Offerynnau Statudol

2007 Rhif 1026 (Cy.93)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2007

Wedi'u gwneud

27 Mawrth 2007

Yn dod i rym

28 Mawrth 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 76, 77 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2007 a deuant i rym ar 28 Mawrth 2007.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986

2.—(1) Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(2) wedi'u diwygio yn unol â'r ddarpariaeth a ganlyn yn y rheoliad hwn.

(2) Yn rheoliad 10(1) (y Datganiad) —

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”) er mwyn darparu, pan fo dyfarniad yn cael ei wneud am lwfansau sydd i'w talu mewn perthynas â thaliadau addysg barhaus a hyfforddiant, gellir gwneud taliadau o ran cyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad cynt na dyddiad y dyfarniad.

(2)

O.S. 1986/975. Back [2]