Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 3173 (Cy.278)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Glwten Ŷd a Grawn Bragu) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2007

Gwnaed

7 Tachwedd 2007

Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

30 Tachwedd 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion yr adran honno o ran rheoli a rheoleiddio'r broses o ryddhau'n fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad a rheoli a rheoleiddio'u symudiadau trawsffiniol(2), o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid sy'n cael ei gynhyrchu neu ei fwydo i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd(3), o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd(4) a mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd(5).

Bu ymgynghori agored a thryloyw yn ystod gwaith paratoi'r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(6) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Glwten Ŷd a Grawn Bragu) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2007, deuant i rym ar 30 Tachwedd 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2.  Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Glwten Ŷd a Grawn Bragu) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2005(7) wedi'u dirymu.

Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004

3.—(1) Mae'r testun Saesneg o Reoliad 8 (arolygu, atafaelu a dal gafael ar fwyd anifeiliaid a amheuir) o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004(8) wedi'i ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2) Ym mharagraff (5), yn lle'r ymadrodd “Subject to paragraphs (5A), (5B) and (6)” rhodder yr ymadrodd “Subject to paragraph (6)”.

(3) Mae paragraffau (5A) a (5B) wedi'u hepgor.

Diwygiad canlyniadol i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006

4.  Yn Atodlen 2 (diffiniad o gyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol) i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006(9), mae paragraff (dd) wedi'i hepgor.

G. Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

7 Tachwedd 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Glwten Ŷd a Grawn Bragu) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (O.S. 2005/1323 (Cy.97)), ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004 (O.S. 2004/3221 (Cy.277)) a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/590 (Cy.66)).

2.  Mae'r Rheoliadau yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2007/157/EC sy'n diddymu Penderfyniad 2005/317/EC ar fesurau brys ynglyn â'r organedd a addaswyd yn enetig anawdurdodedig Bt 10 mewn cynhyrchion indrawn. (OJ Rhif L68, 8.3.2007, t.8).

3.  Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer y Rheoliadau hyn, gan na ragwelir y byddant yn effeithiol o gwbl ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.

(2)

O.S. 2003/2901. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y dynodiad hwn a'r tri dynodiad arall y cyfeiriwyd atynt i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]

(3)

O.S. 2005/1971. Back [3]

(4)

O.S. 2005/2766. Back [4]

(5)

O.S. 2003/1246. Back [5]

(6)

OJ RhifL31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf ar y dyddiad y gwnaed yr offeryn hwn gan Reoliad (EC) Rhif575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [6]

(7)

O.S. 2005/1323 (Cy.97). Back [7]

(8)

O.S. 2004/3221 (Cy.277). Cafodd y testun Saesneg o'r offeryn hwnnw ei ddiwygio gan O.S. 2005/1323 (Cy.97), ac mae'r Rheoliadau hyn yn awr yn dirymu'r diwygiadau hynny. Back [8]

(9)

O.S. 2006/590 (Cy.66). Back [9]