Offerynnau Statudol

2007 Rhif 1763 (Cy.153)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) 2007

Wedi'u gwneud

19 Mehefin 2007

Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Mehefin 2007

Yn dod i rym

13 Gorffennaf 2007

Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973(1), ac a freiniwyd ynddynt bellach:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) 2007.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Gorffennaf 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006

2.—(1) Diwygir Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006(2) fel a ganlyn.

(2) Yn Atodlen 1, mewnosoder “, neu ran o hynny” ar ôl y geiriau canlynol bob tro y maent yn ymddangos: “am bob 100 o unedau ychwanegol”, “am bob 1,000 o unedau ychwanegol”, “am bob 10 kg ychwanegol”, “am bob 100 kg ychwanegol”, “am bob 1,000 kg ychwanegol” ac “am bob 25,000 kg ychwanegol”.

(3) Yn lle Atodlen 2, rhodder—

Rheoliad 4

ATODLEN 2 FFIOEDD AROLYGU MEWNFORIO (CYFRADDAU GOSTYNGOL)

Genws Nifer Gwlad tarddiad Ffi sFfi (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd)
Blodau wedi'u torri
Aster Fesul llwyth
— hyd at 20,000 o ran nifer Zimbabwe £6.62 £9.93
— am bob 1,000 o unedau ychwanegol neu ran o hynny Zimbabwe £0.05 £0.07
— uchafbris Zimbabwe £52.96 £79.44
Dianthus Fesul llwyth
— hyd at 20,000 o ran nifer Colombia £0.40 £0.60
Ecuador £1.98 £2.97
Israel, Twrci £3.31 £4.96
Moroco £6.62 £9.93
— am bob 1,000 o unedau ychwanegol neu ran o hynny Colombia £0.003 £0.004
£0.01 £0.02
Israel, Twrci £0.02 £0.03
Moroco £0.05 £0.07
— uchafbris Colombia £3.17 £4.75
Ecuador £15.88 £23.83
Israel, Twrci £26.48 £39.72
Moroco £52.96 £79.44
Rosa Fesul llwyth
— hyd at 20,000 o ran nifer Kenya £0.13 £0.19
Colombia, Ecuador, Uganda £0.66 £0.99
Israel, Zambia £1.32 £1.98
Ethiopia, Tanzania, Zimbabwe £3.31 £4.96
India £6.62 £9.93
— am bob 1,000 o unedau ychwanegol neu ran o hynny Kenya £0.001 £0.002
Colombia, Ecuador, Uganda £0.005 £0.007
Israel, Zambia £0.01 £0.015
Ethiopia, Tanzania, Zimbabwe £0.02 £0.03
India £0.05 £0.07
— uchafbris Kenya £1.06 £1.59
Colombia, Ecuador, Uganda £5.29 £7.94
Israel, Zambia £10.59 £15.89
Ethiopia, Tanzania, Zimbabwe £26.48 £39.72
India £52.96 £79.44
Ffrwythau
Malus Fesul llwyth
Chile £0.93 £1.39
— hyd at 25,000 kg o ran pwysau Seland Newydd, De Affrica £1.32 £1.98
Yr Ariannin, UDA £1.98 £2.97
Brasil £3.31 £4.96
Tsieina £4.63 £6.95
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Chile £0.03 £0.05
Seland Newydd, De Affrica £0.05 £0.07
Yr Ariannin, UDA £0.07 £0.11
Brasil £0.13 £0.19
Tsieina £0.18 £0.27
Mangifera Fesul llwyth
— hyd at 25,000 kg o ran pwysau Brasil £1.32 £1.98
Periw £6.62 £9.93
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Brasil £0.05 £0.07
Periw £0.26 £0.39
Prunus Fesul llwyth
— hyd at 25,000 kg o ran pwysau Chile, De Affrica £1.32 £1.98
Yr Ariannin, Twrci £1.98 £2.97
UDA £4.63 £6.95
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Chile, De Affrica £0.05 £0.07
Yr Ariannin, Twrci £0.07 £0.11
UDA £0.18 £0.27
Pyrus Fesul llwyth
— hyd at 25,000 kg o ran pwysau De Affrica £1.32 £1.98
Yr Ariannin £1.98 £2.97
Chile £3.31 £4.96
Tsieina £6.62 £9.93
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny De Affrica £0.05 £0.07
Yr Ariannin £0.07 £0.11
Chile £0.13 £0.19
Tsieina £0.26 £0.39
Citrus Fesul llwyth
— hyd at 25,000 kg o ran pwysau Moroco £0.66 £0.99
Israel, Twrci, Uruguay, UDA £1.98 £2.97
Yr Aifft, Mecsico £3.31 £4.96
Periw, Zimbabwe £9.93 £14.89
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Moroco £0.02 £0.03
Israel, Twrci, Uruguay, UDA £0.07 £0.11
Yr Aifft, Mecsico £0.13 £0.19
Periw, Zimbabwe £0.39 £0.58
Fortunella Fesul llwyth
— hyd at 25,000 kg o ran pwysau De Affrica £9.93 £14.89
Israel £6.62 £9.93
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny De Affrica £0.39 £0.58
Israel £0.26 £0.39
Momordica Fesul llwyth
— hyd at 25,000 kg o ran pwysau Suriname £6.62 £9.93
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Suriname £0.26 £0.39
Passiflora Fesul llwyth
— hyd at 25,000 kg o ran pwysau Kenya £1.32 £1.98
Colombia £1.98 £2.97
Zimbabwe £4.63 £6.95
De Affrica £9.93 £14.89
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Kenya £0.05 £0.07
Colombia £0.07 £0.11
Zimbabwe £0.18 £0.27
De Affrica £0.39 £0.58
Llysiau
Solanum melongena Fesul llwyth
— hyd at 25,000 kg o ran pwysau Twrci £9.93 £14.89
— am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Twrci £0.39 £0.58

Os yw cyfanswm unrhyw ffi yn swm sy'n llai na £0.01, mae'r swm hwnnw i'w hepgor..

Jane Davidson

Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig un o Wenidogion Cymru

19 Mehefin 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006 (O.S. 2006/2832 (Cy. 253)) (“y prif Reoliadau”). Mae'r prif Reoliadau yn rhoi ar waith Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L 169, 10.7.00, t. 1), sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau godi ffioedd i dalu'r costau sy'n digwydd oherwydd gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion ar fewnforion penodol o ran planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o drydydd gwledydd.

Mae Atodlen 2 i'r prif Reoliadau yn cynnwys darpariaeth am gyfraddau gostyngol ar gyfer planhigion penodol a chynhyrchion planhigion penodol a'r rheini'n gyfraddau y cytunwyd arnynt o dan y weithdrefn y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 13d(2) a 18(2) o'r Gyfarwyddeb. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi Atodlen 2 newydd i'r prif Reoliadau yn lle'r hen un, i roi ei effaith i'r cytundeb diweddaraf mewn perthynas â ffioedd cyfradd ostyngol.

(1)

1973 p. 51. Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pwer hwn yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p. 32). Back [1]

(2)

O.S. 2006/2832 (Cy. 253). Back [2]