Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2007.

(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 14 Awst 2007.

(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg (ond heb gynnwys buail a iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;

ystyr “arwerthiant defaid magu yn yr hydref” (“sheep autumn breeding sale”) yw crynhoad anifeiliaid a gynhelir rhwng 1 Awst a 31 Rhagfyr at y prif ddiben o werthu defaid bridio;

ystyr “crynhoad anifeiliaid” (“animal gathering”) yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi ynghyd at un neu fwy o'r dibenion canlynol —

(a)

gwerthiant, sioe neu arddangosfa;

(b)

traddodi llwyth o anifeiliaid ymlaen o fewn Prydain Fawr;

(c)

archwiliad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol;

mae “cyfarpar” (“equipment”) yn cynnwys llociau a chlwydi;

ystyr “diheintydd a gymeradwywyd” (“approved disinfectant”) yw diheintydd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(2);

mae i “man i anifeiliaid” (“animal area”) yr ystyr a roddir yn erthygl 5(3)(c);

ystyr “mangre drwyddedig” (“licensed premises”) yw mangre a drwyddedwyd o dan erthygl 5;

ystyr “palmantog” (“paved”) yw arwyneb o sment, concrid, asffalt neu ddeunydd caled anhydrin arall y gellir ei lanhau a'i ddiheintio'n effeithiol.

Hysbysiadau a thrwyddedau

3.—(1) O ran hysbysiad neu drwydded o dan Gorchymyn hwn —

(a) rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig;

(b) gellir eu diwygio, eu hatal dros dro, neu eu dirymu drwy hysbysiad a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol; ac

(c) cânt fod yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau y mae'r arolygydd milfeddygol yn barnu bod eu hangen i atal cyflwyno clefyd i'r fangre drwyddedig neu i atal lledaenu clefyd o fewn y fangre drwyddedig neu'r tu allan iddi.

(2) Ond nid yw'r erthygl hon yn gymwys i hysbysiad neu drwydded a roddir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 8.

Eithriadau

4.  Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys—

(a) os yr un person sy'n berchen ar bob anifail y daethpwyd ag ef i'r crynhoad;

(b) os bydd yr anifeiliaid i gyd yn dod o un set o fangreoedd y mae Gweinidogion Cymru wedi ei awdurdodi fel grwp meddiannaeth unigol o dan Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003(3); ac

(c) os bydd y crynhoad anifeiliaid yn digwydd ar fangre y mae perchennog yr anifeiliaid yn berchen arni neu'n ei meddiannu.

Defnyddio mangreoedd ar gyfer crynoadau anifeiliaid

5.—(1) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw fangre ar gyfer crynhoad anifeiliaid oni bai bod y fangre honno wedi ei thrwyddedu i'r perwyl hwnnw gan arolygydd milfeddygol.

(2) Rhaid i gais am drwydded fod yn ysgrifenedig.

(3) Rhaid i drwydded bennu—

(a) enw'r trwyddedai;

(b) y fangre lle y caniateir crynhoi'r anifeiliaid; ac

(c) y man y caniateir i'r anifeiliaid fynd iddo (“y man i anifeiliaid”).

Cyfyngiad o 27 o ddiwrnodau ar gynnal crynhoad anifeiliaid

6.  Yn ddarostyngedig i erthyglau 7 ac 8, ni chaiff neb ganiatáu crynhoad anifeiliaid ar fangre y mae anifeiliaid wedi cael eu cadw arni nes bydd 27 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers y diwrnod—

(a) y gadawodd yr anifail olaf y fangre honno; a

(b) ar ôl i'r anifail olaf adael y fangre, pan fydd yr holl gyfarpar y daeth yr anifeiliaid i gysylltiad ag ef wedi ei lanhau fel nad oes unrhyw halogiad gweladwy.

Esemptiad ar gyfer mangre sydd â man palmantog i anifeiliaid

7.—(1) Nid yw'r cyfyngiadau yn erthygl 6 yn gymwys os yw'r man i anifeiliaid yn y fangre drwyddedig wedi cael ei balmantu, ac os yw wedi cael ei lanhau a'i ddiheintio a bod gwastraff wedi cael ei waredu oddi yno yn unol â'r erthygl hon cyn bod crynhoad pellach o anifeiliaid yn cael ei gynnal.

(2) O ran y gwaith glanhau a diheintio—

(a) rhaid iddo beidio â dechrau nes bydd pob anifail wedi ei symud o'r rhan honno o'r man i anifeiliaid sy'n cael ei glanhau a'i diheintio; a

(b) rhaid iddo gael ei gwblhau ar ôl i'r anifail olaf adael y fangre drwyddedig a chyn i grynhoad anifeiliaid gael ei gynnal eto ar y fangre.

(3) Rhaid ysgubo neu grafu'n lân bob rhan o'r man i anifeiliaid (yn cynnwys unrhyw gyfarpar), a'i glanhau drwy ei golchi a'i diheintio â diheintydd a gymeradwywyd.

(4) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod yr holl fwyd anifeiliaid y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, a'r holl sarn, y dom a'r deunydd arall sy'n dod o anifeiliaid ac halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid sydd yn y man i anifeiliaid—

(a) yn cael eu difa,

(b) yn cael eu trin er mwyn sicrhau nad oes perygl y byddant yn trosglwyddo clefydau; neu

(c) yn cael eu gwaredu fel nad yw anifeiliaid yn gallu mynd atynt,

cyn gynted ag y bo modd a chyn i anifeiliaid gael mynd i mewn i'r fangre drwyddedig eto.

(5) Os, ar ôl yr achlysur diwethaf pan gafodd y man i anifeiliaid ei lanhau a'i ddiheintio yn unol â'r erthygl hon, y'i halogir â thom anifeiliaid neu ddeunydd arall sy'n dod o anifeiliaid neu unrhyw halogyn sy'n dod o anifeiliaid, rhaid ysgubo neu grafu'n lân y man i anifeiliaid neu'r rhannau hynny ohono sydd wedi eu halogi felly, a'u glanhau drwy olchi a thrwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd cyn i unrhyw anifail gael mynd i'r fangre drwyddedig eto.

(6) Pan na fo cyfres o grynoadau anifeiliaid, sy'n cael eu cynnal ar fangre sydd â man palmantog i anifeiliaid, yn para'n hwy na chyfanswm o 48 awr, caiff y crynoadau hynny eu trin fel un crynhoad anifeiliaid.

Esemptiad ar gyfer arwerthiannau defaid magu yn yr hydref

8.—(1) Os bydd gan fangre drwyddedig fan palmantog i anifeiliaid, yn achos arwerthiant defaid magu yn yr hydref, caiff y trwyddedai wneud cais i Weinidogion Cymru am drwydded ychwanegol—

(a) i ganiatáu bod defaid yn yr arwerthiant defaid magu yn yr hydref yn gallu mynd y tu allan i'r man palmantog i anifeiliaid; a

(b) i gynnal crynhoad anifeiliaid pellach o fewn 27 o ddiwrnodau o ddiwedd yr arwerthiant defaid magu yn yr hydref.

(2) Rhaid i'r drwydded bennu'r man y tu allan i'r man palmantog i anifeiliaid y caiff y defaid fynd iddo a'r dyddiad pan ganiateir y mynediad hwnnw.

(3) Rhaid i'r drwydded beidio â chaniatáu mynediad i unrhyw ran o'r man y tu allan i'r man palmantog fwy nag unwaith bob 27 o ddiwrnodau.

(4) Rhaid i'r drwydded bennu'r mesurau bioddiogelwch y mae'n rhaid eu rhoi ar waith.

(5) Nid yw'r drwydded yn effeithio ar unrhyw grynhoad anifeiliaid a gynhelir yn y cyfnod o 27 o ddiwrnodau ar ôl diwedd yr arwerthiant defaid magu yn yr hydref sydd yn digwydd yn unig ar y man palmantog i anifeiliaid y mae erthygl 7 yn gymwys iddo.

(6) Rhaid i unrhyw gais a wneir i Weinidogion Cymru o dan baragraff (1)—

(a) bod yn ysgrifenedig;

(b) datgan dyddiad arfaethedig yr arwerthiant defaid magu yn yr hydref;

(c) datgan dyddiad arfaethedig unrhyw grynhoad anifeiliaid y mae'r trwyddedai am ei gynnal o fewn 27 o ddiwrnodau o ddiwedd yr arwerthiant defaid magu yn yr hydref a natur y crynhoad anifeiliaid hwnnw; ac

(ch) dod i law Gweinidogion Cymru o leiaf bedair wythnos cyn dechrau'r arwerthiant defaid magu yn yr hydref.

(7) O ran unrhyw drwydded a ddyroddir o dan yr erthygl hon—

(a) rhaid iddi fod yn ysgrifenedig; a

(b) caniateir ei diwygio, ei hatal dros dro, neu ei dirymu drwy hysbysiad a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Terfynau amser

9.—(1) Rhaid i grynhoad anifeiliaid a gynhelir at ddibenion gwerthiant (boed y gwerthiant yn unig ddiben neu beidio) ar fangre sydd â man palmantog i anifeiliaid neu arwerthiant defaid magu yn yr hydref a drwyddedwyd o dan erthygl 8 beidio â phara am fwy na 48 awr, gan ddechrau ganol dydd.

(2) Caiff arolygydd milfeddygol drwy hysbysiad estyn cyfnod crynhoad anifeiliaid o dan baragraff (1) os yw'r arolygydd milfeddygol wedi'i fodloni—

(a) bod angen yr estyniad er lles yr anifeiliaid; neu

(b) mai bach yw'r perygl o gyflwyno clefydau yn y gwerthiant ac o ledaenu clefydau wedi hynny.

(3) Yn achos crynhoad anifeiliaid nad yw paragraff (1) yn gymwys iddo, os un o ddibenion y crynhoad yw crynhoi anifeiliaid ynghyd i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr, rhaid i'r crynhoad beidio â phara am fwy na 48 awr, gan ddechrau ganol dydd.

Newid ar amser dechrau crynoadau anifeiliaid at ddibenion gwerthu

10.—(1) Yn achos crynhoad anifeiliaid a gynhelir at ddibenion gwerthiant (boed y gwerthiant yn unig ddiben neu beidio) ar fangre sydd â man palmantog i anifeiliaid neu arwerthiant defaid magu yn yr hydref a drwyddedwyd o dan erthygl 8, caiff y trwyddedai newid yr amser dechrau am ganol dydd, drwy o leiaf bythefnos ymlaen llaw—

(a) hysbysu Gweinidogion Cymru yn ogystal â'r awdurdod lleol o ddyddiad ac amser dechrau a diweddu'r crynhoad anifeiliaid neu'r arwerthiant defaid magu yn yr hydref; a

(b) rhoi cyhoeddusrwydd i'r crynhoad anifeiliaid neu'r arwerthiant defaid magu yn yr hydref fel y bydd y sawl sy'n dod ag anifeiliaid yno yn cael gwybod am yr amser dechrau a diweddu newydd.

(2) Os yw'r crynoadau anifeiliaid yn un o gyfres o grynoadau o'r fath, caniateir i'r hysbysiad a'r cyhoeddusrwydd fod ar gyfer y gyfres honno.

Gwerthiant cigydda dynodedig a chasgliadau cigydda dynodedig

11.—(1) Ni chaiff neb gynnal gwerthiant cigydda dynodedig neu gasgliad cigydda dynodedig onid yw ar fangre sydd â man palmantog i anifeiliaid.

(2) Ni chaiff neb gynnal gwerthiant cigydda dynodedig neu gasgliad cigydda dynodedig fel rhan o grynhoad anifeiliaid sy'n cael ei gynnal at unrhyw ddiben arall.

(3) Rhaid i'r trwyddedai hysbysu Gweinidogion Cymru a'r awdurdod lleol fod y trwyddedai yn bwriadu cynnal gwerthiant cigydda dynodedig neu gasgliad cigydda dynodedig o leiaf 3 diwrnod cyn y gwerthiant neu'r casgliad.

(4) Rhaid i'r trwyddedai roi cyhoeddusrwydd i'r crynhoad anifeiliaid fel bod y sawl sy'n dod ag anifeiliaid iddo yn cael gwybod ei fod yn werthiant cigydda dynodedig neu'n gasgliad cigydda dynodedig.

(5) Yn yr erthygl hon—

(a) ystyr “gwerthiant cigydda dynodedig” yw achlysur pan grynhoir anifeiliaid ynghyd at ddibenion gwerthiant cyn eu traddodi ymlaen yn uniongyrchol i'w cigydda ym Mhrydain Fawr;

(b) ystyr “casgliad cigydda dynodedig” yw achlysur pan grynhoir anifeiliaid ynghyd at ddibenion eu traddodi ymlaen yn uniongyrchol i'w cigydda ym Mhrydain Fawr.

Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid

12.  Pan gynhelir crynhoad anifeiliaid (heblaw mewn sioe neu arddangosfa) mae darpariaethau'r Atodlen (gofynion ynghylch crynhoad anifeiliaid) yn effeithiol.

Cyfyngiadau yn dilyn crynhoad anifeiliaid

13.—(1) Mae darpariaethau'r erthygl hon yn gymwys unwaith y bydd yr anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid wedi gadael y fangre drwyddedig.

(2) Ni chaiff neb ganiatáu i anifeiliaid fynd ar y fangre drwyddedig hyd nes bydd pob cyfarpar y daeth yr anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef yn y crynhoad wedi'i lanhau fel nad oes arno halogiad gweladwy.

(3) Ni chaiff neb symud o'r fangre drwyddedig unrhyw gyfarpar y daeth anifeiliaid mewn crynhoad anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef—

(a) onid yw'r halogion gweladwy wedi eu glanhau oddi ar y cyfarpar ac onibai bod cyfnod o 27 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers i'r anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid adael y fangre drwyddedig; neu

(b) oni chafodd y cyfarpar ei ysgubo a'i grafu'n lân, ac yna ei lanhau drwy ei olchi a'i ddiheintio â diheintydd a gymeradwywyd.

Gorfodi

14.—(1) Rhaid i'r Gorchymyn hwn gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, o ran achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, mai Gweinidogion Cymru, ac nid yr awdurdod lleol, sydd i weithredu'r swyddogaeth orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan yr erthygl hon.

Dirymu

15.  Dirymir Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2004(4).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

14 Awst 2007

(1)

1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [1]

(2)

O.S. 1978/32 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf o ran Cymru gan O.S. 2006/3166 (Cy.291). Back [2]

(3)

O.S. 2003/1966 (Cy.211), fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2006/179 (Cy.30) ac O.S. 2006/1036 (Cy. 106). Back [3]

(4)

O.S. 2004/1803 (Cy.191). Back [4]

Amended by correction slip on 01 October 2007