Offerynnau Statudol
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
27 Mawrth 2007
Yn dod i rym
1 Ebrill 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 129 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2007 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Rheoliadau Optegol” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2).
2. Yn rheoliad 19 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio)—
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “£49.20” rhodder “£50.50”; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle “£12.70” rhodder “£13.00”.
3.—(1) Yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau Optegol (codau llythrennau talebau a gwerth taleb ar yr wyneb — cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) o'r tabl (gwerth tabl ar yr wyneb), am bob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir ar ei gyfer yng ngholofn (2) o'r tabl isod yn ei le.
| (1) | (2) |
|---|---|
| Swm blaenorol | Swm newydd |
| £33.70 | £34.60 |
| £51.20 | £52.60 |
| £74.90 | £76.90 |
| £169.10 | £173.70 |
| £58.20 | £59.80 |
| £74.00 | £76.00 |
| £95.90 | £98.50 |
| £185.90 | £190.90 |
| £173.20 | £177.90 |
| £49.20 | £50.50 |
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Optegol (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bychain ac arbennig a theclynnau cymhleth)—
(a) ym mharagraff (1)(1)(a), yn lle “£11.00” rhodder “£11.30”.
(b) ym mharagraff (1)(1)(b), yn lle “£13.10” rhodder “£13.50”;
(c) ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£3.70” rhodder “£3.80”.
(ch) ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.20” rhodder “£4.30”;
(d) ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£55.50”, “£49.20” a “£26.60” rhodder “£57.00”, “£50.50” a “£27.30” yn eu trefn;
(dd) ym mharagraff (1)(1)(g), yn lle “£55.50” rhodder “£57.00”;
(e) ym mharagraff (2)(a), yn lle “£12.70” rhodder “£13.00”; ac
(f) ym mharagraff (2)(b), yn lle “£32.10” rhodder “£33.00”.
(3) Yn lle Atodlen 3 i'r Rheoliadau Optegol (gwerth talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 newydd a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
4. Dim ond o ran taleb a gafodd ei derbyn neu ei defnyddio ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r Rheoliadau Optegol y bydd y symiau newydd a fewnosodir gan reoliadau 2 a 3 yn gymwys.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
Rheoliad(3)(3)
Regulation 19(2) and (3)
| (1) | (2) | ||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Nature of Repair | Letter of Codes — Values | ||||||||
| A | B | C | D | E | F | G | H | I | |
| £ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | |
| Repair or replacement of one lens | 10.80 | 19.80 | 31.95 | 80.35 | 23.40 | 31.50 | 42.75 | 88.95 | 82.45 |
| Repair or replacement of two lenses | 21.60 | 39.60 | 63.90 | 160.70 | 46.80 | 63.00 | 85.50 | 177.90 | 164.90 |
| Repair or replacement of: | |||||||||
| The front of a frame | 11.05 | 11.05 | 11.05 | 11.05 | 11.05 | 11.05 | 11.05 | 11.05 | 11.05 |
| A side of a frame | 6.55 | 6.55 | 6.55 | 6.55 | 6.55 | 6.55 | 6.55 | 6.55 | 6.55 |
| The whole frame | 13.00 | 13.00 | 13.00 | 13.00 | 13.00 | 13.00 | 13.00 | 13.00 | 13.00.” |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y Rheoliadau Optegol”) sy'n darparu ar gyfer gwneud taliadau drwy gyfrwng system dalebau o ran costau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 19 i gynyddu gwerth adbrynu taleb a ddyroddir tuag at gost ailosod un lens gyffwrdd ac i gynyddu uchafswm y cyfraniad drwy daleb tuag at gost trwsio ffrâm.
Mae rheoliad 3 a'r Atodlen yn diwygio'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol i gynyddu gwerth talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod sbectolau a lensys cyffwrdd, i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau ac i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir at drwsio ac ailosod teclynnau optegol. Tua 2.7% yw graddfa'r cynnydd yn y talebau yn y Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gosod cost ar fusnes.
2006 p.42. Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf at “Welsh Ministers” i fod yn effeithiol tan ddiwedd y cyfnod cychwynnol, o fewn ystyr Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a grewyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), yn rhinwedd adran 5 a pharagraff 10 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p.43). Back [1]
O.S. 1997/818, fel y'i ddiwygiwyd. Back [2]