Offerynnau Statudol

2007 Rhif 1086 (Cy.115)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau'r Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

28 Mawrth 2007

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)

Go to Explanatory Note

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2) ynghyd â'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 100 a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(3), ac yntau wedi ymgynghori fel sy'n ofynnol gan adran 100(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000:

(1)

1989 p.42; diwygiwyd adran 18 gan Ddeddf yr Heddlu a Llysoedd Ynadon 1994 (p.29), Atodlen 4, paragraff 37; Deddf Addysg 1996 (p.56), Atodlen 37, paragraff 97; a Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), adran 99. Back [1]

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Back [2]

(3)

2000 p.22; yn rhinwedd adran 106(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, mae adran 105 yn effeithiol, pan yw'n gymwys o ran Cymru, fel pe rhoddid yn lle unrhyw gyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Back [3]