am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Moroco, Twrci | £0.02 | £0.03 | |
| UDA | £0.05 | £0.07 | ||
| Uruguay | £0.07 | £0.11 | ||
| Yr Aifft, Israel, Mecsico, Periw | £0.13 | £0.19 | ||
| Momordica | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | Suriname | £6.62 | £9.93 | |
| — am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Suriname | £0.26 | £0.39 | |
| Passiflora | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | Kenya | £1.32 | £1.98 | |
| Colombia | £1.98 | £2.97 | ||
| Zimbabwe | £4.63 | £6.95 | ||
| De Affrica | £6.62 | £9.93 | ||
| — am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Kenya | £0.05 | £0.07 | |
| Colombia | £0.07 | £0.11 | ||
| Zimbabwe | £0.18 | £0.27 | ||
| De Affrica | £0.26 | £0.39 | ||
| Llysiau | ||||
| Solanum melongena | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | Twrci | £3.31 | £4.96 | |
| — am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny | Twrci | £0.13 | £0.19 |
Pan fo cyfanswm unrhyw ffi yn swm sy'n llai na £0.01, mae'r swm hwnnw i'w hepgor.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Tachwedd 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006 (O.S. 2006/2832 (Cy.253)) (“y prif Reoliadau”). Mae'r prif Reoliadau yn rhoi ar waith Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L 169, 10.7.00, t. 1), sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau godi ffioedd i dalu'r costau sy'n digwydd oherwydd gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion ar fewnforion penodol o ran planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o drydydd gwledydd.
Mae'r Rheoliadau hyn: (a) yn ymestyn cymhwysiad y prif Reoliadau at lwythi sydd wedi'u ffurfio o nwyddau sy'n tramwy o fewn y Gymuned Ewropeaidd y cytunodd Gweinidogion Cymru gyda chorff swyddogol pwynt mynediad y nwyddau hyn yn unol â Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643 (Cy.158)), y byddent hwy, Gweinidogion Cymru, yn gyfrifol am faterion penodol; a (b) yn gosod Atodlen 2 newydd yn lle'r un bresennol yn y prif Reoliadau, i roi eu heffaith i'r cyfraddau gostyngol diweddaraf y cytunwyd arnynt ar gyfer arolygiadau o ddeunydd penodol. (Mae Atodlen 2 i'r prif Reoliadau yn cynnwys darpariaeth am gyfraddau gostyngol ar gyfer planhigion penodol a chynhyrchion planhigion penodol a'r rheini'n gyfraddau y cytunwyd arnynt o dan y weithdrefn y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 13d(2) a 18(2) o'r Gyfarwyddeb.) Mae'r newidiadau i'r ffioedd a wneir gan y rheoliadau hyn, sydd wedi'u gosod ar gyfran o'r ffi safonol (a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau) sy'n cyfateb i gyfradd yr arolygiadau, yn seiliedig ar gyfraddau arolygu y cytunwyd arnynt ac a osodir isod:
Cafodd asesiad effaith rheoleiddiol ei baratoi mewn perthynas â rhagflaenydd y prif Reoliadau (O.S. 2006/171 (Cy.22)). Gellir cael copi ohono gan yr Adran dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
| Genws | Gwlad tarddiad | Cyfradd flaenorol yr arolygiadau | Ffi gychwynnola | Cyfradd newydd yr arolygiadau | Ffi gychwynnol, a bennir yn Atodlen 2 |
|---|---|---|---|---|---|
a
Y ffi gychwynnol fesul llwyth ar gyfer blodau wedi'u torri (hyd at 20,000 o ran nifer) a ffrwythau a llysiau (hyd at 25,000 kg o ran pwysau). Gosodir ffioedd cyfatebol yn y Rheoliadau ar gyfer niferoedd ychwanegol, yr uchafbris fesul llwyth ac ar gyfer oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd. |
|||||
b
Mae llwythi sy'n ddarostyngedig i gyfradd arolygu o 100% wedi'u heithrio o'r cynllun cyfraddau arolygu gostyngol ac maent yn ddarostyngedig i'r ffioedd arolygu mewnforio a bennir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau. |
|||||
| Blodau wedi'u torri | |||||
| Aster | Zimbabwe | 50% | £6.62 | 100%b | — |
| Dianthus | Israel | 25% | £3.31 | 35% | £4.63 |
| Dianthus | Moroco | 50% | £6.62 | 100% | — |
| Rosa | Ecuador | 5% | £0.66 | 3% | £0.40 |
| Rosa | Ethiopia | 25% | £3.31 | 5% | £0.66 |
| Rosa | Israel | 10% | £1.32 | 100% | — |
| Rosa | Kenya | 1% | £0.13 | 5% | £0.66 |
| Rosa | Tanzania | 25% | £3.31 | 15% | £1.98 |
| Rosa | Uganda | 5% | £0.66 | 10% | £1.32 |
| Rosa | Zimbabwe | 25% | £3.31 | 50% | £6.62 |
| Ffrwythau | |||||
| Fortunella | Israel | 50% | £6.62 | 100% | — |
| Fortunella | De Affrica | 75% | £9.93 | 100% | — |
| Malus | UDA | 15% | £1.98 | 25% | £3.31 |
| Mangifera | Brasil | 10% | £1.32 | 5% | £0.66 |
| Passiflora | De Affrica | 75% | £9.93 | 50% | £6.62 |
| Prunus | Yr Ariannin | 15% | £1.98 | 25% | £3.31 |
| Prunus | Chile | 10% | £1.32 | 15% | £1.98 |
| Prunus | Twrci | 15% | £1.98 | 10% | £1.32 |
| Prunus | UDA | 35% | £4.63 | 50% | £6.62 |
| Pyrus | Yr Ariannin | 15% | £1.98 | 25% | £3.31 |
| Pyrus | Chile | 25% | £3.31 | 35% | £4.63 |
| Pyrus | De Affrica | 10% | £1.32 | 15% | £1.98 |
| Citrus | Israel | 15% | £1.98 | 25% | £3.31 |
| Citrus | Periw | 75% | £9.93 | 25% | £3.31 |
| Citrus | Twrci | 15% | £1.98 | 5% | £0.66 |
| Citrus | UDA | 15% | £1.98 | 10% | £1.32 |
| Citrus | Zimbabwe | 75% | £9.93 | 100% | — |
| Llysiau | |||||
| Solanum melongena | Twrci | 75% | £9.93 | 25% | £3.31 |