Offerynnau Statudol

2007 Rhif 2333 (Cy.191)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2007

Wedi'u gwneud

8 Awst 2007

Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Awst 2007

Yn dod i rym

4 Medi 2007

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd(2) ac o ran mesurau sy'n ymwneud â bwydydd (gan gynnwys diodydd) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol bwydydd(3).

Cafwyd ymgynghori cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod gwaith paratoi'r Rheoliadau canlynol yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(4) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 4 Medi 2007.

(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001(5).

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau 2001

2.—(1) Diwygir Rheoliadau 2001 fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1), yn lle diffiniadau “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000”, “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000”, “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001”, “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001”, “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002” a “Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999”(6) rhodder y diffiniadau canlynol—

ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000” (“Commission Regulation (EC) No. 1622/2000”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000 (7) sy'n nodi rheolau manwl penodol ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin a sefydlu cod Cymunedol ar arferion a phrosesau gwinyddol, a rhaid dehongli'r cyfeiriadau yn Atodlenni 2 a 5 at “Reoliad 1622/2000” yn unol â hynny;;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000” (“Commission Regulation (EC) No. 1623/2000”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000(8) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin o ran mecanweithiau'r farchnad, a rhaid dehongli'r cyfeiriad yn Rhan I o Atodlen 2 at “Reoliad 1623/2000” yn unol â hynny;;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001” (“Commission Regulation (EC) No. 883/2001”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001(9) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 o ran masnach gyda thrydydd gwledydd mewn cynhyrchion yn y sector gwin, a rhaid dehongli'r cyfeiriad yn Rhan V o Atodlen 2 at “Reoliad 883/2001” yn unol â hynny;;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001” (“Commission Regulation (EC) No. 884/2001”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001(10) sy'n gosod rheolau cymhwyso manwl ynghylch y dogfennau sydd i fynd gyda'r cynhyrchion gwin wrth iddynt gael eu cludo, a'r cofnodion sydd i'w cadw yn y sector gwin, a rhaid dehongli'r cyfeiriad yn Rhan I o Atodlen 2 at “Reoliad 884/2001” yn unol â hynny;;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002” (“Commission Regulation (EC) No. 753/2002”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002(11) sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 o ran disgrifio, dynodi, cyflwyno a diogelu cynhyrchion penodol y sector gwin;;

ystyr “Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999” (“Council Regulation (EC) No. 1493/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999(12) ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, a rhaid dehongli'r cyfeiriadau yn Atodlenni 2 a 5 at “Reoliad 1493/1999” yn unol â hynny;.

(3) Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

(4) Yn Atodlen 3, mewnosoder y cofnodion canlynol yn y mannau priodol—

Enw'r Amrywogaeth Enwau cyfystyr Lliw'r grawnwin
Acolon Du
Cabernet Sauvignon Du
Frühburgunder Pinot Noir Précoce Du
Merlot Du

(5) Yn Atodlen 5 hepgorer—

(a) paragraff 2; a

(b) brawddeg gyntaf paragraff 7.

(6) Yn Atodlen 6(13), hepgorer y cofnod yng ngholofnau 1 a 2 o'r tabl sy'n ymwneud â chyfanswm echdyniad sych (a geir drwy ddwysfesureg).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

8 Awst 2007

(2)

O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [2]

(3)

O.S. 2003/2901. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [3]

(4)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [4]

(5)

O.S. 2001/2193 (Cy.155) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/1776 (Cy.192), O.S. 2004/2599 (Cy.232) ac O.S. 2006/1716 (Cy.178). Back [5]

(6)

Mewnosodwyd y diffiniad o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/99 yn Rheoliadau 2001 gan O.S. 2004/2599 (Cy.232) a'i ddisodli wedyn gan O.S. 2006/1716 (Cy.178). Mewnosodwyd y diffiniadau o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002 yn Rheoliadau 2001 gan O.S. 2006/1716 (Cy.178). Back [6]

(7)

OJ Rhif L 194, 31.7.2000, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 389/2007 (OJ Rhif L 97, 12.4.2007, t.5). Back [7]

(8)

OJ Rhif L 194, 31.7.2000, t.45, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2016/2006 (OJ Rhif L 384, 29.12.2006, t.38). Back [8]

(9)

OJ Rhif L 128, 10.5.2001, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2016/2006. Back [9]

(10)

OJ Rhif L 128, 10.5.2001, t.32, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2016/2006. Back [10]

(11)

OJ Rhif L 118, 4.5.2002, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 382/2007 (OJ Rhif L 95, 5.4.2007, t.12). Back [11]

(12)

OJ Rhif L 179, 14.7.1999, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t.1). Back [12]

(13)

Mewnosodwyd Atodlen 6 gan O.S. 2004/2599 (Cy.232). Back [13]