Offerynnau Statudol

2007 Rhif 2611 (Cy.222)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007

Gwnaed

6 Medi 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Medi 2007

Yn dod i rym

1 Hydref 2007

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Hydref 2007.

Dehongli

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr sydd i “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o'r Ddeddf;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

ystyr “y Rheoliad” (“the Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar honiadau am faethiad ac iechyd a wneir am fwydydd(3).

(2) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Rheoliad yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliad hwnnw.

(3) Mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliad.

Awdurdodau Cymwys

3.  Yr awdurdod cymwys at ddibenion y Rheoliad —

(a) o ran Erthyglau 1(4), 15(2), 16(2) a 18(2) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd, a

(b) o ran Erthygl 6(3) yw —

(i) pob awdurdod iechyd porthladd yn ei ddosbarth, a

(ii) y tu allan i'r cyfryw ddosbarthau, pob awdurdod bwyd yn ei ardal.

Gorfodi

4.  Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth a phob awdurdod bwyd o fewn ei ardal weithredu a gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliad.

Tramgwyddau a Chosbau

5.—(1) Yn ddarostyngedig i'r rhanddirymiad a geir yn Erthygl 1(3) (ynghylch nodau masnach etc) ac i'r mesurau trosiannol a geir yn Erthygl 28, mae unrhyw berson sydd yn mynd yn groes i ddarpariaethau'r Rheoliad a bennir ym mharagraff (2) neu sy'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn atebol —

(a) o'i gollfarnu ar dditiad i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu i'r ddau.

(b) o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau.

(2) Dyma'r darpariaethau a bennir—

(a) Erthygl 3 (gofynion cyffredinol ynghylch pob honiad);

(b) Erthygl 4(3) (cyfyngiadau ar honiadau a all gael eu gwneud am ddiodydd alcoholaidd);

(c) Erthygl 6(2) (gofyniad i gyfiawnhau defnyddio honiadau);

(ch) Erthygl 7 (gofynion ar gyfer gwybodaeth faethol);

(d) Erthygl 8(1) (gofynion ar gyfer honiadau maethol);

(dd) Erthygl 9 (gofynion ar gyfer honiadau cymharol);

(e) Erthygl 10(1), (2) a (3) (gofynion ar gyfer honiadau am iechyd);

(f) Erthygl 12 (gwahardd honiadau penodol am iechyd); ac

(ff) Erthygl 14(2) (gofynion ar gyfer honiadau i leihau risg clefydau).

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf

6.  Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a) adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b) adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(ch) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;

(d) adran 22 (amddiffyn cyhoeddi yng nghwrs busnes);

(dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e) adran 34 (terfyn amser ar gyfer erlyn);

(f) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(ff) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd); ac

(g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Rhwystro swyddogion a darparu gwybodaeth etc

7.—(1) Bydd unrhyw berson sydd —

(a) yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith; neu

(b) heb achos rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw yn rhesymol ofyn amdano,

yn euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i gyfnod yn y carchar na fydd yn hwy na thri mis neu i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i'r ddau.

(2) Bydd unrhyw berson sydd, yn cydymffurfio'n honedig ag unrhyw ofyniad a grybwyllir ym mharagraff (1)(b), gan wybod neu yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys, yn euog o dramgwydd ac yn atebol —

(a) o'i gollfarnu ar dditiad i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu i'r ddau.

(b) o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau;

(3) Ni chaniateir dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.

Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd

8.—(1) Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(4) o ran Cymru yn unol â pharagraff (2).

(2) Ar ôl paragraff (4) o reoliad 41, mewnosoder y paragraff a ganlyn—

(5) Nothing in regulation 40 or in Schedule 6 or 8 operates to prohibit or, as the case may be, restrict a claim made in accordance with the conditions of Regulation (EC) 1924/2006 of the European Parliament and of the Council on nutrition and health claims made on foods(5).

G. Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

6 Medi 2007

(1)

1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 ac Atodlen 11, paragraff 30 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [2]

(3)

Mae testun diwgiedig y Rheoliad hwn bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L12, 18.1.2007, t.3). Back [3]

(4)

O.S. 1996/1499. Cafwyd diwygiadau ir Rheoliadau hyn, ond nid ydynt yn berthnasol. Back [4]

(5)

Ceir testun diwgiedig y Rheoliad hwn bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L12, 18.1.2007, t.3). Back [5]