Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 2371 (Cy.194)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Diwygio Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 3) 2007

Wedi'i wneud

8 Awst 2007

Yn dod i rym

29 Awst 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau sydd wedi'u breinio ynddynt hwy(1) gan adrannau 121(5) a 122(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 3) 2007 a daw i rym ar 29 Awst 2007.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005

2.  Yn yr Atodlen i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005 (3), hepgorer y geiriau “Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog”.

Rosemary Thomas

Pennaeth yr Is-adran Gynllunio, o dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Gynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

8 Awst 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r trefniadau trosiannol a wnaed o dan Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005 (“Gorchymyn Rhif 4”) i ben o ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (“yr Awdurdod”).

O dan y trefniadau hynny, gall pob awdurdod cynllunio lleol a restrir yn yr Atodlen i Orchymyn Rhif 4 barhau â'r broses sy'n arwain yn y pendraw i fabwysiadu ei gynllun datblygu unedol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn hytrach na gorfod dechrau gweithio ar baratoi cynllun datblygu lleol o dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.

Mae'r Gorchymyn hwn yn tynnu'r Awdurdod oddiar y rhestr o awdurdodau cynllunio lleol yn yr Atodlen i Orchymyn Rhif 4 ac felly yn gosod yr Awdurdod o dan ddyletswydd i baratoi cynllun datblygu lleol ar gyfer ei ardal.

(1)

Mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [1]

(3)

O.S. 2005/2722 (Cy.193) (C.110), a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/842 (Cy.72), 2006/1700 (Cy.162), 2006/3119 (Cy.289), 2007/546 (Cy.48) a 2007/1023 (Cy.92). Back [3]