Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 2332 (Cy.190)

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) (Diwygio) 2007

Gwnaed

7 Awst 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Awst 2007

Yn dod i rym

7 Medi 2007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 2(4) a 2(8) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 7 Medi 2007.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002(2).

Diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002

3.—(1) Yn rheoliad 3(3)(f) o'r Prif Reoliadau hepgorer y geiriau “neu berson arall”.

(2) Yn rheoliad 4(1)(b) o'r Prif Reoliadau hepgorer y geiriau “neu berson arall”.

(3) Yn rheoliad 4A o'r Prif Reoliadau hepgorer y geiriau “neu berson arall”.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

7 Awst 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Gwneir y rheoliadau hyn o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac maent yn diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002. Maent yn diwygio'r eithriadau ar gyfer cofrestru fel ysbyty annibynnol, clinig annibynnol ac fel asiantaeth feddygol annibynnol drwy dynnu'r geiriau “neu berson arall” o reoliadau 3(3)(f), 4(1)(b) and 4A.

(1)

2000 p.14. Rhoddir y pwerau i'r “appropriate Minister”. Ystyr “Appropriate Minister” o ran Cymru yw'r Cynulliad: gweler adran 121(1) o'r Ddeddf. Trosglwyddir y pwerau i Weinidogion Cymru gan adran 162 a pharagraff 30 o atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru .2006 (P.32). Back [1]

(2)

O.S. 2002/325 (Cy.38), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/1703 (Cy.165). Back [2]