Page 1 of 1
Offerynnau Statudol
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
3 Gorffennaf 2007
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Gorffennaf 2007
Yn dod i rym
31 Gorffennaf 2007
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 16(1), 17(2), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2) cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2007.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001(3) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 2(1) (Dehongli), yn lle'r diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn” rhodder
“ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2007 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94 sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy ac ar gyfer Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 ar ddiogelu dynodiadau a ddefnyddir wrth farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth(4);”.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
3 Gorffennaf 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn” a geir yn Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru 2001 (O.S. 2001/1361), “Rheoliadau 2001;”
2. Wrth ddiwygio'r diffiniad hwnnw yn Rheoliadau 2001, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2007 sy'n gosod rheolau manwl penodedig ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94 sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy ac ar gyfer Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 ar ddiogelu dynodiadau a ddefnyddir yn y rheoliad ar farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L106, 24.4.2007, t.24). Dirymodd Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2007 Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 577/97 fel y'i diwygiwyd, gan gymryd ei lle heb ddiwygiad pellach.
3. Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer y Rheoliadau hyn, gan na ragwelir y byddant yn effeithio o gwbl ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.
1990 p. 16. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Secretary of State”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S 1999/672 fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28). Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae'r swyddogaethau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn i'w harfer gan Weinidogion Cymru. Back [1]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf adeg gwneud y Rheoliadau hyn gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [2]
O.S. 2001/1361 (Cy.89). Back [3]
OJ Rhif L106, 24.4.2007, p.24. Back [4]