Offerynnau Statudol

2007 Rhif 3070 (Cy.264)

ANIFEILIAID, CYMRU

LLES ANIFEILIAID

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (Wales)

Gwnaed

23 Hydref 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Medi 2007

Yn dod i rym

24 Hydref 2007

Gweinidogion Cymru, o ran Cymru, yw'r awdurdod cenedlaethol priodol at ddibenion arfer y pwerau a roddwyd gan adran 12(1), (2) a (3) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(1), ac maent yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau hynny.

Yn unol ag adran 12(6) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori fel yr ystyrient yn briodol â'r personau hynny yr ymddangosai iddynt oedd yn cynrychioli buddiannau y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy.

Yn unol ag adran 61(2) o'r Ddeddf honno, mae drafft o'r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo trwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007. Maent yn gymwys o ran Cymru; ac maent yn dod i rym ar 24 Hydref 2007.

Diffiniadau a dehongli

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am anifeiliaid neu â gofal ohonynt, p'un ai ar sail barhaol neu dros dro;

ystyr “iâr ddodwy” (“laying hen”) yw iâr o'r rhywogaeth Gallus gallus sydd wedi cyrraedd aeddfedrwydd dodwy ac a gedwir ar gyfer cynhyrchu wyau na fwriedir iddynt ddeor;

ystyr “llaesodr” (“litter”), mewn perthynas â ieir dodwy, yw unrhyw ddefnydd hyfriw sy'n galluogi'r ieir i ddiwallu eu hanghenion etholegol;

ystyr “lle y gellir ei ddefnyddio” (“usable area”) yw lle a ddefnyddir gan ieir dodwy, nad yw'n cynnwys y lle a gymerir gan nyth, sydd â'i led yn 30 cm o leiaf a goleddf ei lawr heb fod yn fwy na 14% ac sy'n 45 cm o uchder o leiaf;

ystyr “llo” (“calf”) yw anifail buchol hyd at chwe mis oed;

ystyr “mochyn” (“pig”) yw anifail o'r rywogaeth y mochyn o unrhyw oedran a gedwir ar gyfer bridio neu besgi;

ystyr “nyth” (“nest”) yw lle ar wahân ar gyfer dodwy wyau, sef lle na chaiff cydrannau ei lawr gynnwys rhwyllau gwifrog a all ddod i gysylltiad â'r adar, ar gyfer iâr unigol neu grwp o ieir;

mae i'r ymadrodd “person sy'n gyfrifol” am anifail yr ystyr a roddir i “person responsible” yn adran 3 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.

(2) Mae i ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, nas diffinnir yn y Rheoliadau hyn ac a ddefnyddir yn y Cyfarwyddebau canlynol, yr ystyr sydd iddo yn y Cyfarwyddebau hynny—

(a) mewn perthynas â moch, Cyfarwyddebau 91/630/EEC(2), 2001/88/EC(3) a 2001/93/EC(4);

(b) mewn perthynas â ieir dodwy, Cyfarwyddeb 99/74/EC(5); ac

(c) mewn perthynas â lloi, Cyfarwyddebau 91/629/EEC(6), 97/2/EC(7) a 97/182/EC(8).

(3) Mae i ymadrodd a ddefnyddir yn rheoliad 4 neu Atodlen 1, nas diffinnir yn y Rheoliadau hyn ac sy'n ymddangos yng Nghyfarwyddeb 98/58/EC(9), yr un ystyr sydd iddo at ddibenion y Gyfarwyddeb honno.

Anifeiliaid y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

3.—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i anifeiliaid a ffermir yn unig.

(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “anifail a ffermir” (“farmed animal”) yw anifail a fridiwyd neu a gedwir ar gyfer cynhyrchu bwyd, gwlân neu grwyn neu at ddibenion ffermio eraill, ond heb gynnwys—

(a) pysgod, ymlusgiaid neu amffibiaid;

(b) unrhyw anifail tra bo mewn cystadleuaeth, sioe neu ddigwyddiad neu weithgaredd diwylliannol neu chwaraeol, neu anifail a fwriedir yn unig i'w ddefnyddio ar gyfer hynny;

(c) anifail arbrofol neu anifail labordy; neu

(ch) anifail sy'n byw yn y gwyllt.

Dyletswyddau ar bersonau sy'n gyfrifol am anifeiliaid a ffermir

4.—(1) Rhaid i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod yr amodau y mae'r anifail yn cael ei fridio neu ei gadw odanynt yn cydymffurfio ag Atodlen 1.

(2) Wrth gydymffurfio â'r ddyletswydd ym mharagraff (1), rhaid i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir roi sylw i'w—

(a) rhywogaeth;

(b) gradd ei datblygiad;

(c) ei addasiad a'i ddofiad; ac

(ch) ei anghenion seicolegol ac etholegol yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol.

Dyletswyddau ychwanegol ar bersonau sy'n gyfrifol am ddofednod, ieir dodwy, lloi, gwartheg, moch neu gwningod

5.—(1) Rhaid i berson sy'n gyfrifol am—

(a) dofednod (ac eithrio'r rheini a gedwir yn y systemau cyfeirir atynt yn Atodlenni 2 i 4) a gedwir mewn adeilad sicrhau y cânt eu cadw ar laesodr, neu y gallant bob amser fynd at laesodr sydd wedi ei gynnal yn dda, neu fan sydd wedi ei ddraenio'n dda ar gyfer gorffwys;

(b) ieir dodwy a gedwir mewn sefydliadau a chanddynt 350 neu fwy o ieir gydymffurfio ag Atodlenni 2, 3, 4 a 5, fel y bo'n gymwys;

(c) lloi a gaethiwir ar gyfer eu magu a'u pesgi gydymffurfio ag Atodlen 6;

(ch) gwartheg gydymffurfio ag Atodlen 7;

(d) moch, yn ddarostyngedig i baragraff (2), gydymffurfio â Rhan 2 o Atodlen 8 a phan fo'n gymwys, â gofynion Rhannau 3, 4, 5 a 6 o Atodlen 8; neu

(dd) cwningod gydymffurfio ag Atodlen 9.

(2) Mae paragraffau 12, 28, 29 a 30 o Atodlen 8 yn gymwys i bob daliad yr adeiledir o'r newydd, yr ailadeiledir neu y dechreuir ei ddefnyddio am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Ionawr 2003, ond yn achos pob daliad arall nid yw'r paragraffau hynny yn gymwys tan 1 Ionawr 2013.

(3) Mae Rhan 1 o Atodlen 8 yn effeithiol.

Codau Ymarfer

6.—(1) Rhaid i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir —

(a) peidio â gofalu am yr anifail onid yw'n gyfarwydd â'r cod ymarfer perthnasol a bod y cod ar gael iddo tra'n gofalu am yr anifail; a

(b) cymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw person a gyflogir ganddo, neu a gymerir i weithio ganddo, yn gofalu am yr anifail oni bai bod y person arall hwnnw—

(i) yn gyfarwydd ag unrhyw god ymarfer perthnasol;

(ii) bod y cod ar gael iddo tra'n gofalu am yr anifail; a

(iii) ei fod wedi cael hyfforddiant ac arweiniad ar y cod hwnnw.

(2) Yn yr adran hon, ystyr “cod ymarfer perthnasol” (“relevant code of practice”) yw cod ymarfer a gyhoeddwyd o dan adran 14 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 neu god ymarfer statudol a gyhoeddwyd o dan adran 3 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968(10) mewn perthynas â'r rhywogaeth benodol o anifeiliaid a ffermir y mae'r person yn gofalu amdanynt.

Tramgwyddau

7.  Mae person yn cyflawni tramgwydd os yw, heb awdurdod neu esgus cyfreithlon —

(a) yn torri neu'n peidio â chydymffurfio â dyletswydd yn rheoliad 4, 5 neu 6;

(b) yn rhoi unrhyw eitem mewn cofnod neu'n rhoi unrhyw wybodaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn y mae'n gwybod ei bod yn anwir mewn unrhyw fanylyn o bwys neu, at y dibenion hynny, yn gwneud datganiad neu'n rhoi gwybodaeth yn ddi-hid a'r datganiad hwnnw neu'r wybodaeth honno'n anwir mewn unrhyw fanylyn o bwys; neu

(c) yn achosi neu'n caniatáu unrhyw un o'r uchod.

Erlyniadau

8.—(1) Caiff awdurdod lleol ddwyn achos i erlyn am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd mai hwy, ac nid yr awdurdod lleol, fydd yn dwyn achos i erlyn am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol.

Cosbau

9.—(1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 7 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod—

(a) i garchar am gyfnod heb fod yn hwy na 51 wythnos;

(b) i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol; neu

(c) i'r cyfnod o garchar y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn ogystal â'r ddirwy y cyfeirir ati yn is-baragraff (b).

(2) Mewn perthynas â thramgwydd a gyflawnwyd cyn cychwyn adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003(11), rhaid deall y cyfeiriad ym mharagraff (1)(a) at 51 wythnos fel cyfeiriad at 6 mis.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

23 Hydref 2007

(1)

2006 p.45. Mae'r swyddogaethau a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [1]

(2)

OJ Rhif L340, 11.12.91, t 33 Back [2]

(3)

OJ Rhif L316, 1.12.2001, t 1 Back [3]

(4)

OJ Rhif L316, 1.12.2001, t 36 Back [4]

(5)

OJ Rhif L203, 3.8.99, t 53 Back [5]

(6)

OJ Rhif L340, 11.12.91, t 28 Back [6]

(7)

OJ Rhif L25, 28.1.97, t 24 Back [7]

(8)

OJ Rhif L76, 18.3.97, t 30 Back [8]

(9)

OJ Rhif L221, 8.8.98, t 23 Back [9]

(10)

1968 p. 34. Back [10]