Offerynnau Statudol
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Gwnaed
8 Hydref 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Hydref 2007
Yn dod i rym
31 Hydref 2007
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) mewn perthynas â mesurau ynghylch—
(a) y gofyniad am asesiad o'r effaith ar yr amgylchedd a fyddai gan brosiectau sy'n debyg o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd(2); a
(b) cadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(3).
Maent yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno:
1972 p. 68. Cafodd pwerau galluogi adran 2(2) o'r Ddeddf hon eu hestyn yn sgil diwygio adran 1(2) gan adran 1 o Ddeddf yr Ardal Economaidd Ewropeaidd 1993 (p. 51). Back [1]
O.S. 2001/2555 mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â'r gofyniad am asesiad o'r effaith ar yr amgylchedd a fyddai gan brosiectau sy'n debyg o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd. Back [2]
O.S. 2000/248 mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â chadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt. Back [3]