Offerynnau Statudol

2007 Rhif 972 (Cy.88)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

21 Mawrth 2007

Yn dod i rym

1 Mai 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 69(3) a (4) a 138 (7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ac wedi dilyn y weithdrefn a bennir yn Rheoliadau Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (y Weithdrefn Ddynodi) 1998(3).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 2007.

(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mai 2007.

(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2.  Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn cymryd lle Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999(4), a Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol a Diwygiadau (Cymru) 2004 (5).

Dehongli

3.  Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y grefydd neu'r enwad crefyddol perthnasol” (“the relevant religion or religious denomination”) yw'r grefydd neu'r enwad crefyddol y mae'n ofynnol, neu y gall fod yn ofynnol, darparu addysg grefyddol mewn ysgol yn unol â'i daliadau neu â'i ddaliadau yn unol ag Atodlen 19 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(6).

Dynodi'r Ysgolion

4.—(1) Dynodir yr ysgolion a restrir yn Yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn ysgolion sydd â chymeriad crefyddol.

(2) Y grefydd neu'r enwad crefyddol perthnasol mewn perthynas ag ysgol a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yw—

(a) Yr Eglwys yng Nghymru, yn achos ysgol a restrir yn Rhan I o'r Atodlen;

(b) Yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yn achos ysgol a restrir yn Rhan II o'r Atodlen; ac

(c) Ysgol Gatholig Rufeinig ac Anglicanaidd, yn achos ysgol a restrir yn Rhan III o'r Atodlen.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2007

Erthygl 4

YR ATODLEN

RHAN I YSGOLION SYDD Å CHYMERIAD CREFYDDOL YR EGLWYS YNG NGHYMRU

AALl Rhif AALl Rhif yr Ysgol Enw'r Ysgol
YSGOLION CYNRADD GWIRFODDOL A GYNORTHWYIR
Gwynedd
661 3305 Ysgol Beuno Sant
Conwy
662 3302 Ysgol Bodafon
662 3307 Ysgol San Siôr
662 3340 Ysgol Y Plas
Sir Ddinbych
663 Ysgol Trefnant
Sir y Fflint
664 3303 Ysgol Yr Esgob — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir
664 3316 Ysgol Trelawnyd — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir
664 3317 Ysgol y Rheithor Drew — Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir
664 3320 Ysgol Y Llan, Chwitffordd — Ysgol Gynradd Wirfoddol
664 3330 Ysgol Gynradd Sant Ethelwold
664 3331 Ysgol Gynradd Pentrobin
Wrecsam
665 3043 Ysgol Gynradd Sant Paul — Ysgol Gynradd Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru a Gynorthwyir
665 3301 Ysgol Gynradd Bronington
665 3305 Ysgol Gynradd Madras
665 3326 Ysgol Gynradd Hanmer
665 3337 Ysgol Gynradd Minera
665 3338 Ysgol Gynradd yr Holl Seintiau, Gresffordd
665 3341 Ysgol Gynradd y Santes Fair (Rhiwabon)
665 3342 Ysgol Gynradd y Santes Fair (a Gynorthwyir)
665 3346 Ysgol y Santes Fair — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru (a Gynorthwyir)
Powys
666 3300 Llanfihangel yng Ngwynfa
666 3301 Ysgol Sant Mihangel — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru (a Gynorthwyir)
666 3303 Ysgol Llansanffraid — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru (a Gynorthwyir)
666 3314 Ysgol y Clas-ar-Wy — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru (a Gynorthwyir)
666 3316 Ysgol Llanbedr — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru (a Gynorthwyir)
666 3317 Ysgol yr Archddiacon Griffiths — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
666 3318 Ysgol y Priordy — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
Ceredigion
667 3317 Ysgol Gynradd Gymorthedig Llanwenog
Sir Benfro
668 3310 Ysgol Dewi Sant — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir
668 3315 Ysgol Sant Aidan — Ysgol Gynradd Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru a Gynorthwyir
668 3320 Ysgol Sant Marc — Ysgol Gynradd Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru a Gynorthwyir
668 3321 Ysgol Sant Oswald — Ysgol Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru a Gynorthwyir
Sir Gaerfyrddin
669 3302 Llanfynydd — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir
669 3307 Ysgol Wirfoddol Penboyr
669 3321 Ysgol Pentip — Ysgol Gynradd Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru a Gynorthwyir
669 3322 Ysgol Model — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
Abertawe
670 3306 Ysgol Christchurch — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
Castell-nedd Port Talbot
671 3311 Ysgol Bryncoch — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
671 3313 Ysgol yr Henadur Davies — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
Pen-y-bont ar Ogwr
672 3323 Ysgol yr Archddiacon John Lewis — Ysgol Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru a Gynorthwyir
Bro Morgannwg
673 3320 Ysgol Saint-y-brid — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
673 3321 Ysgol Wick a Marcross — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
673 3363 Ysgol Pendeulwyn — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
673 3364 Ysgol Sant Andras — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
673 3365 Ysgol Llansanwyr — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
673 3367 Ysgol Dewi Sant — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
673 3372 Ysgol yr Holl Seintiau — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
Rhondda Cynon Taf
674 3317 Ysgol Tref Aberdâr — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
674 3319 Ysgol Cwmbach — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
Blaenau Gwent
677 3309 Ysgol y Santes Fair Brynmawr — Ysgol Gynradd Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru
Tor-faen
678 3002 Ysgol Ponthir — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
678 3330 Ysgol yr Henllys — Ysgol Gynradd Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru a Gynorthwyir
Sir Fynwy
679 3005 Ysgol Llanfair Cilgedin — Ysgol Gynradd Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru a Gynorthwyir
679 3310 Ysgol Magwyr — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir
679 3327 Ysgol yr Archesgob Rowan Williams — Ysgol Gynradd Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru a Gynorthwyir
Casnewydd
680 3311 Ysgol Iau Waddoledig Caerllion
680 3312 Ysgol Babanod Waddoledig Caerllion
Caerdydd
681 3338 Ysgol y Santes Anne — Ysgol Babanod yr Eglwys yng Nghymru
681 3341 Yagol y Santes Monica — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
681 3343 Ysgol Sant Paul — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
681 3344 Ysgol Tredegarville — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
681 3346 Ysgol Dinas Llandaf — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
681 3355 Ysgol y Santes Fair y Wyryf — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
681 3357 Ysgol yr Holl Seintiau — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
681 3366 Ysgol Sain Ffagan — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
681 3371 Ysgol Dewi Sant — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
681 3373 Ysgol yr Esgob Childs — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
YSGOLION CYNRADD GWIRFODDOL A REOLIR
Ynys Môn
660 3033 Ysgol Y Parch Thomas Ellis
660 3034 Ysgol Parc Y Bont
660 3035 Ysgol Llangaffo
Gwynedd
661 3004 Ysgol Pont y Gof
661 3005 Ysgol Gynradd Maesincla
661 3009 Ysgol y Faenol
661 3010 Ysgol Foel Gron
661 3013 Ysgol Llandygai
661 3018 Ysgol Gynradd Llandwrog
661 3023 Ysgol Llanystumdwy
661 3029 Ysgol Tregarth
661 3030 Ysgol Gynradd Cae Top
661 3037 Ysgol Machreth
661 3041 Ysgol Gynradd Dolgellau
Conwy
662 3007 Ysgol Porth y Felin
662 3020 Ysgol Babanod Llanfairfechan
662 3021 Ysgol Llangelynnin
662 3024 Ysgol Pencae
662 3032 Ysgol Ysbyty Ifan
662 3038 Ysgol Sain Siôr — Ysgol Gynradd a Reolir
662 3039 Ysgol Llanddoged
662 3040 Ysgol Eglwysbach
662 3059 Ysgol Llanddulas — Ysgol a Reolir
662 3062 Ysgol Betws Yn Rhos — Ysgol Gynradd
Sir Ddinbych
663 3020 Ysgol Tremeirchion
663 3024 Ysgol Llanelwy — Ysgol Gynradd Wirfoddol Babanod yr Eglwys yng Nghymru
663 3034 Ysgol Llantysilio — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru a Reolir
663 3044 Ysgol Llanbedr — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru a Reolir
663 3045 Ysgol Reoledig Llanfair D.C.
663 3050 Ysgol Borthyn — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir
663 3057 Ysgol Reoledig Pantpastynog
663 3061 Ysgol Dyffryn Iâl
Sir y Fflint
664 3002 Ysgol Gynradd Nannerch
664 3004 Ysgol Reoledig Rhes-y-cae
664 3021 Ysgol Gynradd Nercwys
Wrecsam
665 2265 Ysgol Borderbrook
665 3028 Ysgol Sain Pedr — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
665 3035 Ysgol Y Wern
665 3036 Ysgol Gynradd Pentre
665 3042 Ysgol Gynradd Eutun
665 3052 Ysgol Iau St Giles
665 3053 Ysgol Babanod St Giles
Powys
666 3000 Llanfechain — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
666 3002 Ysgol Trefaldwyn — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
666 3005 Ysgol Gungrog — Ysgol Babanod yr Eglwys yng Nghymru
666 3016 Ysgol Ffordun — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
666 3021 Ysgol Llandysilio — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
666 3022 Ysgol Castell Caereinion — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
666 3023 Ysgol Bugeildy — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
666 3026 Ysgol Gladestry — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
666 3028 Ysgol Hawau — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
666 3030 Ysgol Llandrindod — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
666 3031 Ysgol Y Bontnewydd ar Wy — Ysgol Gynradd Wirfoddol
666 3032 Ysgol Gwystre
666 3033 Ysgol Cleirwy — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
666 3034 Ysgol Ffynnon Gynydd
666 3035 Ysgol Trefyclo — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
666 3036 Ysgol Rhaeadr Gwy — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
666 3037 Ysgol Llanelwedd — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
666 3042 Ysgol Cwmdu — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
666 3046 Ysgol Gynradd Llangedwyn
666 3048 Ysgol Llangatwg — Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
666 3050 Ysgol Llan-gors — Ysgol Gynradd Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru
Ceredigion
667 3058 Ysgol Gynradd Wirfoddol Mefenydd
667 3060 Ysgol Trefilain — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir
Sir Benfro
668 3033 Ysgol Angle — Ysgol Wirfoddol a Reolir
668 3034 Ysgol Burton — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir
668 3035 Ysgol Cilgerran — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir
668 3036 Ysgol Cosheston — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir
668 3040 Ysgol Llangwm — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir
668 3042 Ysgol Maenorbŷr — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir
668 3046 Ysgol Mathru — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir
668 3047 Ysgol Penalun — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir
668 3050 Ysgol Spittal — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir
668 3051 Ysgol Stackpole — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir
668 3052 Ysgol Babanod Dinbych-y-pysgod — Ysgol Wirfoddol a Reolir
668 3053 Ysgol Hwlffordd — Ysgol Wirfoddol Iau a Reolir
668 3058 Ysgol Ger Y Llan — Ysgol Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru a Reolir
668 3055 Ysgol St Florence — Ysgol Wirfoddol a Reolir
668 3057 Ysgol Hubbertson — Ysgol Feithrin a Chynradd Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru a Reolir
Sir Gaerfyrddin
669 3000 Ysgol Wirfoddol Abergwili
669 3002 Ysgol Tremoilet — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir
669 3003 Ysgol Talacharn — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir
669 3004 Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanddarog
669 3008 Ysgol Capel Cynfab
669 3013 Ysgol Glan-y-Fferi — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir
669 3025 Ysgol John Vaughan, Llangynog
669 3026 Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanllwni
669 3032 Ysgol Cil-y-cwm — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir
Pen-y-bont ar Ogwr
672 3013 Ysgol Penyfai — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
Bro Morgannwg
673 3037 Ysgol Sain Nicolas — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
673 3047 Ysgol Llanbedr-y-fro — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
673 3057 Ysgol Gwenfo — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
Tor-faen
678 3027 Ysgol Sain Pedr — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
Sir Fynwy
679 3004 Ysgol Llantilio — Ysgol Gynradd Wirfoddol yr Eglwys
679 3022 Ysgol Brynbuga — Ysgol Gynradd Wirfoddol yr Eglwys
679 3031 Ysgol Rhaglan — Ysgol Gynradd Wirfoddol yr Eglwys
679 3032 Ysgol Osbaston — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir
Casnewydd
680 3000 Ysgol Malpas — Ysgol Iau yr Eglwys yng Nghymru
680 3001 Ysgol Malpas — Ysgol Babanod yr Eglwys yng Nghymru
Caerdydd
681 3000 Ysgol Llaneirwg — Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru
YSGOLION CYNRADD SEFYDLEDIG
Powys
666 5200 Ysgol Gynradd Llanerfyl
YSGOLION UWCHRADD GWIRFODDOL A GYNORTHWYIR
Rhondda Cynon Taf
674 4604 Ysgol Sant Ioan Fedyddiwr — Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru
Caerdydd
681 4608 Ysgol Esgob Llandaf — Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru
681 4609 Ysgol Teilo Sant — Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru

RHAN II YSGOLION SYDD Å CHYMERIAD CREFYDDOL CATHOLIG RHUFEINIG

AALl Rhif AALl Rhif yr Ysgol Enw'r Ysgol
YSGOLION CYNRADD GWIRFODDOL A GYNORTHWYIR
Ynys Môn
660 3304 Ysgol Gatholig Rufeinig y Santes Fair
Gwynedd
661 3300 Ysgol Santes Helen
661 3301 Ysgol Ein Harglwyddes
Conwy
662 3303 Ysgol Gatholig Rufeinig y Bendigaid William Davies
662 3333 Ysgol Sant Ioseff — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
Sir Ddinbych
663 3315 Ysgol Mair — Ysgol Gatholig Rufeinig
Sir y Fflint
664 3306 Ysgol y Santes Fair — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
664 3307 Ysgol Gatholig Rufeinig y Santes Gwenffrewi
664 3308 Ysgol Gatholig Rufeinig Dewi Sant
664 3311 Ysgol Sant Antwn — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
664 3312 Ysgol yr Hybarch Edward Morgan — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
Wrecsam
665 3334 Ysgol y Santes Fair — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
665 3343 Ysgol y Santes Anne — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
Powys
666 3319 Ysgol Sant Ioseff — Ysgol Gatholig Rufeinig a Gynorthwyir
666 3320 Ysgol y Santes Fair — Ysgol Gatholig Rufeinig a Gynorthwyir
Ceredigion
667 3318 Ysgol Sant Padarn — Ysgol Gynradd Wirfoddol Gatholig Rufeinig a Gynorthwyir
Sir Benfro
668 3311 Ysgol yr Enw Sanctaidd — Ysgol Wirfoddol Gatholig Rufeinig
668 3312 Ysgol y Santes Fair — Ysgol Wirfoddol Gatholig Rufeinig
668 3313 Ysgol y Fair Ddihalog — Ysgol Wirfoddol Gatholig Rufeinig
668 3314 Ysgol Sant Ffransis — Ysgol Wirfoddol Gatholig rufeinig
668 3319 Ysgol Teilo Sant — Ysgol Wirfoddol Gatholig Rufeinig
Sir Gaerfyrddin
669 3300 Ysgol y Santes Fair, Llanelli — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
669 3301 Ysgol y Santes Fair, Caerfyrddin — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
Abertawe
670 3300 Ysgol Iau Sant Ioseff
670 3302 Ysgol Babanod Cadeirlan Sant Ioseff
670 3303 Ysgol Dewi Sant — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
670 3305 Ysgol Illtud Sant — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
670 3308 Ysgol Sant Ioseff — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
Castell-nedd Port Talbot
671 3309 Ysgol Sant Ioseff — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
671 3310 Ysgol Babanod Sant Ioseff
671 3314 Ysgol Gatholig y Santes Therese
671 3316 Ysgol Iau Sant Ioseff
Pen-y-bont ar Ogwr
672 3311 Ysgol Gatholig y Santes Fair a Sant Padrig
672 3315 Ysgol Sant Robert — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
672 3322 Ysgol y Santes Fair — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
Bro Morgannwg
673 3361 Ysgol San Helen — Ysgol Babanod a Meithrin Gatholig Rufeinig
673 3368 Ysgol Sant Ioseff — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
673 3369 Ysgol San Helen — Ysgol Iau Gatholig Rufeinig
Rhondda Cynon Taf
674 3309 Ysgol y Forwyn Fair — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
674 3312 Ysgol Sant Mihangel — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
674 3313 Ysgol Sant Gabriel a Sant Raffael — Ysgol Gynradd Gatholig
674 3314 Ysgol y Santes Margaret — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
Merthyr Tudful
675 3300 Ysgol Illtud Sant — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
675 3306 Ysgol y Santes Fair — Ysgol gynradd Gatholig Rufeinig
675 3307 Ysgol Gynradd Sant Aloysius
Caerffili
676 3310 Ysgol San Helen — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
Blaenau Gwent
677 3308 Ysgol Gatholig Rufeinig y Santes Fair — Brynmawr
677 3315 Ysgol yr Holl Seintiau — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
677 3316 Ysgol Gatholig Rufeinig Sant Ioseff
Tor-faen
678 3319 Ysgol Alban Sant — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
678 3321 Morwyn Fair yr Angylion — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
678 3322 Ysgol San Ffransis — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
678 3324 Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant
Sir Fynwy
679 3326 Ysgol y Santes Fair — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
679 5200 Y Forwyn Fair a Sant Mihangel — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
Casnewydd
680 3300 Ysgol Dewi Sant — Ysgol Iau ac Ysgol Babanod Gatholig Rufeinig
680 3301 Ysgol Sant Ioseff — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
680 3302 Ysgol y Santes Fair — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
680 3304 Ysgol Sant Mihangel — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
680 3305 Ysgol Sant Padrig — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
680 3306 Ysgol Sant Gabriel — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
680 3307 Ysgol Sant David Lewis — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
Caerdydd
681 3321 Ysgol Sant Alban — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
681 3323 Ysgol Sant Cuthbert — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
681 3328 Ysgol Sant Ioseff — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
681 3330 Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair
681 3332 Ysgol Sant Padrig — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
681 3334 Ysgol Sant Pedr — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
681 3336 Ysgol Sant Cadog — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
681 3351 Ysgol Crist y Brenin — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
681 3353 Ysgol Sant John Lloyd — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
681 3354 Ysgol y Teulu Sanctaidd — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
681 3370 Ysgol y Santes Bernadette — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
681 3374 Ysgol Sant Phillip Evans — Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig
681 3375 Ysgol Sant Ffransis — Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir
YSGOLION UWCHRADD GWIRFODDOL A GYNORTHWYIR
Sir Ddinbych
663 4601 Ysgol Gatholig Rufeinig y Bendigaid Edward Jones
Sir y Fflint
664 4600 Ysgol Uwchradd Gatholig Rufeinig Sant Richard Gwyn
Sir Gaerfyrddin
669 4600 Ysgol Gyfun Gatholig Rufeinig Sant John Lloyd
Abertawe
670 5400 Ysgol Gatholig Rufeinig yr Esgob Vaughan
Castell-nedd Port Talbot
671 4601 Ysgol Gyfun Gatholig Rufeinig Sant Ioseff
Pen-y-bont ar Ogwr
672 4601 Ysgol Uwchradd Gatholig Rufeinig yr Archesgob Mcgrath
Bro Morgannwg
673 4612 Ysgol Uwchradd Gatholig Rufeinig Sant Richard Gwyn
Rhondda Cynon Taf
674 4602 Ysgol Uwchradd Gatholig Rufeinig y Cardinal Newman
Merthyr Tudful
675 4600 Ysgol Uwchradd Gatholig Rufeinig yr Esgob Hedley
Tor-faen
678 5402 Ysgol Uwchradd Gatholig Rufeinig Sant Alban
Casnewydd
680 4602 Ysgol Uwchradd Gatholig Rufeinig Sant Ioseff
Caerdydd
681 4600 Ysgol Uwchradd Gatholig Rufeinig Illtud Sant
681 4611 Ysgol Uwchradd Gatholig Corff Crist
681 5402 Ysgol Uwchradd Gatholig Rufeinig y Fair Ddihalog
YSGOLION CYNRADD AC UWCHRADD GWIRFODDOL A GYNORTHWYIR
Sir Ddinbych
663 5900 Ysgol Y Santes Brid

RHAN III YSGOLION SYDD Å CHYMERIAD CREFYDDOL CATHOLIG RUFEINIG AC ANGLICANAIDD

AALl Rhif AALl Rhif yr Ysgol Enw'r Ysgol
Wrecsam
665 4602 Ysgol Uwchradd Gatholig Rufeinig ac Anglicanaidd Sant Ioseff

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n dod i rym ar 1 Mai 2007, yn dynodi ysgolion yng Nghymru sydd â chymeriad crefyddol yn unol ag adran 69(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“y Deddf”).

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn cymryd lle Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1814), a Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol a Diwygiadau (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1734 (Cy.177)).

Gwneir y Gorchymyn hwn er mwyn adlewyrchu:—

(i) bod rhai ysgolion a restrir yn y Gorchmynion a wnaed yn 1999 ac yn 2004 wedi cau;

(ii) bod rhai ysgolion a restrir yn y Gorchmynion a wnaed yn 1999 ac yn 2004 wedi newid categori; a

(iii) bod rhai ysgolion wedi agor.

Mae dynodiad yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol yn berthnasol ar gyfer nifer o ddibenion o dan y Ddeddf, yn enwedig:—

(a) fel rhan o'r mecanwaith ar gyfer penderfynu ar ffurf yr addysg grefyddol sydd i'w darparu o dan Atodlen 19 i'r Ddeddf;

(b) fel rhan o'r mecanwaith ar gyfer penderfynu ar ffurf yr addoli ar y cyd sydd i'w ddarparu o dan Atodlen 20 i'r Ddeddf;

(c) fel rhan o'r mecanwaith ar gyfer penderfynu ar faterion staffio ysgol o dan adrannau 58 i 60 o'r Ddeddf;

(d) at ddibenion cael gwared ar asedau o dan baragraff 5 o Atodlen 3 i'r Ddeddf, er mwyn ailgyfeirio asedau er lles ysgolion o'r un crefydd neu o'r un enwad crefyddol.

Ni chaiff dynodiad yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol ei dderbyn fel tystiolaeth ddiwrthbrawf fod gwaddoliad wedi cael ei ddal neu ei ddefnyddio, yn rhannol neu'n gyfangwbl, mewn cysylltiad â'r darpariaethau o addysg grefyddol yn yr ysgol at ddibenion Adran 554(2) o Ddeddf Addysg 1996. Mae adran 554 yn galluogi awdurdodau priodol unrhyw enwad crefyddol neu unrhyw grefydd (ond fel arfer awdurdodau esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru) i wneud darpariaeth newydd ar gyfer gwaddoliadau sy'n cael eu dal neu eu defnyddio ar gyfer darparu addysg grefyddol. Mae hyn fel arfer yn digwydd o ganlyniad i fod ysgol yn cau. Wrth gadarnhau cymhwystra ar gyfer gorchymyn, byddid yn ystyried gweithredoedd yr ymddiriedolaeth a thystiolaeth ategol.

Nid yw dynodiad gan y Gorchymyn hwn ynddo'i hun yn fodd i ennill cymeriad crefyddol na newid cymeriad crefyddol. Cydnabod y mae dynodiad nodweddion presennol penodol yr ysgol neu ei chorff llywodraethu fel y disgrifir hwy yn Rheoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Y Weithdrefn Ddynodi) 1998 (S.I. 1998/2535). O dan y Ddeddf rhaid i ysgol gau yn gyntaf os yw i ennill cymeriad crefyddol, onid oes ganddi un eisoes fel cwestiwn o ffaith, neu os yw i newid ei chymeriad crefyddol.

Yng Nghymru, yr unig grefydd y mae'n ofynnol, neu y gall fod yn ofynnol, darparu addysg grefyddol yn yr ysgol yn unol â'i daliadau yn unol ag Atodlen 19 i'r Ddeddf ar hyn o bryd yw'r grefydd Gristnogol. Yr enwadau crefyddol perthnasol o fewn Cristnogaeth yw'r Eglwys yng Nghymru a'r Eglwys Gatholig Rufeinig.

Nid yw datganiad yn y Gorchymyn mewn perthynas ag ysgol fod y grefydd neu'r enwad crefyddol y mae'n ofynnol, neu y gall fod yn ofynnol, darparu addysg grefyddol yn unol â'i ddaliadau yn yr ysgol yn unol ag Atodlen 19 i'r Ddeddf, yn Gatholig Rufeinig yn penderfynu a yw ysgol yn ysgol Eglwysig Gatholig Rufeinig neu beidio yn ôl cyfraith ganon.

(1)

1998 p.31. Diwygiwyd adran 69 gan adran 215(1) o Ddeddf Addysg 2002, a pharagraff 104 o Atodlen 21 iddi (p. 32). Gweler adran 142(1) i gael ystyr “prescribed” a “regulationsBack [1]

(2)

Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Back [2]

(3)

O.S. 1998/2535. Back [3]

(4)

O.S. 1999/1814. Back [4]

(5)

O.S. 2004/ 1734 (Cy. 177) Back [5]

(6)

Diwygiwyd Atodlen 19 gan adran 215(1) o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 117 o Atodlen 21 iddi. Back [6]