Offerynnau Statudol
COMISIYNYDD PLANT,CYMRU
Wedi'u gwneud
27 Mawrth 2007
Yn dod i rym
1 Ebrill 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118(7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddi(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Penodi) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Comisiynydd” (“the Commissioner”) yw Comisiynydd Plant Cymru(2)
ystyr “y cyfnod cychwynnol” yw (“the initial period”) fel y'i diffinnir yn adran 161(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(3);
ystyr “y Prif Ysgrifennydd” (“the First Secretary”) yw'r person a etholir o dro i dro yn Brif Ysgrifennydd y Cynulliad yn unol ag adran 53(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4);
ystyr “y Prif Weinidog” (“the First Minister”) yw'r person a benodi'r o dro i dro yn Brif Weinidog Cymru yn unol ag adran 46 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
ystyr “plant perthnasol” (“relevant children”) yw unrhyw blant sy'n preswylio yng Nghymru sy'n cael eu dethol at ddibenion penodiad penodol—
yn y fath fodd ag y gellid ei benderfynu gan y pwyllgor perthnasol yn unol â chylch gwaith y pwyllgor, neu
yn absenoldeb penderfyniad o'r fath, yn y fath fodd ag y caiff y Prif Ysgrifennydd ei benderfynu;
ystyr “pwyllgor perthnasol” (“relevant committee”) yw unrhyw bwyllgor y gellid ei sefydlu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dro i dro o dan adran 54(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 er mwyn darparu cyngor a phenderfynu materion sy'n berthnasol i benodi'r Comisiynydd.
(4) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad —
(a) at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(b) mewn rheoliad at baragraff â rhif, yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y rhif hwnnw.
2. Diwygier Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Penodi) 2000(5) yn unol â rheoliadau 3 i 6 o'r Rheoliadau hyn.
3. Yn rheoliad 1(2), yn yr adran ddehongli, ychwaneger y diffiniadau canlynol yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor:—
“ystyr “y Prif Weinidog” (“the First Minister”) yw'r person a benodi'r o dro i dro yn Brif Weinidog Cymru yn unol ag adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(6);”
ystyr “y cyfnod cychwynnol” yw “the initial period” fel y'i diffinnir yn adran 161(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
4. Rhodder y rheoliad canlynol yn lle rheoliad 2:—
2.—(1) Hyd at ddiwedd y cyfnod cychwynnol caiff y Comisiynydd ei benodi gan y Prif Ysgrifennydd.
(2) Dim ond ar ôl cymryd y canlynol i ystyriaeth y caiff y Comiiynydd ei benodi o dan baragraff (1)—
(a) cyngor pwyllgor perthansol,
(b) barn plant perthnasol ynghylch unrhyw ymgeiswyr a gaiff eu cyfweld ar gyfer y penodiad, ac
(c) cyngor unrhyw banel dewis, a sefydlwyd er mwyn cyfweld ymgeiswyr, ynghylch eu priodoldeb ar gyfer y penodiad.
(3) Ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnool, caiff y Comisiynydd ei benodi gan y Prif Weinidog.
(4) Ni ellir penodi'r Comisiynydd o dan baragraff (3) ond ar ôl cymryd y canlynol i ystyriaeth—
(a) barn y plant perthnasol am unryw ymgeiswyr y cyfwelir ar gyfer y penodiad, a
(b) cyngor unrhyw banel dewis, a sefydlwyd at ddiben cyfweld ag ymgeiswyr ynghylch eu priodoldeb ar gyfer y penodiad.
(5) Yn ddarostyngedig i reoliad 3, cyfnod swydd y Comisiynydd a benodir o dan y Rheoliadua hyn yw saith mlynedd.
(6) Ni fydd y Comisiynydd yn gymwys i gael ei ailbenodi pan ddaw cyfnod y swydd i ben neu os terfynir hi cyn hynny.”
5. Rhodder y rheoliad canlynol yn lle rheoliad 3:—
“3.—(1) Hyd at ddiwedd y cyfnod cychwynnol caiff y Prif Ysgrifennydd ryddhau'r Comisiynydd o'i swydd cyn i gyfnod y swydd ddod i ben—
(a) ar gais y Comisiynydd,
(b) ar sail camymddwyn,
(c) os bydd wedi'i fodloni nad yw'r Comisiynydd yn alluog oherwydd gwendid meddyliol neu gorfforol i gyflawni swyddogasethau'r Comisiynydd.
(2) Ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol caiff unrhyw swyddogaethau a oedd yn arferadwy yn union cyn diwedd y cyfnod cychwynnol gan y Prif Ysgrifennydd o dan baragraff (1) eu harfer gan y Prif Weinidog.”
6. Ychwaneger y rheoliad canlynol yn union ar ôl rheoliad 4.—(1)
“(2) Mae unrhyw beth a gaiff ei wneud gan y Prif Ysgrifennydd o dan y Rheoliadau hyn i'w drin ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol fel pe bai wedi cael ei wneud gan y Prif Weinidog.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Mawrth 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi Comisiynydd Plant Cymru sef swydd a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Mae'r Rheoliadau'n diwygio Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Penodi) 2000 o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth amgen ar gyfer penodi Comisiynydd a'i ryddhau o'i swydd gan ddibynnu ar pryd y mae'r penodi neu'r rhyddhau o'r swydd yn digwydd. Mae'r Rheoliadau'n cymryd i ystyriaeth newidiadau sydd i gael eu gwneud yn effeithiol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a'u bwriad yw sicrhau na fydd y newidiadau hyn yn peri bod oedi neu aflonyddwch wrth benodi'r Comisiynydd.
Mae'r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau er mwyn darparu y gall y Comisiynydd gael ei benodi gan Brif Ysgrifennydd y Cynulliad, fel y'i diffinnir yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998, os caiff y penodiad ei wneud cyn bod Prif Weinidog newydd yn cael ei benodi o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Dim ond wrth ddilyn cyngor gan unrhyw bwyllgor o'r Cynulliad a sefydlwyd er mwyn cynghori ynghylch y penodiad, ar ôl i ymgeiswyr gael eu cyfweld gan banel dewis, ynghylch eu priodoldeb i gael eu penodi, y gall penodiad gael ei wneud yn ystod y cyfnod yma. Mae'r Prif Ysgrifennydd o dan ddyletswydd hefyd i gymryd i ystyriaeth farn plant yng Nghymru ynghylch y penodiad arfaethedig.
Yn dilyn penodi Prif Weinidog newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 penodir y Comisiynydd gan y Prif Weinidog, heb gyngor gan y pwyllgor perthnasol, ond ar ôl i'r Prif Weinidog gymryd i ystyriaeth farn plant yng Nghymru, a chyngor unrhyw banel dewis.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnod y swydd, a'r amgylchiadau pan ellir rhyddhau'r Comisiynydd o'i swydd. Hyd nes y penodir Prif Weinidog newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gellir rhyddhau'r Comisiynydd o'i swydd gan y Prif Ysgrifennydd. Ar ôl penodi Prif Weinidog newydd gellir rhyddhau'r Comisiynydd o'i swydd gan y Prif Weinidog.
O ran eglurder ynghylch cyfrifoldeb cyfreithiol ar gyfer arfer swyddogaethau gan y Prif Ysgrifennydd, mae'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaeth atodol i ymdrin â swyddogaethau sy'n cael eu harfer felly fel petaent yn swyddogaethau sy'n cael eu harfer gan y Cynulliad o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Mae'r Rheoliadau'n darparu hefyd y bydd unrhyw beth a wneir gan y Prif Ysgrifennydd yn union cyn penodi Prif Weinidog newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cael ei drin ar ôl penodi'r Prif Weinidog fel pe bai wedi cael ei wneud gan y Prif Weinidog.