Page 1 of 1
Offerynnau Statudol
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Wedi'u gwneud
19 Mehefin 2007
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Mehefin 2007
Yn dod i rym
13 Gorffennaf 2007
Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56 o Ddeddf Cyllid 1973(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Pasbortau Planhigion) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 13 Gorffennaf 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdodiad” (“authority”) yw awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir o dan erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006(2) neu, yn ôl y digwydd, o dan erthygl 29 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(3); a
mae i'r ymadrodd “pasbort planhigion” (“plant passport”) yr ystyr a roddir iddo gan—
erthygl 2 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 o ran awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwnnw; neu
erthygl 2(1) o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 o ran awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwnnw.
3.—(1) Rhaid talu'r ffi a bennir ym mharagraff (2) i Weinidogion Cymru o ran unrhyw arolygiad (gan gynnwys gwiriad o gofnodion busnes) sy'n cael ei gynnal mewn cysylltiad ag—
(a) cais am awdurdodiad; neu
(b) sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw ofynion a osodir ar ddeiliad awdurdodiad yn rhinwedd erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 neu erthygl 29 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006.
(2) Y ffi yw £20.25 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr y mae arolygydd yn ei dreulio ar y safle gyda lleiafswm o £40.50 o ran unrhyw ymweliad.
4. Dirymir y Rheoliadau canlynol i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru—
(a) Rheoliadau Pasbortau Planhigion (Ffioedd Iechyd Planhigion) (Cymru a Lloegr) 1993(4); a
(b) Rheoliadau Pasbortau Planhigion (Ffioedd Iechyd Planhigion) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1997(5).
Jane Davidson
Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwleidig un o Weinidogion Cymru
19 Mehefin 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhagnodi ffioedd o ran arolygiadau a wneir at ddibenion rhoi awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion (gan gynnwys gwirio cofnodion busnes) o dan naill ai Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643 (Cy. 158)) neu Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 (O.S. 2004/1344 (Cy. 134)) (“y Gorchmynion”).
O dan y Gorchmynion, mae'n ofynnol i blanhigion rhestredig penodol, cynhyrchion planhigion penodol a gwrthrychau eraill gael pasbort planhigion ar gyfer symud o fewn y Gymuned Ewropeaidd gan gynnwys unrhyw fasnachu o fewn y Deyrnas Unedig. Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi cynhyrchwyr, masnachwyr a mewnforwyr deunyddiau o'r fath i ddyroddi pasbortau planhigion. Mae'r broses awdurdodi ddechreuol yn golygu arolygu'r fangre a'r deunydd planhigion rhestredig ac mae'n cynnwys gwirio cofnodion busnes a chaniateir cynnal arolygiadau pellach ar ôl rhoi'r awdurdodiad er mwyn sicrhau cydymffurfedd â gofynion perthnasol.
Pennir y ffioedd sy'n daladwy o ran y cyfryw arolygiadau yn rheoliad 3(2).
Mae rheoliad 4 yn dirymu Rheoliadau Pasbortau Planhigion (Ffioedd Iechyd Planhigion) (Cymru a Lloegr) 1993 (O.S. 1993/1642) a Rheoliadau Pasbortau Planhigion (Ffioedd Iechyd Planhigion) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/1961). Nid oes newid yn lefel y ffioedd a geir yn O.S. 1997/1961 ond maent yn awr yn gymwys hefyd i awdurdodiadau o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006.
Paratowyd Arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.